Bwyty Amffitheatr

Mae Event in a Tent yn ymuno ag Arlwyo Catherine Skates i ddod â Bwyty Amffitheatr newydd i chi, ar dir yr Eisteddfod, rhwng 3-9 Gorffennaf. Cymerwch hoe oddi wrth holl gyffro’r Eisteddfod i fwynhau pryd o fwyd blasus dan gysgod ein Tipi.

Ar ôl hyfforddi yn yr enwog Culinary Institute yn America, mae gan Catherine Skates dros 25 mlynedd o brofiad o baratoi prydau gwych. Gyda thîm o gogyddion proffesiynol, mae Catherine yn gweithio i gyfuno ei hoffter o fwyd, coginio arbennig, creadigrwydd a moeseg bwyd cryf i roi bwyd ar eich plât sy’n blasu gystal ag y mae’n edrych.

Os ydych wedi gwirioni ar brydau bwyd Clasurol, neu’n chwilfrydig am flasau cyfoes, bydd bwydlen Catherine yn siwr o’ch plesio. Gellir darparu ar gyfer cyfyngiadau dietegol arbennig, ac ar gyfer y llysieuwyr yn eich plith, na phoener; rydym yn addo na fydd yn rhaid i chi fwyta risotto madarch arall! Am fwy o fanylion am Catherine, ymwelwch a’i wefan: www.catherineskates.co.uk

Ar gyfer prydau bwyd yn ystod y dydd, archebwch o’r fwydlen Hamper Picnic. Ar gyfer Bwyta Cyn-Cyngerdd (seddi am 5:30yp), gweler y Fwydlen Bwyta Cyn-Cyngerdd.

Archebwch eich bwrdd yn: www.amphitheatrerestaurant.co.uk

Unrhyw gwestiynau, ffoniwch 01978 661 449.