Mae Eisteddfod Llangollen yn dibynnu'n helaeth ar gefnogaeth gan unigolion a chwmnïau. Bydd rhai'n rhoi cyfraniadau a grantiau, mae eraill yn cynnig gwasanaethau ac eraill yn rhoi rhoddion hael o fwyd a chefnogaeth faterol. Mae ein noddwyr yn arbennig o bwysig i ni. Ac wrth gwrs byddai'n amhosibl i ni wneud dim heb y nifer fawr o wirfoddolwyr sy'n gweithio gyda ni trwy'r flwyddyn ac yn enwedig yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Dilynwch y dolenni isod i weld sut gallwch chi helpu i gefnogi'r Eisteddfod.
Mae CDau a DVDau o rai o gystadlaethau eleni ar gael i'w prynnu.
Mae rhai hefyd ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol.
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli a fydd yn eich galluogi i gymryd rhan a dysgu sgiliau newydd. Mae bron i 800 o bobl yn gwirfoddoli bob blwyddyn, rhai ar gyfer wythnos yr Ŵyl yn unig ac eraill yn ystod y flwyddyn wrth baratoi i lwyfannu’r Ŵyl.
Wneud cyfraniad yn ffordd wirioneddol werthfawr o gefnogi Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i sicrhau bod y 'Profiad Llangollen' yn parhau. Gall eich rhodd yn ein helpu i ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cynnig cyfle i gwmnïau i fod yn rhan o rywbeth unigryw, Gŵyl sy'n dwyn y byd at ei gilydd mewn dyffryn hardd yng Ngogledd Cymru. Mewn amgylchedd cadarnhaol, diwylliannol, rhyngwladol, bydd eich cleientiaid, cwsmeriaid a staff yn sicr o deimlo eu bod wedi cwrdd y byd cyfan mewn un man. Ein cyrchfan berfformiadau rhyngwladol yw Y LLE i chi gyflawni eich amcanion busnes a CSR.
Dechreuwyd Cyfeillion Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, neu FLIME fel y caiff ei adnabod, ym 1974 gan Michael Fay ac aelodau eraill o Bwyllgor Cyhoeddusrwydd yr Eisteddfod i gefnogi'r Eisteddfod. O ganlyniad i'w waith, gwnaethpwyd rhoddion i gronfeydd yr Eisteddfod bob blwyddyn, a oedd yn caniatáu prynu offer yn amrywio o seddi i gyfrifiaduron, seinyddion i gamerâu diogelwch, ac mae hefyd yn cefnogi'r prosiect archifau. Yn fwy diweddar, rhoddir cefnogaeth i gystadleuwyr o rannau tlotaf y byd i helpu gyda'r gost o aros yn eu llety yn Llangollen ar gyfer yr Eisteddfod.