Digwyddiadau Perfformwyr

Amy Lane

Mae Amy yn Brif Gyfarwyddwr Staff yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden. Wedi’i geni yn Llundain, dechreuodd Amy ei gyrfa fel cantores ifanc yn perfformio gyda’r Tŷ Opera Brenhinol, English National Opera, Opera Ieuenctid Prydain, Opera Holland Park a chantores gefndir gyda Barry Manilow yn y Wembley Arena. Fel cyfarwyddwr llwyfan a fideo: War… Darllen rhagor »

More info / tickets

Elgan Llŷr Thomas

Ymunodd y tenor Cymreig, Elgan Llŷr Thomas â Scottish Opera fel ‘Emerging Artist’ y tymor hwn, a gwnaeth ei début gyda’r cwmni yn perfformio rhan Nemorino yn eu cynhyrchiad teithiol o The Elixir of Love. Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, graddiodd Elgan o’r Royal Northern College of Music yn Manceinion cyn cwblhau ei radd Meistr yn y Guildhall… Darllen rhagor »

More info / tickets

Andri Björn Róbertsson

Ymunodd Andri Björn Róbertsson ag Artistiaid Harewood enwog Opera Cenedlaethol Lloegr y Tymor hwn a gwneud ei ymddangosiad cyntaf gyda’r cwmni fel Angelotti yng nghynhyrchiad treiddgar Catherine Malfitano o Tosca. Yn 2014/15 ymunodd Andri â’r Stiwdio Opera Rhyngwladol yn Zürich lle perfformiodd ran y Siaradwr/Ail Offeiriad yn Die Zauberflöte, Der König yn Die Gänsemagd, Brabantische… Darllen rhagor »

More info / tickets

Kristian Benedikt

Mae’r tenor o Lithwania Kristian Benedikt wedi ennill enw i’w hun fel un o’r cantorion mwyaf blaenllaw ym mhrif ran Otello gan Verdi. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y rhan hon yn Opera Gwladol Fiena ym mis Chwefror 2017. Mae wedi canu’r rhan nodedig yma 90 gwaith: menw lleoliadua mor amrywiol ag Opera Gwladol Bafaria… Darllen rhagor »

More info / tickets

Kristine Opolais

Llun gan: Elena Nezenceva Kristine Opolais yw un o’r sopranos mwyaf poblogaidd ar y llwyfan rhyngwladol heddiw, gan ymddangos yn y Metropolitan Opera yn Efrog Newydd, Wiener Staatsoper, Deutsche Staatsoper Berlin, Bayerische Staatsoper, Teatro alla Scala a Tŷ Opera Brenhinol Covent Garden. Mae’n gweithio gydag arweinyddion fel Daniel Barenboim, Antonio Pappano, Daniel Harding, Nelsons Andris,… Darllen rhagor »

More info / tickets

The Cory Band

Mae Band y Cory yn cael ei gydnabod fel un o ensembles cerdd gorau a mwyaf arloesol Cymru. Gwnaeth y band hanes yn 2016 drwy ddod y band cyntaf i fod yn enillwyr pedair cystadleuaeth ar yr un pryd – sef teitlau Cenedlaethol, Agored, Ewropeaidd a Phres ‘In Concert’. Fodd bynnag, mae gan y band… Darllen rhagor »

More info / tickets

Owain Arwel Hughes CBE

Mae Owain Arwel Hughes wedi arwain a recordio gyda llawer o gerddorfeydd mwyaf blaenllaw’r byd. Ymhlith ei deitlau niferus y mae wedi bod yn Arweinydd Cysylltiol Cerddorfa Ffilharmonia a Phrif Arweinydd Cysylltiol y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol yn Llundain; Arweinydd Cysylltiol Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC; Prif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Aalborg, Denmarc; Prif Arweinydd Gwadd Cerddorfa… Darllen rhagor »

More info / tickets

Gregory Porter

Beth fyddai uchafbwyntiau Gregory Porter o’r tair blynedd diwethaf? Efallai Liquid Spirit, trydydd albwm y dyn jazz o Galiffornia, a wnaeth argraff fawr ar gynulleidfaoedd Prydain (mi lwyddodd i gael gwerthiant platinwm) a gweld y llwyddiant yn cael ei ailadrodd ar draws y byd, gydag albwm 2013 yn gwerthu miliwn o gopïau a’r albwm a… Darllen rhagor »

More info / tickets

Only Boys Aloud: Côr y Gogledd

Gwnaeth Only Boys Aloud eu hymddangosiad cyntaf yng nghyngerdd agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy yn 2010: erbyn hyn mae gennym dros 200 o fechgyn yn eu harddegau mewn 14 o gorau ledled Cymru sy’n cwrdd yn wythnosol yn eu man cyfarfod lleol gan ddod ynghyd ar gyfer ymarferion llawn a chyngherddau. Yn ystod… Darllen rhagor »

More info / tickets

Côr Meibion Fron

Mae Côr Meibion Fron yn dathlu eu pen-blwydd yn 70 oed eleni, ac mae eu hanes yn mynd law yn llaw â hanes Eisteddfod Llangollen. Yn 1946 roedd dynion ifanc o Froncysyllte ar ôl dychwelyd o’r rhyfel yn awyddus i gymryd rhan yn yr Eisteddfod Ryngwladol, ac yn 1947 ffurfiwyd Côr Meibion Froncysyllte i wneud… Darllen rhagor »

More info / tickets