Ffarwelio â Chyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Llangollen

Y Cyfarwyddwr Cerdd uchel ei barch Eilir Owen Griffiths yn pasio’r gyfrifoldeb ymlaen ar ôl dathliadau pen-blwydd 70ain Eisteddfod Llangollen

Ar ôl chwe blynedd yn swydd Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, fe fydd Eilir Owen Griffiths yn ymddiswyddo o’i rôl yn dilyn dathliadau 70ain yr Eisteddfod eleni.

Bydd Cyfarwyddwr Cerdd ieuengaf erioed yr Eisteddfod yn gadael ar ôl yr ŵyl ym mis Gorffennaf, gan roi cyfle iddo ganolbwyntio ar ddatblygiadau newydd o fewn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, prosiectau cyfansoddi a threulio amser gyda’i deulu ifanc.

Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, fe wnaeth Eilir gyflwyno cystadlaethau Côr Plant y Byd, Llais y Dyfodol a Llais Sioe Gerdd i raglen yr Eisteddfod, yn ogystal â datblygu’r prosiectau Allanol a Chynhwysiant – wnaeth ennill Gwobr Gymunedol Scottish Power yn ddiweddar.

Mae ei ddawn arbennig i greu rhaglenni uchelgeisiol hefyd wedi arwain at lwyfannu cyngherddau enfawr gan gynnwys Sweeny Todd gyda chast o 150 a Carmen y llynedd.

Buodd yn allweddol wrth ddenu cynulleidfaoedd cenedlaethol o du hwnt i’r ffîn a hefyd wrth sicrhau perfformiadau gan artistiaid rhyngwladol fel Status Quo, UB40, Burt Bacharach, Jools Holland, Caro Emerald a Rufus Wainwright. Yn bluen arall yn ei het, fe lwyddodd i gael artistiaid fel Syr Bryn Terfel, Joseph Calleja, Catrin Finch, Noah Stewart, Alison Balsom, Nicola Benedetti a Karl Jenkins i ddychwelyd i’r Eisteddfod dro ar ôl tro.

Cyn derbyn y swydd yn 2011, fe wnaeth Eilir fynychu’r Eisteddfod fel cystadleuwr a pherfformio ar lwyfan enwog y Pafiliwn Brenhinol Cenedlaethol yn 1998 gydag Ysgol Glan Clwyd ac eto gyda’i gôr CF1 yn 2010.

Dywedodd Eilir: “Mae’n anodd i mi grynhoi chwe blynedd mor ardderchog. Rwy’n falch fy mod yn gorffen fy amser gydag Eisteddfod Llangollen hefo gymaint o atgofion braf ac mae’n fraint i fod yn camu i lawr ar ôl y dathliadau 70ain. Rwy’n edrych ymlaen at weld gwaith caled y tîm yn cyrraedd uchafbwynt yn y dathliadau bendigedig.

“Rwy’n lwcus bod fy amser fel Cyfarwyddwr Cerdd wedi caniatáu i mi weithio ar brosiectau rwy’n teimlo’n angerddol iawn amdanyn nhw. O’r dechrau, roeddwn yn awyddus i greu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc o fewn yr ŵyl – a dyma oedd tarddiad cystadlaethau Côr Plant y Byd, Llais y Dyfodol a chystadlaethau Cerddorion Ifanc. Rwy’n gobeithio bydd hyn yn rhan o’m gwaddol.

“Mae swydd y Cyfarwyddwr Cerdd yn un heriol iawn ac yn un na fyddwn i wedi medru ei gwneud heb gefnogaeth y staff, partneriaid, noddwyr ac wrth gwrs y gwirfoddolwyr ymroddedig sydd wedi gweithio wrth fy ochr am y chwe blynedd ddiwethaf.”

Wrth drafod ei hoff atgofion o’i amser gyda’r Eisteddfod, ychwanegodd Eilir: “Mae ‘na bron gormod o adegau i grybwyll lle roeddwn i eisiau pinsio fy hun! Un ohonyn nhw oedd gweld cynhyrchiad Sweeny Todd hefo Syr Bryn Terfel yn 2014 ac un arall oedd pan wnaeth y tenor Noah Stewart berfformiad fy nhrefniant i o ‘Calon Lân’ yn Gymraeg. I goroni’r cyfan, lle arall ond Llangollen fedrwch chi eistedd a chael diod gyda Burt Bacharach, Paul Mealor a Terry Waite?

“Rwy’n teimlo’n falch iawn wrth edrych yn ôl ar y chwe mlynedd dw i wedi eu cael fel Cyfarwyddwr Cerdd Llangollen. Mae gen i nifer o atgofion melys ac rwy’n gobeithio y bydda i’n dychwelyd yn y blynyddoedd nesa’ fel un ai aelod o’r gynulleidfa neu hyd yn oed i gystadlu!

“Ond cyn i mi roi’r ffidil yn y tô, mae dathliadau eleni i’w mwynhau. Mae cymaint o uchafbwyntiau yn rhaglen yr ŵyl ac rwyf i yn bersonol yn edrych ymlaen at fwynhau Gregory Porter nos Wener 7fed Gorffennaf.”

Ychwanegodd Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Dr Rhys Davies: “Mae brwdfrydedd Eilir yn heintus ac mae wedi bod yn bleser gweithio gydag o am y chwe blynedd ddiwethaf, yn creu digwyddiadau unigryw a chofiadwy bob blwyddyn.

“Mae cyfraniad Eilir i raglen yr Eisteddfod, o ran yr artistiaid y cafodd i berfformio a hefyd yr elfen gystadleuol a chymunedol a ddatblygodd, yn waddol deilwng iawn. Yn ystod ei amser gyda ni, mae wedi glynu i egwyddorion craidd yr Eisteddfod Ryngwladol – gan uno pobl trwy heddwch, cyfeillgarwch, cerddoriaeth a dawns.

“Fe fydd ei Eisteddfod olaf yn dilyn yr union yr un trywydd a’r rhai blaenorol ac yn cynnig perfformiadau amrywiol a chyfoes yn llawn enwogion. Nid yw perswadio’r Manic Street Preachers, Huw Stephens, Kristine Opolais, Gregory Porter, Syr Bryn Terfel, Christopher Tin a Reverend and The Makers i ddod i’r Eisteddfod wedi bod yn hawdd. Allwn ni wir ddim aros i weld diweddglo mawr Eilir yn dod at ei gilydd”.

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cychwyn y broses o recriwtio Cyfarwyddwr Cerdd newydd, i gychwyn yr haf hwn. Os hoffech wneud cais am y swydd, cysylltwch â’r Prif Swyddog Gweithredu Sian Eagar yn swyddfa Eisteddfod Llangollen ar 01978 862 000.

I brynu ticedi ar gyfer dathliadau 70ain Eisteddfod Llangollen, gan gynnwys gŵyl Llanffest, cliciwch yma