Eisteddfod Llangollen nawr yn derbyn Ceisiadau Grŵp ar gyfer 2019

Gŵyl gerddoriaeth, dawns a heddwch yn dechrau’r broses gofrestru ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol 2019

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn galw ar grŵpiau talentog i ymuno â chantorion, dawnswyr ac offerynwyr rhyngwladol eraill a chofrestru ar gyfer cystadlaethau yr Eisteddfod, fydd yn rhedeg o 2il – 7fed Gorffennaf 2019.

Fe fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cystadlu am sawl teitl mawreddog gan gynnwys Pencampwyr Dawns y Byd a phrif deitl yr Eisteddfod, Côr y Byd. Fe fydd 2019 hefyd yn gweld cystadlaethau fel Grŵp Acapella, Corau Plant Hyn, Corau Agored a Grŵp Dawnsio Gwerin Traddodiadol yn dychwelyd.

Mae categorïau mwyaf adnabyddus yr Eisteddfod Ryngwladol yn cynnwys cystadlaethau corawl, ensemble, dawns yn ogystal â chyfleon i berfformio yn anghystadleuol. Eleni, mae’r ŵyl yn apelio ar gorau merched i arddangos eu talent ar lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol, gyda chyfle i ennill medal ryngwladol a gwobrau ariannol o hyd at £3,000 os ydyn nhw’n symud ymlaen i rownd derfynol Côr y Byd.

Eleni, fe fydd yr Eisteddfod yn croesawu Cyfarwyddwr Cerdd interim, Edward-Rhys Harry, fydd yn camu i mewn i’r rôl interim er mwyn arwain y broses dewis cystadleuwyr ar gyfer 2019. Bydd Edward yn dod â phrofiad helaeth i’r rôl yn dilyn ei swyddi fel Cyfarwyddwr Artistig yng ngwyliau’r International Voces Volgograd yn Rwsia a Gŵyl Corau Meibion Cymru Llundain.

Mae’r Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol wedi cael ei chynnal yn nhref brydferth Llangollen bob blwyddyn ers 1947, gan groesawu 4,000 o berfformwyr a chymaint â 50,000 o ymwelwyr i’r Pafiliwn Rhyngwladol a’r caeau cyfagos.

Gan ddod a pherfformwyr o bedwar ban byd at ei gilydd i ganu a dawnsio, mae’r ŵyl yn gymysgedd unigryw o gystadlaethau, perfformiadau, heddwch a chyfeillgarwch. Uchafbwynt y rhaglen o gystadlaethau mawr eu bri yw ‘Côr y Byd’, sy’n pendyrfynu  côr gorau’r  Eisteddfod

Fe ellir cofrestru ar gyfer y cystadlaethau corawl, ensemble a dawns hyd nes ddydd Gwener 23 Tachwedd 2018, a bydd unawdwyr yn medru cofrestru yn wythnosau cyntaf mis Rhagfyr.

Gwahoddir hefyd geisiadau gan berfformwyr sydd eisiau dilyn ôl traed artistiaid anghystadleuol a pherfformio ar un o lwyfannau allanol yr Eisteddfod. Bydd modd cofrestru hyd nes ddydd Gwener 23ain Tachwedd 2018.

Dywedodd Cadeirydd yr Eisteddfod Ryngwladol, Dr Rhys Davies: “Bob blwyddyn, mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn yr Eisteddfod yn cael profiad bythgofiadwy sy’n aros hefo nhw am byth.

“Gyda chyfleoedd unigryw i berfformwyr ledled y byd gystadlu ar lwyfan rhyngwladol mewn dros 20 o gystadlaethau wrth wneud ffrindiau oes, ochr yn ochr â cherddorion a dawnswyr hynod o dalentog – mae’n gyfle arbennig iawn.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r cystadlaethau neu i wneud cais ar wefan yr Eisteddfod, ewch i: http://eisteddfodcompetitions.co.uk/