O Ogledd Cymru i’r Arfordir Aur i berfformwraig lleol

Mae perfformwraig o Lannefydd, Gogledd Cymru, a enillodd gystadleuaeth Llais Rhyngwladol Sioe Gerdd yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2018, yn paratoi at berfformio yn Arfordir Aur Awstralia ar ddydd Sul 21ain Hydref.

Fel rhan o’i gwobr, fe fydd Mared Williams, 21, yn ymuno â channoedd o berfformwyr eithriadol eraill yn sioe’r Musicale yn Eisteddfod yr Arfordir Aur. Mae’r sioe yn ddathliad bywiog o sioeau cerdd ac yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl gerddoriaeth a dawns saith wythnos o hyd.

Bu i Mared swyno’r gynulleidfa a’r beirniaid gyda’i pherfformiad o So Big So Small o’r sioe Dear Evan Hansen, Pulled o The Addams Family a Being Alive o Company ar lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol yn Eisteddfod Llangollen ym mis Gorffennaf.

Ac ers ennill y teitl mawreddog yn Eisteddfod Llangollen, nid yn unig mae Mared wedi bod yn gigio gyda’i chaneuon ei hun, mae hi hefyd wedi cychwyn Cwrs Meistr mewn Sioe Gerdd yn Academi Frenhinol Llundain – oll wrth baratoi at ei antur i’r Arfordir Aur.

“Ers yn ifanc rwyf wastad wedi bod eisiau teithio, yn perfformio fy nghaneuon fy hun,” meddai Mared, “ond mae’n anhygoel faint o ddrysau sydd wedi agor ers i mi ychwanegu teitl Llais Rhyngwladol Sioe Gerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen at fy  CV.”

Disgwylir y bydd Mared yn cyrraedd Awstralia ddydd Iau Hydref 18fed cyn perfformio yn y sioe fawreddog ar ddydd Sadwrn Hydref 21ain, ar ôl diwrnod yn unig o ymarferion.

“Mae hon am fod yn daith gwbl fythgofiadwy ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o Eisteddfod tu allan i Gymru yn ogystal â chyfarfod pobl newydd a gweld Awstralia.”

“Mi faswn i’n annog unrhyw un sy’n mwynhau canu a pherfformio i gofrestru ar gyfer Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a mynd yno gyda’r bwriad o gael diwrnod gwych yn gwneud beth ydach chi’n ei garu. Mae hyn wedi bod yn freuddwyd!”

Mae Eisteddfod yr Afordir Aur yn rhoi llwyfan i dros 70,000 o gantorion a dawnswyr, 330 o fandiau a cherddorfeydd, 175 côr, bron i 1,500 o grwpiau dawns a 3,000 o ddawnswyr unigol.

Cafodd costau teithio enillydd Llais Rhyngwladol Sioe Gerdd 2018 eu talu yn llawn gan Eisteddfod yr Arfordir Aur – gwobr fydd yn cael ei chynnig unwaith eto yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2019.

Dywedodd Judith Ferber, Rheolwr Cyffredinol Eisteddfod yr Afordir Aur: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu Mared a’i gweld yn perfformio yn y Musicale. Mae ein partneriaeth gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ein galluogi i ddathlu talent gerddorol o ochr arall y byd yn ysbryd cyfeillgarwch ac angerdd tros gerddoriaeth a pherfformio.

“Am y rheswm hynny, fe fyddwn ni’n paru gyda’r ŵyl unwaith eto’r flwyddyn nesaf er mwyn rhoi’r cyfle i enillydd cystadleuaeth Llais Rhyngwladol Sioe Gerdd i berfformio yma yn Eisteddfod yr Afordir Aur 2019.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cerdd Dros Dro Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Edward Rhys Harry: “Mae cydweithio gydag Eisteddfod yr Arfordir Aur yn ein galluogi i godi proffil rhyngwladol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ymhellach, gan agor drysau i unawdwyr newydd a chyffrous a rhoi hwb i’w gyrfaoedd cerddorol disglair.

“Hoffwn ddiolch i Judith â’r tîm am groesawu ein henillydd o 2018 Mared Williams ac am, unwaith eto, gynnig y wobr arbennig yma i enillydd Llais Rhyngwladol Sioe Gerdd 2019”.

Ar hyn o bryd, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn derbyn ceisiadau ar gyfer cystadlaethau grŵp. Gofynnir i geisiadau cystadlaethau corawl, ensemble a dawns gael eu gyrru cyn dydd Gwener 23ain Tachwedd 2018. Fe fydd y categorïau unawdol yn agor ym mis Rhagfyr. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.eisteddfodcompetitions.co.uk.