Mae'r cystadlu yn cychwyn yn Y Pafiliwn Rhyngwladol am 9.15yb
Hon yw ein prif gystadleuaeth ac mae’n addo noson o berfformiadau corawl o’r safon uchaf. Bydd y corau llwyddiannus yn cystadlu am Dlws “Pavarotti” Côr y Byd. Am y tro cyntaf, bydd ein nos Sadwrn yn cynnwys dawns - gyda’r ddau barti dawns gorau’n cystadlu am dlws newydd Pencampwyr Dawns.
Pinacl y noson ysbrydoledig hon fydd perfformiad arbennig iawn gan sêr corau Cymru, Only Men Aloud.
Tocynnau: £21- £26
Bryn Fôn a’r Band (ar y cyd gyda Gwyl "Fringe" Llangollen)
Cyngerdd: Neuadd y Dref Llangollen am 8.00yh
Tocynnau: £12.50
Unwaith eto bydd Neuadd y Dref Llangollen yn leoliad ar gyfer un o'n cyngherddau "Gyda'r Hwyr", gyda Bryn Fon ac ennillydd y gystadleuaeth mic agored.
< Tudalen flaenorol: Dydd Gwener 12 Gorffennaf / Tudalen 5 allan o 6 / Tudalen nesaf: Dydd Sul 14 Gorffennaf >