Gorymdaith y Cenhedloedd

 

Bob blwyddyn, mae lliw a chyffro’r Eisteddfod yn lledaenu i strydoedd tref Llangollen. Ymunwch yn yr hwyl wrth i berfformwyr rhyngwladol orymdeithio yn eu gwisgoedd traddodiadol trwy dref brydferth Llangollen a dros y bont enwog – yn union fel y maent wedi gwneud am y 70 mlynedd diwethaf. Cyrhaeddwch yn gynnar ar gyfer y golygfeydd gorau!

Yn rhad ac am ddim am 4.30yp ar ddydd Gwener, Gorffennaf 6, 2018.

Dilynwch yr orymdaith i’r maes am £1 yn unig i fwynhau y bandiau cyn y cyngerdd tan 8yh.