Hanes

“Miloedd o Dadau” – Cychwyn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen”
Yr Athro Chris Adams, Ebrill 2006

Cafodd yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol gyntaf ei chynnal yn Llangollen ym 1947. Yn y 70 mlynedd ers hynny, mae wedi tyfu’n un o wyliau cerddorol gorau’r byd. Dim ond cofnodion cyfoes y gellir eu dilysu a ddefnyddiwyd wrth baratoi’r hanes hwn. Rydyn ni’n ddyledus i Harold Tudor, o Goedpoeth ger Wrecsam am ffurfio’r cysyniad o gynnal cystadleuaeth gerddorol ryngwladol yng Nghymru fel dyfais i leddfu clwyfau’r Ail Ryfel Byd.

Mae gwreiddyn y syniad yn ymestyn yn ôl mor bell â 1943 pan ymwelodd aelodau o lywodraethau alltud â’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor, ymweliad a drefnwyd gan Tudor a oedd yn gweithio fel swyddog i’r Cyngor Prydeinig ar y pryd.

Erbyn diwedd 1945 roedd Tudor wedi mireinio a chaboli digon ar ei gysyniad i awgrymu y gallai gŵyl gorawl ryngwladol fod yn atodiad i’r Eisteddfod Genedlaethol ym 1947.

Roedd yna gefnogaeth gref a brwdfrydig oddi wrth bobl broffesiynol leol mewn dau gyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd fis Mai 1946 ond mynegwyd cryn bryderon hefyd. A fyddai unrhyw gorau’n dod yno? Addawodd y Cyngor Prydeinig helpu i ganfod corau o Ewrop a fyddai’n dod i Langollen. Ble byddai’r Eisteddfod yn cael ei chynnal?

Roedd yna gefnogaeth gref a brwdfrydig oddi wrth bobl broffesiynol leol mewn dau gyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd fis Mai 1946 ond mynegwyd cryn bryderon hefyd. A fyddai unrhyw gorau’n dod yno? Addawodd y Cyngor Prydeinig helpu i ganfod corau o Ewrop a fyddai’n dod i Langollen. Ble byddai’r Eisteddfod yn cael ei chynnal? Roedd W.S Gwynn Williams wedi gweld pabell yn Eisteddfod Môn a allai ddal 6,000 o bobl a brysiodd i drefnu gyda’i pherchnogion o Gaer y byddai ar gael ar gyfer Llangollen fis Mehefin 1947. Sut y gellid codi arian ar gyfer yr Eisteddfod? Gwrthododd y dref gynnig o gefnogaeth ariannol gan y Cyngor Prydeinig. Yn hytrach, cododd apêl gyhoeddus fwy na £1100 ar amrant – tua £35,000 yn arian 2006 – ar y ddealltwriaeth y byddai unrhyw arian dros ben yn mynd at ail Eisteddfod Ryngwladol ym 1948.

Yn ôl pob mesur posibl, yn ddiwylliannol, yn ddyngarol ac yn ariannol roedd Eisteddfod Ryngwladol 1947 yn llwyddiant digamsyniol. Roedd clod yn disgyn o bob cyfeiriad ar y trefnwyr, ar y sefydlwyr ac ar bob un o’r cystadleuwyr.

Ym 1953, daeth y Frenhines newydd, Elisabeth II, i ymweld â’r Eisteddfod fel rhan o’i thaith drwy Gymru ar ôl y coroni. Erbyn hynny, roedd yr Eisteddfod wedi ennill clod cyffredinol, ffurfiol ac anffurfiol. Roedd yn un o bedair gŵyl o Gymru i’w dewis i fod yn rhan o Ŵyl Prydain.

Beth sydd yna am Langollen sy’n cyfareddu cymaint ar bobl a dal i’w denu’n ôl? Rydyn ni’n credu mai’r hyn sydd i gyfrif am hynny yw wythnos lle mae’r brwdfrydedd sy’n cael ei rannu am gerddoriaeth a dawns yn dod y ffactor pwysicaf mewn bywyd.


Am un wythnos fis Gorffennaf bob blwyddyn, bydd y byd yn disgyn ar Langollen. Yn ystod y dydd, bydd cerddorion a dawnswyr rhyngwladol yn cystadlu mewn mwy nac 20 o gystadlaethau o’r safon uchaf. Bob nos, bydd y cystadleuwyr gorau a mwyaf lliwgar yn rhannu’r llwyfan mewn cyngherddau enwog gydag artistiaid proffesiynol, llawer wedi dechrau’u gyrfa yn Llangollen.

Mae Placido Domingo yn cydnabod mai ei brofiad proffesiynol cyntaf yn y Deyrnas Unedig oedd yn yr Eisteddfod Ryngwladol ym 1968 ac, ym 1955, roedd Luciano Pavarotti yn cystadlu gyda’i dad a dynion eraill o’i dref enedigol, Modena, yng nghystadleuaeth y corau meibion. Mae Kiri Te Kanawa, Jehudi Menhuin, José Carreras, Lesley Garrett, Bryn Terfel, Katherine Jenkins, Dennis O’Neil, James Galway, Nigel Kennedy, Elaine Paige, Michael Ball, a Montserrat Caballé ymysg y sêr cerddorol sydd wedi ymddangos yn y Cyngherddau Gala.