Katherine fydd Carmen

Datgelwyd mai’r seren canu clasurol Katherine Jenkins OBE fydd prif atyniad Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen y flwyddyn nesaf.
Dywed y mezzo soprano dawnus, ei bod hi’n falch iawn o gael dychwelyd i’r ŵyl eiconig am y tro cyntaf ers ei hymddangosiad diwethaf yn 2010.
Bydd cynulleidfa noson agoriadol Eisteddfod 2016 yn cael mwynhau Katherine yn canu mewn fersiwn cyngerdd o opera Georges Bizet, Carmen, sef hanes cwymp Don José, milwr naïf sy’n cael ei hudo gan y Sipsi danllyd.

Dyma fydd y cyfle cyntaf i ddilynwyr y gantores o dde Cymru i’w chlywed yn canu holl arias operatig Carmen mewn un perfformiad.
Bydd tocynnau ar gyfer cyngerdd 2016 yn mynd ar werth drwy wefan Eisteddfod Llangollen am 12 canol dydd ddydd Llun nesaf (Gorffennaf 13).
Dywedodd Katherine: “Rydw i’n gyffrous iawn gan ei fod yn rhywbeth rwyf wedi bod eisiau ei wneud erioed. Mi wnes i astudio Carmen yn yr Academi Gerdd Frenhinol cyn graddio. Mae’n waith arbennig gan fod yr opera wedi ei hysgrifennu ar gyfer mezzo soprano.
“Rwyf wedi sôn am wneud hyn ers blynyddoedd a dyma felly fydd y tro cyntaf i’m dilynwyr allu fy nghlywed yn canu’r holl arias mewn un noson.
“Rwyf fel arfer yn cynnwys nifer o arias operatig yn fy nghyngherddau ond dydw i erioed wedi perfformio’r holl arias o opera unigol mewn un cyngerdd.
“Mae’n rhywbeth yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr ato; mae’n mynd i fod yn noson arbennig yn Llangollen. Mae bob amser wedi bod yn freuddwyd i mi berfformio Carmen.
“Mae Carmen yn gymeriad mor wych ac mae’n un o’r operâu mwyaf poblogaidd ac mae pob aria yn arbennig a chofiadwy. Mae’n siwr o fod yn noson ardderchog, ac rwy’n gobeithio y bydd pawb yn edrych ymlaen yn eiddgar at yr achlysur.”
Yn awr mae Katherine, 34 oed, yn bwriadu cymryd seibiant tan y Flwyddyn Newydd wrth iddi hi a’i gŵr, Andrew Levitas, ddisgwyl genedigaeth eu babi cyntaf yn yr hydref.
Dywedodd: “Rwyf wedi dweud erioed fy mod am fwynhau bod yn fam felly rwy’n cymryd peth amser i ffwrdd o gerddoriaeth sydd yn bwysig dw i’n credu. Ond byddaf yn ôl y flwyddyn nesaf ac mae 2016 eisoes yn edrych fel blwyddyn hollol anhygoel a chyffrous iawn.
“Yn ogystal â Llangollen fi yw un o’r artistiaid cyntaf i gael eu cadarnhau i berfformio yn y cyngerdd i ddathlu pen-blwydd y Frenhines yn 90 oed ym mis Mai.
“Mae’n fraint aruthrol ac rwyf mor falch fy mod wedi cael gwahoddiad i berfformio. Mae’n mynd i fod yn ddathliad gwych o fywyd y Frenhines.
“Ac i ddilyn hynny ym mis Gorffennaf, byddaf yn ymddangos yn Llangollen am y trydydd tro, sy’n golygu bod 2016 eisoes yn edrych fel blwyddyn anhygoel i mi.”
Mae Katherine, sy’n un o’r cantorion prin hynny sy’n gallu pontio’n llwyddiannus rhwng canu poblogaidd a chlasurol, wedi gwerthu miliynau o albymau, wedi canu o flaen y teulu brenhinol, y Pâb a pherfformio anthem genedlaethol Cymru, Hen Wlad Fy Nhadau, cyn gemau rhyngwladol tîm rygbi Cymru.
Ar ôl ennill ysgoloriaeth yn 17 oed i astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol, graddiodd Katherine gydag anrhydedd a derbyn diploma athrawes gerdd.
Llofnododd y cytundeb record clasurol mwyaf erioed ar ôl gweithio ar ei liwt ei hun fel athrawes canu, model a thywysydd ar atyniad ymwelwyr y London Eye cyn cychwyn o ddifri ar ei gyrfa fel cantores.
Ei chyngerdd yn Llangollen fydd trydydd ymddangosiad Katherine ar lwyfan yr ŵyl, achlysur sy’n cael ei disgrifio ganddi fel digwyddiad byd enwog a rhywbeth y mae hi bob amser yn mwynhau ymweld a pherfformio ynddo.
Ar yr achlysur hwn, bydd cerddorfa a chôr dan arweiniad y maestro Anthony Inglis yn cyfeilio iddi.
Dywedodd: “Rwyf bob amser yn edrych ymlaen at Langollen mae bob amser yn bleser ymweld â gogledd Cymru ac mae’n hyfryd cael fy nghwahodd yn ôl yno unwaith eto.
“Rwyf wedi cael rhai nosweithiau anhygoel yn Llangollen ac mae gwybod y bydd fy nhrydydd ymweliad yn rhywbeth gwirioneddol wahanol yn gwneud yr achlysur hyd yn oed yn fwy arbennig.
“Rwy’n meddwl bod cynulleidfaoedd Llangollen yn gwneud y digwyddiad mor wahanol ac mae wir yn ddigwyddiad unigryw ac arbennig iawn. Mae’r cynulleidfaoedd bob amser mor gynnes, gwybodus a chroesawgar.”
“Mae’n rhaid i ni gofio mai tref fechan a hardd iawn yng ngogledd Cymru yw Llangollen, felly mae’n wych meddwl bod rhai o enwau mwyaf byd cerdd, o bob genre, yn awyddus i berfformio yno.”
Mae cyfarwyddwr cerdd yr ŵyl, Eilir Owen Griffiths, ar ben ei ddigon ar ôl sicrhau trydydd ymddangosiad Katherine yn Llangollen.
Dywedodd: “Mae Katherine yn hynod boblogaidd. Mae’n addo bod yn noson arbennig ac yn rhywbeth gwahanol iawn oherwydd y bydd yn perfformio fersiwn cyngerdd o Carmen gan Bizet.
“Bydd hyn yn achlysur unigryw arall i Langollen ac rydym yn hynod o falch bod Katherine wedi dewis yr Eisteddfod Ryngwladol ar gyfer perfformio cyngerdd newydd a chyffrous.
“Mae’n wych ein bod eisoes yn gallu cynllunio ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf a llwyfannu rhywbeth y gall ein haelodau a’n cefnogwyr ffyddlon edrych ymlaen ato’n eiddgar.”