Gŵyl Stryd Ryngwladol Caer

Details

Mewn partneriaeth â Gofod Creadigol y Santes Fair, byddwn yn cynnal ‘Eisteddfod Fach’ ar ffurf Gŵyl Stryd Ryngwladol am ddim yng nghanol Caer ar ddydd Llun 3 Gorffennaf o 12 hanner dydd ymlaen, gan gynnig blas o’r hyn sydd i ddod yn ystod yr wythnos yn Llangollen.

Bydd cymysgedd o berfformwyr yr Eisteddfod Ryngwladol a pherfformwyr lleol yn llenwi’r Ddinas gydag awyrgylch parti cyffrous.

Yn cynnwys cystadleuwyr yr Eisteddfod;

  • Palmdale High School Chamber Singers, UDA

 

 

 

 

  • Dawnswyr y Lovely Professional University, India
  • QYPRILLINJTE E RHOSHNIKUT

 

Bydd hefyd tri chyngerdd gyda’r nos yn cael eu cynnal yng Ngofod Creadigol Santes Fair. Bydd Grŵp Dawns Mother Touch o Zimbabwe yn cymryd rhan yn eu hail ymweliad i Gaer yn dilyn gŵyl y llynedd. Hefyd bydd cerddorion o America, Hong Kong, India, Indonesia ac Albania.

I brynu tocynnau cliciwch ar y ddolen yma

Noddir y digwyddiad yma trwy garedigrwydd;