Galwad olaf i grwpiau sydd eisiau lle yn Llangollen 2018

Y dyddiad olaf i grwpiau wneud cais i gystadlu yn yr ŵyl gerddoriaeth, dawns a heddwch 2018 fydd 24ain Tachwedd 2017

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn galw ar grwpiau o gantorion, dawnswyr ac offerynwyr talentog o bedwar ban byd i gofrestru cyn 24ain Tachwedd.i gystadlu yn yr ŵyl, fydd yn cael ei chynnal o 3ydd – 8fed Gorffennaf 2018.

Fe fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn mynd benben am sawl teitl adnabyddus gan gynnwys Pencampwyr Dawns y Byd, Grŵp Acapella Rhyngwladol a phrif deitl yr ŵyl, Côr y Byd.

Cynigir gwobrwyau ariannol o hyd at £6,000 i unawdwyr a £3,000 i grwpiau, medalau rhyngwladol yn ogystal â chyfle i gantorion sioe gerdd ennill cyfle unwaith mewn oes i berfformio yn Eisteddfod y Gold Coast yn Awstralia.

Bob blwyddyn mae’r rhaglen yn cyrraedd uchafbwynt gyda chystadleuaeth Côr y Byd, sy’n gwobrwyo côr gorau’r ŵyl ac sydd wedi lansio sawl gyrfa yn y gorffennol. Yn 1995, roedd y côr buddugol yn hanu o dref Modena yn yr Eidal ac enw un aelod oedd Luciano Pavarotti – y tenor byd-enwog. Fe ychwanegodd ei enw i darian y gystadleuaeth yn 2005 fel arwydd o’i werthfawrogiad o’r ŵyl a’i dylanwad ar ei yrfa.

Mae’r ŵyl adnabyddus wedi cael ei chynnal yn flynyddol ers 1947 yn nhref brydferth Llangollen – gan groesawu 4,000 o berfformwyr a chymaint â 50,000 o ymwelwyr i’r Pafiliwn Rhyngwladol a’r maes cyfagos. Mae’n llwyddo i ddod â pherfformwyr o bedwar ban byd at ei gilydd i ganu a dawnsio mewn cymysgedd unigryw o gystadlaethau, perfformiadau, heddwch a chyfeillgarwch.

Gwahoddir hefyd geisiadau ar gyfer perfformiadau anghystadleuol ac mae grwpiau cymunedol yn cael eu hannog i gymryd mantais o’r cyfle i berfformio ar un o lwyfannau rhyngwladol yr Eisteddfod a phrofi awyrgylch unigryw’r ŵyl. Bydd modd cofrestru hyd nes Ddydd Gwener 24ain Tachwedd 2017.

Dywedodd Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Dr Rhys Davies: “Mae cystadlaethau Eisteddfod Llangollen yn cynnig cyfle i berfformwyr o bob cwr o’r byd ymddangos ar lwyfan rhyngwladol gyda rhai o gerddorion a dawnswyr mwyaf talentog y byd.

“Gyda thros 20 o gystadlaethau, mae cyfle i bob math o berfformiwr o sawl disgyblaeth ac oedran i gael bod yn rhan o’r cyffro.

“Rydym yn anelu at ymestyn ein harlwy bob blwyddyn ac mae’r gystadleuaeth Arweinydd Eithriadol a’r Grŵp Acapella Rhyngwladol yn ychwanegiadau cyffrous iawn i’r rhaglen. Rydym yn edrych ymlaen at weld pwy fydd yn cofrestru y tro hwn.”

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r cystadlaethau neu i wneud cais ar wefan yr Eisteddfod, ewch i: http://eisteddfodcompetitions.co.uk/