Y corau o Galiffornia ar drywydd yr Aur yn Llangollen

Mae côr sydd wedi canu gyda grŵp y Rolling Stones ymhlith corau o Galiffornia sydd ar eu ffordd i Langollen yr haf hwn i chwilio am aur.

Bydd pedwar o brif gorau Califfornia – Talaith yr Aur, yn rhuthro i’r dref fechan hon yng Ngogledd Cymru ym mis Gorffennaf eleni i ymrysona ar gân er mwyn darganfod yr aur y maen nhw’n eu honni sydd ym mryniau Gwlad y Gân.

Mae’r bri enfawr sydd i gystadleuaeth Côr y Byd a chystadlaethau corawl eraill yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi denu’r corau i deithio dros 5,000 o filltiroedd i Gymru ar gyfer yr ŵyl, sy’n dathlu ei 70ain Eisteddfod eleni.

2015 Bob Cole Choir: The Bob Cole Conservatory Chamber Mixed Choir, o’r California State University yn Long Beach.

2015 Bob Cole Choir: The Bob Cole Conservatory Chamber Mixed Choir, o’r California State University yn Long Beach.

Yn ystod yr haf y llynedd, bu 40 o aelodau y Bob Cole Conservatory Chamber Mixed Choir, o Brifysgol Talaith Califfornia yn Long Beach, yn rhannu llwyfan gyda’r Rolling Stones ym Mharc Petco, San Diego, ond eleni – Llangollen fydd y lleoliad.

Daethant i glywed am yr Eisteddfod gan gydweithwyr oedd wedi bod yn yr Eisteddfod,  a dywedodd Dr Jonathan Talberg, Cyfarwyddwr Astudiaethau Corawl, Lleisiol ac Opera yn y Bob Cole Conservatory: “Mi wmawethon nhw ddweud wrthym eu bod wedi cael profiad bendigedig yn Llangollen, ac rydym yn edrych ymlaen yn arw i rannu peth o’n traddodiadau cerddorol gyda phawb yn yr ŵyl.

“Byddwn yn cyflwyno cerddoriaeth o Dde Califfornia yn ogystal â Cherddoriaeth Werin o’r America a chaneuon ysbrydol.

“Y Côr yw’r prif ensembl lleisiau cymysg yn y brifysgol gyda 40 o’r cantorion mwyaf dawnus o dan fy arweiniad i.

“Mae eu meysydd astudio yn amrywiol gan gynnwys opera, perfformio lleisiol, jazz, ac addysgu cerddoriaeth, ac rydym wedi cael perfformiadau a phrofiadau anhygoel yn ddiweddar gan gynnwys canu gyda’r Rolling Stones, ynghŷd â pherfformio yn y National Collegiate Choral Organization a’r American Choral Directors Conferences.”

Mi fydd y Santa Barbara Quire of Voyces, Davis Madrigal Singers a’r Palmdale’s Sunday Night Singers yn cystadlu gyda nhw, a’r holl gorau yn gobeithio mai nhw fydd yn cipio’r aur – y brif wobr wrth gystadlu yn erbyn corau o weddill y byd yn yr ŵyl eiconig hon.

Dyma ymweliad cyntaf y Santa Barbara Quire of Voyce â Chymru, ac yn ôl eu rheolwraig Patty Volner: “Mae pobl yn gofyn i ni sut oedden ni yng Nghaliffornia wedi clywed am Langollen, ond onid yw pawb yn y byd corawl yn gwybod am Langollen? Dyma bencadlys canu corawl y byd yn ein barn ni.

Ymweliad cyntaf y Santa Barbara Quire of Voyces â Chymru.

Ymweliad cyntaf y Santa Barbara Quire of Voyces â Chymru.

“Mi fydd cael bod yn Llangollen, wedi ein hamgylchynu gyda chymaint o gantorion o bob rhan o’r byd, sy’n rhannu ein hangerdd am gerddoriaeth, yn brofiad cwbl unigryw ac arbennig.

“Pan mae grwpiau o wahanol ddiwylliannau yn dod at ei gilydd,  mae’n rhoi cyfle i ni  ehangu ein gorwelion cerddorol, ac roeddem yn gytûn bod ein hymrwymiad ni i’r celfyddydau yn rhannu’r un gwerthoedd â sylfaenwyr yr Eisteddfod.  Rydym yn hynod gyffrous o gael bod yn rhan o’r ŵyl hon!”

