Heddiw yn y pafiliwn rydym yn cychwyn gyda’n cystadleuaeth ensemble Offerynnol. Gydag amrywiaeth hyfryd o ensembles o bob rhan o’r byd mae’n siŵr o’ch paratoi ar gyfer diwrnod llawn o gystadlaethau. Gyda rowndiau terfynol Dawns, Corau Plant ac unawdau Offerynnol mae’n ddiwrnod na ddylid ei fethu!
Yn y Pafiliwn heddiw:
- Offerynnol: Ensemble Offerynnol – yn cynnwys rhwng 6 a 30 aelod o unrhyw oedran yn cyflwyno rhaglen o ddau ddarn cyferbyniol mewn unrhyw arddull neu genre yn para hyd at 8 munud. Gall ensembles gynnwys unrhyw gyfuniad o offerynnau a gallant fod yn gerddorfaol, pres, gwerin, cyfoes, jazz, chwyth, ac ati.
Beirniaid y gystadleuaeth hon: Iestyn Griffiths and Robert Guy
Grwpiau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon yn nhrefn yr wyddor:
Clywedog steel pans, Cymru
Derwent Harps, Cymru
Mother Touch Group of Schools, Zimbabwe
Soul Oasis Cultural Ambassadors, Trinidad and Tobago
Sound of Folk, India
- Dawns: Dawns Werin Draddodiadol – bydd grwpiau o rhwng 4 a 30 o ddawnswyr (16 oed neu hŷn) a chyfanswm o 8 cerddor a 2 gludwr baner yn perfformio rhaglen hyd at 5 munud yn arddangos traddodiadau dawnsio gwerin diwylliant y grŵp.
Beirniaid y gystadleuaeth hon: Jamie Jenkins and Ahmet Luleci
Grwpiau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon:
African Dance Group, Tanzania
Club Batimbo Ntare, Burundi
Groupe Jeunesse Tizwite (Tizwite Band), Morocco
Heritage Dance Academy, India
Kurdish folklore, Kurdistan
Nachda Punjab Youth Club, India
Nkrabea Dance Ensemble, Ghana
North East Wales Chinese Women’s Association, China/Cymru
Otanik Bunka, Japan
Prolisok, Ukraine
Soul Oasis Cultural Ambassadors, Trinidad and Tobago
Sound of Folk, India
Vakhri Tohr, England
Youth Pride International Group, India
- Corawl: Corau Alawon Gwerin Plant – Mae’r gystadleuaeth corau plant yma ar gyfer cantorion 18 oed ac iau. Byddant yn canu rhaglen 7 munud o hyd, a fydd yn cynnwys repertoire o ganeuon gwerin traddodiadol o wlad enedigol y côr.
Beirniaid y gystadleuaeth hon: Mervyn Cousins and Brian Hughes
Grwpiau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon:
Červánek, Czech Republic
Chamber Choir of Diocesan School for Girls and St Andrew’s College, South Africa
Cor Heol y March, Cymru
Glanaethwy, Cymru
Hamilton Children’s Choir, Canada
Kajetán, Czech Republic
Pathway School Choir, Zimbabwe
Piedmont East Bay Children’s Choir, USA
Seattle Girls’ Choir; Prime Voci, USA
Vocal Pizzest, Malaysia
Cantabile Girls’ Choir, England
- Unawd: Offerynnwr Rhyngwladol y Dyfodol (15 i 21 oed) – bydd cyfranogwyr yn perfformio rhaglen o hyd at 7 munud o gerddoriaeth yn y rhagbrawf a hyd at 8 munud o gerddoriaeth yn y rownd derfynol. Bydd y rhaglen yn cynnwys gweithiau clasurol cyferbyniol.
Beirniaid y gystadleuaeth hon: Michel Camatte and Anthony Gabriele
- Corawl: Corau Agored Plant – Mae’r gystadleuaeth hon i blant ar gyfer corau bechgyn, genethod neu gymysg 17 oed neu iau. Byddant yn canu rhaglen o 7 munud. Bydd y rhaglen yn arddangos un genre yn unig (e.e. Acapella, siop barbwr, clasurol, glee, gospel, jazz, pop, sioe, theatr gerdd) a bydd hefyd yn cynnwys o leiaf un darn digyfeiliant.
Beirniaid y gystadleuaeth hon: Vivien Care and Anthony Gabriele
Grwpiau sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon:
Bax Choir, Heath Mount School England
Cantabile Girls’ Choir, England
Červánek, Czech Republic
Chulada Choir of Chulalongkorn University Demonstration Secondary School, Thailand
Cor Heol y March, Cymru
Glanaethwy, Cymru
Hamilton Children’s Choir, Canada
Kajetán, Czech Republic
Piedmont East Bay Children’s Choir, USA
Singing Community of Choirs, England
Vocal Pizzest, Malaysia
Tocynnau Dydd:
Oedolion £13.78
Gostyngiadau £11.66
Plant £6.36
Tocynnau teulu ar gael
Bydd ffioedd archebu
Mae’r pris yn cynnwys sedd neilltuedig yn y Pafiliwn
Rownd Derfynol Llais Rhyngwladol y Theatr Gerdd 7:30yn
Bydd ein cyngerdd DIRECT FROM THE WEST END: KERRY ELLIS & JOHN OWEN-JONES hefyd yn cynnwys rownd derfynol Llais Rhyngwladol y Theatr Gerdd. Bydd dau unawdydd yn y rownd derfynol yn cael eu dewis i berfformio, a bydd ein band byw yn cyfeilio i un o’u caneuon.
I archebu Tocynnau Cyngerdd gyda’r nos (gan gynnwys Rownd Derfynol Llais y Theatr Gerdd) CLICIWCH YMA.