
Diwrnod o adloniant i’r teulu cyfan i’w fwynhau am 2.00yp ar ddydd Sadwrn, 7 Gorffennaf 2018.
Bydd pob grŵp yn perfformio rhaglen 15-20 munud o ddawnsfeydd ac fe’u hanogir i ryngweithio ac ymgysyltu gyda’r gynulleidfa.
Bydd y cyhoedd yn gallu cefnogi eu hoff grŵp mewn ‘Pleidlais’ a gaiff ei chofnodi gan feirniad yr Eisteddfod. Yna bydd y feirniadaeth yn dechrau am 4.00yp ar Lwyfan yr Amffitheatr.
Manylion y Cystadleuaethau:
- Gabhru Panjab de, India
- Spraoi, Gweriniaeth Iwerddon
- Folk Lore Dance Association, India
- Dawnswyr Heritage, India
- Gangsal Dance Company, Indonesia
- Qypryllinjte E Roshnikut, Albania
- Sukhmani Folk Promotions Club, India
- Real Folk Cultural International Club, India
- Surtal Sabhiachar & Samaj Bhalai Club, India