Cyfeillion Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen (FLIME)

Cliciwch i wneud llun mwy

Dechreuwyd Cyfeillion Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, neu FLIME fel y caiff ei adnabod, ym 1974 gan Michael Fay ac aelodau eraill o Bwyllgor Cyhoeddusrwydd yr Eisteddfod i gefnogi'r Eisteddfod. O ganlyniad i'w waith, gwnaethpwyd rhoddion i gronfeydd yr Eisteddfod bob blwyddyn, a oedd yn caniatáu prynu offer yn amrywio o seddi i gyfrifiaduron, seinyddion i gamerâu diogelwch, ac mae hefyd yn cefnogi'r prosiect archifau. Yn fwy diweddar, rhoddir cefnogaeth i gystadleuwyr o rannau tlotaf y byd i helpu gyda'r gost o aros yn eu llety yn Llangollen ar gyfer yr Eisteddfod.

Daw’r Cyfeillion o bob cwr o'r byd. Mae'r Cyfeillion wedi cefnogi'r Eisteddfod ers 35 mlynedd. Dros y cyfnod hwn cyfrannwyd £350,000. Disgwylir i hyn gynyddu yn sylweddol yn y dyfodol.

Mae’r Cyfeillion yn Elusen Gofrestredig, ar wahân i'r Eisteddfod ei hun. Pennir cyfraddau tanysgrifio ar gyfer y Cyfeillion ar lefel fel gall unrhyw un sydd â diddordeb ymuno. Mae'r cyfraddau tanysgrifio hyn y cyfraddau isaf ac mae llawer o aelodau hael yn talu llawer mwy. Mae llawer o aelodau hefyd yn sylweddol gynyddu gwerth eu tanysgrifiad trwy dalu trwy GYMORTH RHODD, sy’n caniatáu adennill eu treth.

Ar ymuno â’r Cyfeillion, byddwch yn:

  • Cadwch mewn cysylltiad â’r Eisteddfod trwy’r flwyddyn
  • Helpu’r Eisteddfod gynnal mwy o gystadlaethau gyda mwy o amrywiaeth
  • Gallu mynegi eich barn a’ch syniadau ar yr hyn efallai y gwnaiff yr Eisteddfod
  • Helpu taenu dylanwad yr Eisteddfod
  • Cael blaenoriaeth i archebu’n gynnar ar gyfer holl sesiynau dydd a chyngherddau’r Eisteddfod - gan gynnwys disgownt o 10% ar gyngherddau a sesiynau dydd Mercher i ddydd Sadwrn
  • Cael rhifynnau rheolaidd o newyddlen y Cyfeillion, Limelight
  • Cael defnyddio Pabell y Cyfeillion yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ar gyfer te a choffi ac i gyfarfod â Chyfeillion eraill
  • Cael bathodyn deniadol gyda logo dwylo’r Cyfeillion

Y cyfraddau tanysgrifio ydi:
Oedolion - £16.00 (tramor £20.00)
Cyd-Aelodaeth - £23.00 (tramor £27.00)
Teulu - £29.00 (tramor £33.00)
Myfyriwr - £10.00 (tramor £14.00)

Disgownt o £1 ar aelodaeth am daliad trwy gynllun debyd uniongyrchol (y DU yn unig).
Trefniadau arbennig ar gyfer Grwpiau ac Ysgolion.

Cliciwch yma i lawrlwytho mwy o wybodaeth a ffurflen gais aelodaeth

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Ysgrifennydd Aelodaeth, FLIME
E-bost: info@flime.org.uk
Ffôn: 01978 862000

Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen,
Y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol,
Ffordd yr Abaty,
Llangollen.
LL20 8SW

< Tudalen flaenorol: Nawdd / Tudalen 5 allan o 5