Rhoddion

Cliciwch i wneud llun mwy

Mae rhoddion yn ffordd wirioneddol werthfawr o gefnogi Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i sicrhau bod 'Profiad Llangollen' yn parhau. Gall eich rhodd ein helpu i ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Cliciwch yma i roi ar-lein neu anfonwch eich rhodd i:

Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen,
Y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol,
Ffordd yr Abaty,
Llangollen
Sir Ddinbych
LL20 8SW

Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen – Rhif Elusen Gofrestredig 504620

Eich Rhodd: Etifeddiaeth Llangollen

Gadewch rodd i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn eich Ewyllys neu cofiwch am rywun annwyl trwy wneud cyfraniad er eu cof. Gall y rhodd lleiaf wneud gwahaniaeth mawr i helpu i gefnogi gwaith yr Ŵyl, boed hynny i helpu dod â mwy o gystadleuwyr i Langollen, ariannu gwobr am sawl blwyddyn neu fel becwêdd cyffredinol.

Gadael Rhodd

Mae rhoddion yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'r gwaith a wnawn. Wrth wneud eich Ewyllys, mae yna nifer o bethau i'w hystyried. Bydd angen i chi wneud rhestr o'ch asedau, penderfynu sut ydych yn bwriadu rhannu eich ystâd a phwy i benodi fel ysgutor.

Efallai eich bod eisoes wedi gwneud Ewyllys, ond yn dymuno ei newid neu ei ddiweddaru er mwyn adlewyrchu eich dymuniadau’n well. Yn y naill achos, rydym eisiau helpu gwneud y broses mor syml â phosibl, felly rydym wedi atodi rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol i chi ei ystyried.

Does dim ymrwymiad i adael rhodd i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen - ond bydd gwneud hynny yn helpu sicrhau ein gwaith ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Os ydych eisoes yn y broses o wneud eich Ewyllys ac os hoffech adael rhodd i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, cofiwch ddefnyddio eich enw llawn, cyfeiriad a rhif elusen.

Lawrlwytho mwy o wybodaeth

Microsoft Word Format - .doc
Adobe PDF File - .pdf

Rhoddion Er Cof

Mae hon yn ffordd werthfawr a chadarnhaol i ddathlu bywyd rhai annwyl tra'n helpu Llangollen i gynnal ei hetifeddiaeth at gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Gall cofio bywyd rhywun annwyl helpu sicrhau eu bod yn cael eu cofio am yr holl resymau cywir.

Os ydych am wneud rhodd er cof neu angen cyngor ar sut i adael rhodd yn eich Ewyllys, lawrlwythwch yr wybodaeth ynghlwm. Mae hon yn rhoi'r holl wybodaeth rydych ei angen, ond pe baech angen siarad â rhywun, cysylltwch â:-

Christine Holden Dukes, Rheolwr Cynhyrchu Incwm
E-bost: christined@international-eisteddfod.co.uk
Ffôn: 01978 862007