Y Cavern Club yn cydweithio gydag Eisteddfod Ryngwladol

Cyhoeddodd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen heddiw y bydd clwb cerddoriaeth enwocaf y byd, The Cavern Club, yn cynnal llwyfan pop-yp am y tro cyntaf erioed yn yr ŵyl eleni. Fe fydd artistiaid o’r clwb yn Lerpwl yn ymuno hefo’r Kaiser Chiefs ym mharti olaf yr ŵyl, Llanfest, ar ddydd Sul 8fed Gorffennaf – union 50 mlynedd ers rhyddhau ffilm cartŵn y Beatles, Yellow Submarine.

Bydd y cydweithrediad cyffrous hwn yn gweld cerddorion preswyl The Cavern Club yn diddanu cynulleidfaoedd Llangollen gyda pherfformiadau ar Lwyfan Glôb Lindop Toyota.

Mae’r clwb eiconig wedi bod wrth galon sîn gerddoriaeth Lerpwl am dros saith degawd ac mae’n bwriadu dathlu hanes cerddoriaeth The Beatles yn yr ŵyl, trwy drefnu amryw o berfformiadau gan gantorion profiadol o Lerpwl.

Hefyd yn rhedeg ers 70 mlynedd, mae’r Eisteddfod Ryngwladol wedi bod wrthi’n hyrwyddo heddwch ac ewyllys da trwy gyfrwng cerddoriaeth a pherfformiadau yn nhref brydferth Llangollen, gogledd Cymru. Fe wnaeth yr ŵyl hyd yn oed helpu lansio gyrfa Luciano Pavarotti*, ac mae’n parhau i ddenu dros 4,000 o berfformwyr a chymaint â 50,000 o ymwelwyr dros yr wythnos.

Dywedodd Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Dr Rhys Davies: “Cafodd yr Eisteddfod Ryngwladol ei sefydlu er mwyn lleddfu effeithiau’r rhyfel ac i ddod a chymunedau o bedwar ban byd ynghyd trwy gerddoriaeth a dawns, yn ysbryd cyfeillgarwch a heddwch rhyngwladol.

“Fe fydd gwerthoedd ac enwogrwydd aruthrol The Beatles yn ein helpu i ledaenu’r neges hon hyd yn oed ymhellach. Rydym yn hynod o falch o gael cydweithio gyda’r Cavern Club a bydd y bartneriaeth yn ffordd o gyflwyno hyd yn oed mwy o steiliau cerddorol cyfoes i’r ŵyl, wrth barhau yn driw i’n gwerthoedd gwreiddiol.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr The Cavern Club, Bill Heckle: “Rydym wrth ein boddau o fod yn gweithio hefo Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wrth i ni baratoi at gynnal llwyfan pop-yp a hefyd nodi 50 mlynedd ers rhyddhau Yellow Submarine, sydd wedi dylanwadu ar gerddoriaeth a’r diwylliant poblogaidd ers hanner canrif.

“Mae’n gyfnod cyffrous iawn i ni, i Lerpwl ac i’r diwydiant pop ac mae cael y cyfle i ddathlu un o dalentau mwyaf Lerpwl yn un o’r gwyliau cerdd rhyngwladol mwyaf yn wych. Allwn ni ddim aros at Llanfest!”

I ddathlu’r bartneriaeth newydd, bu dawnswyr rhyngwladol o’r ŵyl (Sai Mayur) yn perfformio gydag artistiaid o’r Cavern Club ger cerflun eiconig o long danfor felyn y tu allan i Faes Awyr John Lennon Lerpwl ddoe (Ebrill 17eg).

Lansiwyd Llanfest yn 2011 er mwyn cyflwyno’r Eisteddfod i gynulleidfaoedd newydd o

bob cwr o’r wlad a’u denu i Langollen. Mae’r cyhoeddiad am ymddangosiad y Cavern Club a Kaiser Chiefs 2018 yn dilyn gig gwefreiddiol y band Cymreig Manic Street Preachers y llynedd, wnaeth godi to’r pafiliwn rhyngwladol yn niweddglo’r ŵyl y llynedd.