Dawnsio yn y stryd: ‘Eisteddfod fechan’ yn cyrraedd Caer

Fe wnaeth dinas Caer groesawu arddangosfa fywiog o gerddoriaeth a dawns ar ddydd Llun 3ydd Gorffennaf, wrth i ŵyl stryd ryngwladol nodi dechrau dathliadau 70ain Eisteddfod Llangollen gyda fersiwn fechan o’r Eisteddfod.

Bu i brosiect allanol gan yr Eisteddfod – ar y cyd â safle St Mary’s Creative Space yng Nghaer – wahodd Cantorion Siambr Ysgol Uwchradd Palmdale o’r UDA, grŵp dawns Prifysgol Lovely Professional o India, Côr Plant ac Ieuenctid Baao o’r Philippines a Chôr Parkie (Ysgol Uwchradd Monument Park) o Dde Affrica i ymuno gyda phlant Ysgol Gynradd St Werburghs ac Ysgol Gynradd Mill View i agor y dathliadau.

Yn ddiweddarach, fe fydd Wythnos Cerddoriaeth Ryngwladol Gaer, sy’n cael ei noddi gan gwmni cyfreithwyr Russell & Russell, yn llwyfannu sioeau gan berfformwyr o Eisteddfod Llangollen a rhai lleol, fel A Handbag of Harmonies a Band Pres Dinas Caer. Fe fydd y cyngherddau nos yn cael eu cynnal yn St Mary’s Creative Space rhwng dydd Mawrth 4ydd Gorffennaf a dydd Iau 6ed Gorffennaf.

Dywedodd Erin Elston, sy’n gyfrifol am lunio rhaglenni St Mary’s Creative Space: “Fe wnaeth y parti stryd ddal ysbryd yr Eisteddfod yn berffaith, gyda digon o liw, canu a dawnsio. Roedd yn ddechrau gwych i wythnos gyffrous.

“Rydym yn gobeithio bod y digwyddiad wedi annog pobl i brynu tocynnau i sioeau yn St Mary’s Creative Space a hefyd i ddigwyddiadau yn Llangollen yr wythnos nesaf, fydd yn rhedeg tan ddydd Sul 9fed Gorffennaf”.

Ychwanegodd Cyfarwydd Cerdd Eisteddfod Llangollen, Eilir Owen Griffiths: “Rydym yn gobeithio bod yr ‘Eisteddfod fechan’ wedi rhoi blas i drigolion Caer o’r egni a’r bywiogrwydd sydd draw yn Llangollen.

“Mae gwledd o gystadlaethau a pherfformiadau byw yn digwydd bob diwrnod o ddydd Mercher 5ed Gorffennaf, ac mae ychydig o docynnau ar ôl i gyngherddau nos fel Tosca gyda Syr Bryn Terfel [nos Fawrth 4ydd], Gregory Porter [nos Wener 7fed], Côr y Byd a The Overtones [nos Sadwrn 8fed] ac wrth gwrs y Manics a Reverend and The Makers nos Sul”.

Am docynnau a mwy o wybodaeth am yr ‘Eisteddfod fechan’, ewch i: www.ticketsource.co.uk/creativmarys neu galwch y swyddfa docynnau ar 07854550549.

Am docynnau a gwybodaeth am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, cliciwch yma.