Dydd Gwener 5 Gorffennaf

Ymunwch â ni am ddiwrnod gwerth chweil yn y Pafiliwn gyda Chorau Cymysg, Siambr ac Alaw Werin i Oedolion. Rowndiau olaf ein hunawdau Lleisiol ac Offerynnol a’r grwpiau dawns â Choreograffi/arddull yn ogystal â chyflwyno ein cystadleuaeth Dawns Unigol (unawd, deuawd, triawd) newydd sbon. Diwrnod na ddylid ei fethu!

Yn y Pafiliwn heddiw:

  • Corawl: Corau Cymysg – Mae’r gystadleuaeth hon ar gyfer corau cymysg 18 oed neu hŷn. Byddant yn canu rhaglen 10 munud o gerddoriaeth. Bydd y rhaglen yn cynnwys repertoire gan gyfansoddwr o wlad enedigol y côr ac o leiaf un darn digyfeiliant (gwreiddiol neu drefniant).

Beirniaid y gystadleuaeth hon: Brian Hughes and Mervyn Cousins

Grwpiau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon:

Choir Collegium Medicum UMK, Poland

GC Ensemble, Philippines

  • Dawns Unigol: Dawns Unigol Agored (unawd, deuawd, triawd) – Bydd cystadleuwyr mewn tri chategori oedran (11 oed ac iau; 12-17 oed a 18 oed a throsodd) yn perfformio am hyd at 2 funud i drac cerddoriaeth wedi’i recordio ymlaen llaw (gwreiddiol neu fasnachol ei natur). Gall perfformiadau fod o unrhyw genre, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, bale, dawns gyfoes, dawns werin, dawns stryd, dawns tap, dawns neuadd ac ati.

Beirniaid y gystadleuaeth hon: Jamie Jenkins and Ahmet Luleci

  • Unawd: Llais Rhyngwladol y Dyfodol (cynderfynol) – Mae’r gystadleuaeth hon yn digwydd dros 3 diwrnod (Rhagbrofion dydd Iau 4 Gorffennaf, Rownd Gynderfynol dydd Gwener 5 Gorffennaf a Rownd Derfynol dydd Sadwrn 6 Gorffennaf). Mae’r gystadleuaeth hon ar gyfer cantorion 19 oed a throsodd. Bydd y cystadleuwyr yn perfformio rhaglen gyferbyniol o hyd at 7 munud o gerddoriaeth ar gyfer y rownd gynderfynol. Bydd eu rhaglen yn cynnwys darnau cyferbyniol o Oratorio, Opera, Lieder neu Gân, a bydd yr holl gerddoriaeth yn cael ei chanu yn yr iaith wreiddiol.

Beirniaid y gystadleuaeth hon: Martin Fitzpatrick and Sarah Tynan

  • Dawns: Grŵp Dawns Werin â Choreograffi/Gydag Arddull – bydd grwpiau o rhwng 4 a 30 o ddawnswyr (16 oed neu hŷn) a chyfanswm o hyd at 8 cerddor a 2 gludwr baner yn perfformio rhaglen o hyd at 5 munud yn arddangos dawns werin o ddiwylliant y grŵp. Bydd grwpiau yn cyflwyno coreograffi creadigol, difyr yn seiliedig ar eu traddodiadau dawnsio gwerin.

Beirniaid y gystadleuaeth hon: Ahmet Luleci and Jamie Jenkins

Grwpiau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon:

Club Batimbo Ntare, Burundi     

Heritage Dance Academy, India

Kurdish folklore, Kurdistan          

Nachda Punjab Youth Club, India         

Nkrabea Dance Ensemble, Ghana

Otanik Bunka, Japan        

Prolisok, Ukraine   

Soul Oasis Cultural Ambassadors, Trinidad and Tobago    

Sound of Folk, India          

Vakhri Tohr, England        

Youth Price International Group, India

  • Unawd: Unawd Gwerin Offerynnol/Lleisiol – bydd offerynwyr/cantorion o bob oed yn cyflwyno rhaglen heb fod yn hwy na 6 munud sy’n cynrychioli traddodiad lleol neu ranbarthol.

Beirniaid y gystadleuaeth hon: Sioned Webb and Michel Camatte

  • Corawl: Corau Siambr – Mae’r gystadleuaeth hon ar gyfer corau Siambr 18 oed neu hŷn. Byddant yn canu rhaglen 10 munud o gerddoriaeth. Bydd y rhaglen yn cynnwys repertoire gan gyfansoddwr o wlad enedigol y côr ac o leiaf un darn digyfeiliant (gwreiddiol neu drefniant).

Beirniaid y gystadleuaeth hon: Mervyn Cousins and Brian Hughes

Grwpiau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon:

Cantamus Camerata, USA

Choir Collegium Medicum UMK, Poland

GC Ensemble, Philippines

  • Unawd: Unawd Lleisiol (15 i 17 oed) – bydd cystadleuwyr yn cyflwyno rhaglen o gerddoriaeth sy’n cynrychioli traddodiad lleol neu ranbarthol heb fod yn hwy na 6 munud o hyd. Bydd yr holl gerddoriaeth yn cael ei chanu yn yr iaith wreiddiol. Bydd y rhagbrawf yn y dref ac yna bydd tri unawdydd yn mynd drwodd i’r rownd derfynol ar brif lwyfan y pafiliwn.

Beirniaid y gystadleuaeth hon: Brian Hughes and Mervyn Cousins

  • Corawl: Côr Alaw Werin i Oedolion – Mae’r gystadleuaeth hon ar gyfer côr canu gwerin oedolion 18 oed neu hŷn. Byddant yn canu rhaglen 7 munud o hyd, a fydd yn cynnwys repertoire o ganeuon gwerin traddodiadol o wlad enedigol y côr.

Beirniaid y gystadleuaeth hon: Michel Camatte and Sioned Webb

Grwpiau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon:

Eryrod Meirion, Cymru

GC Ensemble, Philippines

Ghungroo Musical Club, India

Soul Oasis Cultural Ambassadors, Trinidad and Tobago

Tartu Youth Choir, Estonia

  • Unawd: Unawd Lleisiol (18-19 oed) – bydd cystadleuwyr yn perfformio rhaglen hyd at 6 munud o gerddoriaeth. Bydd yr holl gerddoriaeth yn cael ei chanu yn yr iaith wreiddiol. Bydd y rhagbrawf yn y dref ac yna bydd tri unawdydd yn mynd drwodd i’r rownd derfynol ar brif lwyfan y pafiliwn.

Beirniaid y gystadleuaeth hon: Sarah Tynan and Martin Fitzpatrick

 

Tocynnau Dydd:

Oedolion £13.78
Gostyngiadau £11.66
Plant £6.36
Tocynnau teulu ar gael

Bydd ffioedd archebu
Mae’r pris yn cynnwys sedd neilltuedig yn y Pafiliwn