Alfie Boe a Van Morrison i ymddangos ar lwyfan Eisteddfod Ryngwladol 2018

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi cyfres o gyngherddau cyffrous ar gyfer 2018, sy’n cynnwys perfformiadau gan yr artist byd-enwog Alfie Boe, y canwr amlwg Van Morrison, y grŵp offerynnol Baroc, Red Priest a’r band gwerin Cymraeg llwyddiannus, Calan.

Cynhelir yr ŵyl o ddydd Mawrth 3ydd Gorffennaf – ddydd Sul 8fed Gorffennaf 2018 a bydd tocynnau ar gyfer y brif gyfres o gyngherddau ar gael i ddeiliaid Tocyn Gŵyl a Ffrindiau’r Eisteddfod am 9:30 fore heddiw [dydd Mawrth Tachwedd 28]. Fe all y cyhoedd gychwyn prynu eu tocynnau ar ddydd Iau 14eg Rhagfyr o 9:30yb ymlaen, o www.llangollen.net neu trwy alw’r swyddfa docynnau ar 01978 862 001.

Fe fydd unrhyw un sy’n dod yn aelod o Ffrindiau’r Eisteddfod yn ystod y pythefnos nesaf hefyd yn cael blaenoriaeth i docynnau.

Cyngerdd gydag Alfie Boe

Bydd digwyddiadau 2018 yn cychwyn ar ddydd Mawrth 3ydd Gorffennaf pan fydd un o artistiaid fwyaf poblogaidd, llwyddiannus a hoffus Prydain, Alfie Boe, yn camu i’r llwyfan. Ynghyd â’i ensemble o gerddorion proffesiynol, fe fydd y seren West End a Broadway yn perfformio caneuon o’i albymau hynod lwyddiannus ac yn datgan ei gariad tuag at gerddoriaeth – gan addo noson i’w chofio i’r gynulleidfa.

Y Casgliad Clasurol

Ar ddydd Mercher 4ydd Gorffennaf, bydd y gynulleidfa yn cael ei diddanu gan y cantorion brwdfrydig fydd yn cystadlu am deitl Llais Rhyngwladol y Dyfodol – a sefydlwyd er mwyn rhoi hwb i yrfa cantorion ifanc. Fe fydden nhw’n mynd benben am gyfran o £10,000 – gwobr hael sydd wedi cael ei rhoddi gan Barc Pendine ac Ymddiriedolaeth Bryn Terfel am yr ail flwyddyn yn olynol.   

Tra bydd y beirniaid yn penderfynu ar enillydd, fe fydd Cyfarwyddwr Cerdd newydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Vicky Yannoula, yn perfformio ar y piano. Yn ymuno â hi fydd y pianydd enwog, Peter Jablonski, a bydd y ddau yn cyflwyno perfformiad teimladwy wedi ei ysbrydoli gan bŵer a hud y piano – felly byddwch yn barod am dân gwyllt cerddorol!

Dathliad Rhyngwladol gyda’r gwestai arbennig Calan

Fe fydd cystadleuwyr rhyngwladol o bedwar ban byd yn dod ynghyd nos Iau 5ed Gorffennaf i gyflwyno môr o synau eclectig a lliwiau llachar, gan symud trwy’r gynulleidfa gyda baneri anferth yn ystod Gorymdaith y Cenhedloedd.

Bryd hynny, fe fydd gwerthoedd unigryw’r Eisteddfod Ryngwladol – sef i ddathlu a rhannu cerddoriaeth, dawns, heddwch a chyfeillgarwch – yn cael eu cyflwyno gyda chymorth disgyblion ysgol leol yn Neges Heddwch 2018.

Y band gwerin Calan fydd gwestai arbennig y noson a bydd eu dehongliadau gwahanol o gerddoriaeth werin Gymraeg yn sicr o ysgogi’r gynulleidfa i dapio’u traed a chlapio. Fe fydd y pum aelod yn swyno gwesteion y noson gyda’u sgiliau ar yr accordion, y delyn, gitâr, ffidil a’r bagpipes Cymreig wrth iddyn nhw chwarae alawon hardd a hiraethus.

