(English) North Wales Choral Festival

Ŵyl Gorawl ryngwladol Gogledd Cymru

Helo a chroeso i Ŵyl Gorawl Ryngwladol Gogledd Cymru! Mi fydd 2019 yn flwyddyn arbennig arall! Peidiwch â cholli’r cyfle i fwynhau’r penwythnos prysur yma, a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymuno â ni yn nhref glan môr Llandudno ar 8-10 Tachwedd.

Mae’r ŵyl wedi croesawu corau o bob cwr o’r byd i gystadlu yn y dathliad arbennig hwn o gerddoriaeth. Wedi ei lleoli yn Venue Cymru, mae gan Ŵyl Gorawl Gogledd Cymru amrywiaeth o gategorïau at ddant pawb.

Wedi ei threfnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, mae’r gystadleuaeth wedi mynd o nerth i nerth a bellach yn ddathliad tridiau o gerddoriaeth. Dros y blynyddoedd mae mwy a mwy o elfennau wedi eu hychwanegu, gan gynnwys cystadleuaeth a gweithdy i gorau ysgol, cyngherddau, perfformiadau cymunedol a llawer, llawer mwy!

Ystyrir hon fel un o wyliau corawl mwyaf Cymru, gydag awyrgylch arbennig iawn, sydd wrth fodd pob corydd.

http://www.northwaleschoralfestival.com/cymraeg