Diwrnod cymunedol llawn hwyl i’r teulu cyfan ar safle’r Eisteddfod. Bandiau byw a rhywbeth at ddant cerddorol pawb. Gallwch fwynhau roc neu reggae, pop, clasurol neu gyfansoddiadau gwreiddiol drwy gydol y dydd. Cyfle i glywed talentau newydd, DJs a dawns ar ein llwyfannau awyr agored. Bydd bar trwyddedig a lluniaeth ar gael drwy gydol y digwyddiad. Prynhawn cyffrous o gerddoriaeth byw sy’n arweiniad perffaith i’n cyngerdd ffantastig gyda’r nos yn y prif Bafiliwn.
Bydd yr Eisteddfod yn cloi gyda noson arbennig yng nghwmni brenin yr allweddellau a’r arweinydd band Jools Holland, ynghyd â’i osgordd hynod dalentog. Yn cynnwys cyn-ddrymiwr y Squeeze, Gilson Lavis a’r cantorion gwâdd Ruby Turner a Louise Marshall.
Gyda thân gwyllt yn ddiwedd i’r sioe, gallwch ddisgwyl diweddglo llachar a chyffrous i’r Eisteddfod eleni!
Tocynnau: £30 - £36
< Tudalen flaenorol: Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf / Tudalen 6 allan o 6