Noson gyda Van Morrison

Ar nos Wener 6ed Gorffennaf, y canwr a’r cyfansoddwr unigryw a blaengar, Van Morrison, fydd yn meddiannu llwyfan eiconig y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol.

Fel un o artistiaid cerddorol mwyaf toreithiog ein cenhedlaeth, mae Van Morrison yn gweu cymysgedd o steiliau gwahanol i mewn i’w ganeuon –  gan gynnwys barddoniaeth stryd, jazz byrfyfyriol, cerddoriaeth werin Wyddelig, Afro Celtic Blues wailing, Blues, pop, roc, R&B, canu gwlad a gospel. Gyda’i ddawn naturiol i swyno cynulleidfa, bydd clywed ei gatalog cerddorol yn fyw ar y noson yn ddigwyddiad i’w gofio.

Côr y Byd gyda’r gwestai arebnnig Red Priest

Fe fydd cystadlu’r ŵyl yn cyrraedd uchafbwynt cyffrous ar ddydd Sadwrn 7fed Gorffennaf wrth i enillwyr y cystadlaethau corawl fynd benben am deitl nodedig Côr y Byd 2018 a tharian Pavarotti. Uchafbwynt arall fydd Pencampwriaeth Dawns y Byd 2018 lle bydd goreuon y categorïau dawns yn cystadlu yn y rownd derfynnol.

I ychwanegu at gyffro’r noson, fe fydd y grŵp Baroc offerynnol Red Preist yn perfformio fel gwestai arbennig yr Eisteddfod Ryngwladol. Yn enwog am eu perfformiadau deinamig, carismatig a blaenllaw – mae’r pedwarawd talentog yn sicr o gydio yn nychymyg y gynulleidfa gyda’i gallu technegol a’u dawn arbennig i ddiddanu.

Llanfest 2018

Bydd yr ŵyl yn tynnu at ei therfyn ar ddydd Sul 8fed Gorffennaf gyda Llanfest 2018, a bydd y perfformwyr yn cael eu chyhoeddi yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerddorol yr ŵyl, Vicky Yannoula: “Mae’r misoedd cyntaf yn fy swydd newydd fel Cyfarwyddwr Cerddorol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi bod yn gyffrous iawn a pleser pur oedd creu fy nghyfres gyntaf o gyngherddau. Teimlaf ei fod yn adlewyrchu rhagoriaeth ac amrywiaeth gerddorol y digwyddiad gwych yma.

“Rydym yn falch bod rhaglen yr ŵyl yn ymestyn ar draws sawl genre a chenhedlaeth, gan groesi ffiniau oed, diwylliant a ffydd. Mae yna rywbeth i bawb a bydd hyd yn oed mwy yn cael ei ychwanegu at y rhaglen yn y flwyddyn newydd wrth i ni gyhoeddi perfformwyr Llanfest 2018.”

Trwy gydol yr wythnos, fe fydd perfformiadau byw ychwanegol gan fandiau newydd, cerddorion a pherfformwyr stryd, yn ogystal â stondinau bwyd, diod a chrefftau a gweithgareddu i ddiddori’r plant.

Fe all Ffrindiau’r Eisteddfod a phobl sydd yn berchen Docyn Gŵyl archebu tocynnau o heddiw ymlaen trwy lenwi ffurflen archebu. Bydd gweddill y tocynnau yn mynd ar werth i’r cyhoedd am 9:30yb dydd Iau 14eg Rhagfyr ar  www.llangollen.net neu trwy ffonio’r swyddfa docynnau.

I ddod yn Ffrind i’r Esiteddfod a manteisio ar yr archebu buan, galwch 01978 862001 neu ewch i www.international-eisteddfod.co.uk/cy/get-involved/become-a-friend.

Am y newyddion diweddaraf am yr ŵyl, dilynwch @llangollen_Eist ar Twitter neu hoffwch ein tudalen Facebook, Llangollen International Musical Eisteddfod.