Yr Awr Jazz – 6yh

Details

  • CYMRU’N CHWARAE BRASIL – DYDD MAWRTH 4 GORFFENNAF

 

 

 

 

Ugain mlynedd ar ôl iddo recordio ei albwm nodedig, “Wales Plays Brazil”, yn cynnwys seren y tenor sacsoffon Dave O’Higgins, mae’r gitarydd Trefor Owen wedi ffurfio’r pumawd cyffrous yma gyda blas Lladin sy’n ailymweld â nifer o’i gyfansoddiadau telynegol o’r CD wreiddiol, yn ogystal â rhai ffefrynnau dethol gan gyfansoddwyr fel Antonio Carlos Jobim, gan gynnwys ‘Wave’ a ‘One Note Samba’. Y tro hwn bydd Trefor, sydd wedi perfformio’n helaeth yn yr Unol Daleithiau ac sy’n cael ei ystyried fel prif gitarydd jazz Cymru, yn ymuno â Liam Byrne (tenor sacsoffon), Andy Hulme (gitâr), Ed Harrison (bas dwbl) a Hugh Lawrence ar offerynnau taro Lladin amrywiol.

  • SUE PARISH QUINTET YN CHWARAE CANEUON O’R ‘GREAT AMERICAN SONGBOOK’ – DYDD MERCHER 5 GORFFENNAF

Mae’r gantores hudolus, Sue Parish wedi bod yn perfformio o amgylch Gogledd-orllewin Lloegr am ryw ugain mlynedd, gan ddatblygu repertoire eang o ganeuon jazz clasurol yn ogystal ag alawon llai adnabyddus gan gyfansoddwyr fel George Gershwin, Cole Porter, a Jerome Kern. Mae Sue yn gantores feddylgar a dwys, sydd wedi meithrin perthynas gerddorol gyda llawer o gerddorion gorau’r rhanbarth, gan gynnwys ei gwestai arbennig, y tenor sacsoffonydd enwog Dean Masser, y mae ei arddull swing caled wedi ennill clod mawr iddo lle bynnag y bu’n perfformio. Yn cwblhau’r ensemble safonol y mae Paul Kilvington (allweddellau) a Frank Grime (bas dwbl)

  • BROWNFIELD BYRNE QUINTET: O NEW ORLEANS I EFROG NEWYDD – DYDD IAU 6 GORFFENNAF

Wedi ei arwain ar y cyd gan ddau o gerddorion jazz ifanc gorau Cymru, mae pumawd Brownfield Byrne yn rhoi gwedd newydd i hen ffefrynnau jazz a bebop o gyfnod Blue Note y 40au a’r 50au, yn ogystal â rhywfaint o ddeunydd swing difyr o’r 30au. Mae’r sacsoffonydd Liam Byrne wedi sefydlu ei hun fel etifedd y traddodiad tenor sacsoffon a bebop, tra bo Jamie Brownfield (trwmped), y mae ei chwarae yn wedi ei drwytho yn ysbryd New Orleans, yn gyn-enillydd categori’r Seren Newydd yng Ngwobrau Jazz Prydain. Gydag Andy Hulme (gitâr), Ed Harrison (bas dwbl)

 

  • ANDRZEJ BARANEK QUARTET, GYDA KYRAN MATTHEWS (SACSOFFON) – DYDD GWENER 7 GORFFENNAF

Mae Andrzej Baranek (allweddellau) yn bianydd mentrus a dyfeisgar, y bydd llawer o ddilynwyr jazz yn ei adnabod fel aelod o’r Magic Hat Ensemble enwog, wedi perfformio gyda sêr jazz mwyaf y DU gan gynnwys Dave O’Higgins ac Enrico Tomasso a bellach mae’n arwain y pedwarawd rhagorol hwn sy’n cynnwys Frank Grime (bas dwbl), Hugh Lawrence (drymiau), yn ogystal â’r gwestai arbennig Kyran Matthews. Mae Kyran, sy’n sacsoffonydd o safon arbennig ac sydd wedi graddio o Goleg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr, wedi teithio ledled Ewrop a De Affrica gyda llawer o fandiau nodedig, gan gynnwys Cerddorfa Jazz Genedlaethol Ieuenctid Prydain.

  • SARAH BARNWELL QUARTET: JAZZ SIPSIWN A LA HOT CLUB DE FRANCE A MWY – DYDD SADWRN 8 GORFFENNAF

Mae Pedwarawd Sarah Barnwell yn fand cyffrous, lle mae’r ffidil yn cael lle blaenllaw, ac sy’n chwarae jazz gydag angerdd, tân a meistrolaeth, gan gadw ysbryd y chwedlonol Django Reinhardt a Stephane Grappelli yn fyw mewn alawon clasurol fel Cherokee, Puttin’ on the Ritz a Limehouse Blues. Mae Sarah, yn feiolinydd gwych sydd wedi ennill gwobrau lu a pherfformio ar draws Ewrop a Chanada ac wedi gwneud llawer o ymddangosiadau ar y BBC fel cerddor sesiwn. Yn ymuno â Sarah mae’r anhygoel Huw Warren (acordion), cerddor amryddawn sy’n perfformio ledled y byd fel pianydd rhyngwladol o fri.