Sefydlwyd y Quire gan y cyfarwyddwr artistig Nathan Kreitzer yn 1993 ac ychwanegodd Patty: “Côr cymysg ydyn ni a’n prif ffocws yw perfformio yng Nghaliffornia, fel arfer rhyw wyth cyngerdd bob tymor.  Fodd bynnag rydym yn ceisio mynd ar deithiau unwaith bob tair i bum mlynedd.

“Rydym yn ymroi i gyflwyno a recordio datganiadau o’r safon uchaf posib o weithiau cerddoriaeth gysegredig a cappella  o gyfnod y Dadeni a’r Cyfnod Modern.

“Bydd perfformio yn Llangollen yn ein cyflwyno i gynulleidfa ehangach a derbyn cydnabyddiaeth byd eang, yn ogystal â’n galluogi i ddysgu oddi wrth grwpiau eraill o  safon uchel hefyd.”

Mae’r Quire of Voyces wedi canu mewn Prif Offeren ym Masilica San Pedr yn y Fatican, Eglwysi Cadeiriol Caersallog a Chaergaint, yn ogystal â Naples, Fiena, Prâg, Bwdapest, Y Ffindir, Estonia a Sweden.

29 o fyfyrwyr ysgol uwchradd o Davis, ger Sacramento yw’r Northern Californian Davis Madrigal Singers, ac maent yn dychwelyd i Ogledd Cymru ddegawd wedi iddynt ennill cystadleuaeth Côr Siambr i Oedolion yn yr Eisteddfod.

Bill Hunter yw cydlynydd y daith ar eu cyfer, a dywedodd bod “y côr yn perfformio ystod eang o gerddoriaeth o’r 15fed Ganrif  i’r presennol, ac mae gwisgoedd y cantorion wedi ei ysbrydoli gan ddillad o gyfnod y dadeni.

“Rydym yn perfformio oddeutu 40 cyngerdd y flwyddyn yn yr Unol Daleithiau a thramor, ac rydym yn gweithio gyda’r gymuned trwy gynnig prydau bwyd i’r digartref, cynnal cyngherddau codi arian mewn ysbytai plant ac ysbytai milwrol, canolfannau i’r henoed, ac yn cynnal gweithdai corawl gyda myfyrwyr ifanc mewn ysgolion elfennol ac ysgolion canolradd.”

Sefydlwyd y Davis Singers yn 1966 a hwn fydd eu trydydd ymweliad ag Eisteddfod Llangollen.  Maent wedi ennill Cystadleuaeth Gorawl Ryngwladol Prâg, ac wedi perfformio yn Yr Almaen, Awstria, Lloegr, yng Nghapel y Sistine yn ogystal â St Peter’s Outside the Wall yn yr Eidal, ac yn Nhŷ Opera Sydney.

Dywedodd Dr Karen Gardias, eu Cyfarwyddwr Cerdd: “Rydym yn ymwybodol o’r fraint o fedru cystadlu yn yr Eisteddfod yn Llangollen ar ei phenblwydd yn 70 oed.

“Cawsom ein bendithio gyda’r gwahoddiad i berfformio yn yr ŵyl yn y gorffennol.  Roedd clywed corau o safon eithriadol uchel wedi bod yn brofiad newid bywyd i ni.  Diolch o galon am y cyfle i ddychwelyd i Langollen.”

Côr cymysg wedi ei leoli yn Palmdale yw’r Sunday Night Singers, a byddant hwy yn dod i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni am yr eildro.

Nhw ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth ar gyfer Corau Cymysg yn Llangollen yn 2008, o dan arweiniad sylfaenydd a chyfarwyddwr cerdd y côr, Mike McCullough.

Mae’r Sunday Night Singers, o Palmdale, yn dychwelyd i Langollen.

Mae’r Sunday Night Singers, o Palmdale, yn dychwelyd i Langollen.

Bu Mike McCullough yn yr ŵyl yn Llangollen y llynedd gyda Chantorion Siambr Palmdale High School, ac fe sefydlodd y Sunday Night Singers yn 2005 yn dilyn gwahoddiad i fynd a chôr i barti pen-blwydd offeiriad Uniongred Groegaidd.

