Eisteddfod Llangollen yn ddigwyddiad teuluol i drigolion o Wrecsam

Mam a merch o Wrecsam yn dathlu 70 mlynedd o fod yn rhan o Eisteddfod Ryngwladol gyda pherfformiad arbennig

Fe fydd mam a merch o Wrecsam, Helen Hayward a Betty Jones, yn nodi ymrwymiad oes i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni trwy berfformio ar lwyfan gyda’i gilydd am y tro cyntaf.

Fel rhan o berfformiad o Calling All Nations gan y cyfansoddwr enwog a’r enillydd Grammy Christopher Tin, bydd y ddwy yn canu gyda’r Corws Dathlu ar ddydd Mercher 5ed Gorffennaf.

Fe fydd y cylch o ganeuon, sy’n cael ei ganu mewn deuddeg iaith wahanol, yn cael ei arwain gan y cyfansoddwr ei hun – ac fe fydd y soprano Elin Manahan Thomas a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru hefyd yn rhan o’r perfformiad hudolus. Yn cyflwyno’r cyfan fydd Andrew Collins o Classic FM.

Dywedodd Betty: “Dechreuodd fy mherthynas i gydag Eisteddfod Llangollen o oed cynnar. Fe wnaeth fy mam a’n nhad groesawu cystadleuwyr i’n cartref yn Froncysyllte ar gyfer yr Eisteddfod gyntaf ac fe allwch chi ddweud mai dyma oedd cychwyn ymrwymiad oes i’r ŵyl.

“Pan briodais i Arnold, fe gafodd o wybod na fyddai’n fy ngweld yn ystod wythnos gyntaf mis Gorffennaf bob blwyddyn os nad oedd o’n rhan o’r Eisteddfod. Ar ôl hynny, fe ddaeth i helpu bob blwyddyn. I mi, agosatrwydd ac undod yr Eisteddfod yw ei hanfod.

Fe drodd yr angerdd hwn yn ddigwyddiad teuluol wedi I’w merch, Helen, ddechrau gwirfoddoli yn Eisteddfod Llangollen, gan hefyd annog ei gwr Neil – sydd ar hyn o bryd yn Brif Stiward – a’u plant i wneud eu rhan hefyd. Dyma dair cenhedlaeth sydd wrth eu bodd a’r ŵyl.

“Dw i ond wedi methu dwy Eisteddfod erioed. Fe wnes i hyd yn oed fynychu gŵyl 1988 ar ôl rhoi genedigaeth i fy mab 10 diwrnod ynghynt – roedd methu’r Eisteddfod yn ormod i mi!”, meddai Helen.

“Mi fydd mynychu’r Eisteddfod a chael perfformio wrth ymyl fy mam eleni yn wych.”

Ychwanegodd Betty: “Dw i jyst wrth fy modd hefo Eisteddfod Llangollen, a dyma fydd fy ail dro yn perfformio ar lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol. Yn 1952, wnes i ganu gyda chôr Ysgol Ramadeg Llangollen – Ysgol Dinas Bran erbyn hyn – ac fe ddaethon ni’n ail yn y gystadleuaeth i blant. Roedd o’n brofiad gwerth chweil ac fe wnaeth o atgyfnerthu fy nghariad tuag at ganu.

“Ond fe fydd eleni yn hyd yn oed mwy arbennig gan y bydd perfformio wrth ymyl fy merch yn brofiad y gwnawn ni ei drysori am byth.”

Wrth drafod eu huchafbwyntiau o’r 120 o ymweliadau rhyngddynt, dywedodd Helen: “I mi, roedd bod yn yr un ‘stafell a Jose Carreras a’i weld yn perfformio yn anhygoel. Alla i ddim esbonio gymaint o fraint oedd cael ei weld yn fyw. Mae’r Eisteddfod Ryngwladol wir yn dod â’r talentau gorau i Langollen, sy’n un o’r rhesymau pam fy mod mor hoff o’r Eisteddfod.”

A dywedodd Betty: “Yn 1955, fe wnes i groesawu Côr Meibion Modena, ac yn eu mysg roedd Pavarotti. Fe wnes i ei weld yn perfformio fel unawdydd yn ddiweddarach. Faswn i fyth wedi cael y ddau brofiad yma oni bai am yr Eisteddfod ac am hynny mi fydda i’n ddiolchgar ar hyd fy oes.”

Er mwyn prynu ticedi i berfformiad y Corws Dathlu a Calling All Nations gydag Elin Manahan Thomas a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, cliciwch yma.