Ac yn ôl Tyler Heckathorn, llywydd y Sunday Night Singers, mae’r côr yn edrych ymlaen yn arw at ddychwelyd i Ogledd Cymru.

Dywedodd  “Mae rhwng 20 a 24 o gantorion yn perthyn i’r ensemble, ac mae’r côr yn esblygu trwy’r amser wrth i aelodau newydd ddod yn lle’r hen aelodau wrth iddynt symud i wahanol ardaloedd neu brifysgolion eraill.

“Byddwn yn aros gyda theuluoedd yn ardal Dyffryn Ceiriog ac rydym yn edrych ymlaen yn arw i adeiladu ar y profiadau anhygoel a gawsom tra yn yr ŵyl yn 2008.

“Mae’n mynd i fod yn flwyddyn fawr i’r côr gan y byddwn yn perfformio yn yr American Choral Director’s Association Western Regional Conference yn Pasadena, yn 2016.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, “Rydym yn ymwybodol o gryfder y traddodiad corawl yng Nghaliffornia.  Y llynedd daeth dau gôr i gystadlu, ac mae’n wych ein bod yn medru gwahodd tri chôr atom eleni.

“Rwy’n hynod gyffrous bod ein cyfeillion o Galiffornia yn ystyried taw Llangollen yw pencadlys corawl y byd.  Wna i ddim dadlau o gwbl gyda’r datganiad hwn”

Mae tocynnau ar gyfer cyngherddau’r Eisteddfod eleni, fydd yn cychwyn ar ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf, yn gwerthu’n dda, yn enwedig y tocynnau ar gyfer y noson agoriadol pryd bydd y seren ddawnus Katherine Jenkins yn cychwyn ei rhaglen trwy ganu Carmen gan Bizet.

Bydd y digymar Bryn Terfel yn serennu yng Nghyngerdd Gala y 70ain Eisteddfod ar y nos Iau gyda’r tenor nodeidg o Malta Joseph Calleja. tra bydd gweithgareddau dydd  Iau yn cynnwys coroni Côr Plant y Byd,

Dydd Mercher fydd Diwrnod Rhyngwladol y Plant a bydd yn cynnwys cystadlaethau corawl a dawns a hefyd cystadleuaeth newydd yr unawd dan 16 oed a bydd y cyngerdd gyda’r nos yn rhoi llwyfan i Leisiau Theatr Gerdd a seren y West End Kerry Ellis.

Bydd dydd Gwener yn dathlu Rhythmau’r Byd ac yn wledd o gerddoriaeth a dawns gan y goreuon o gystadleuwyr rhyngwladol yr Eisteddfod gan gyrraedd uchafbwynt gyda chystadleuaeth Pencampwyr Dawns y Byd gyda’r hwyr.

Bydd y cyngerdd yn agor gyda Swae Carnifal y Caribî, yn cael ei ddilyn gan y neges Heddwch Ryngwladol yn cael ei thraddodi gan Theatr yr Ifanc, Rhosllannerchrugog.

Mewn newid i’r amserlen bydd dydd Gwener hefyd yn gweld Gorymdaith y Cenhedloedd, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite a fydd yn symud o’i ddydd Mawrth arferol oherwydd bod disgwyl torfeydd mwy a rhagor o gystadleuwyr i ddod i’r Eisteddfod.

Neilltuir dydd Sadwrn i’r prif gorau a bydd yn cloi gyda chystadleuaeth Côr y Byd am Dlws Pavarotti, cyn i’r Eisteddfod ymlacio’n llwyr yn y Llanfest ar y dydd Sul cyn y cyngerdd terfynol cofiadwy.

Am fwy o wybodaeth am y Quire of Voyces ewch i www.quireofvoyces.org

Am fwy o wybodaeth am y Davis High Madrigal Singers ewch i www.davismadrigals.com

Am fwy o wybodaeth am y Bob Cole Conservatory Chamber Choir ewch i www.web.csulb.edu/depts/music/areas/choral-vocal-opera/choirs.php

Er mwyn gwylio y Bob Cole Choir yn perfformio gyda’r  Rolling Stones yn Petco Park, San Diego, ewch i https://www.youtube.com/watch?v=KcLNXYfI_sU