Eisteddfod Llangollen yn croesawu Llysgennad Heddwch Albania

Llysgennad Heddwch Albania yn cyflwyno arwydd o heddwch rhyngwladol i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen – un o wyliau blaenllaw y byd sy’n hybu ewyllys da rhwng cenhedloedd a’n dathlu undod a heddwch – wedi estyn croeso i Lysgennad Heddwch Albania, cyn i gystadleuwyr o’r wlad gymryd rhan yn yr ŵyl yn 2017.

Cafodd Fitim Mimani ei gyfarch gan gadeirydd yr Eisteddfod Dr Rhys Davies; yr Aelod Seneddol Susan Elan Jones; y Swyddog Cyswllt Merle Hunt a grŵp o wirfoddolwyr yr Eisteddfod. Fe gyflwynodd rodd i’r Eisteddfod o dair coeden olewydd – arwydd traddodiadol o heddwch, iechyd a gobaith.

Yn dilyn cyfraniad y grŵp o ddawnswyr a cherddorion o Albania, Visaret E Gores, yn Eisteddfod Llangollen 2016, mae Fitim wedi bod ar sawl ymweliad fel rhan o ymchwil i ddarganfod ffyrdd i ddod â mwy o gystadleuwyr o Albania i’r ŵyl._DSC0306

Dychwelodd i gyflwyno’r rhoddion symbolaidd, fel arwydd o gyfeillgarwch a dealltwriaeth rhwng cenhedloedd, ac i gyflwyno Qypryllinjte E Roshnikut – grŵp o bump o gerddorion a dawnswyr o Albania fydd yn ymweld â’r ŵyl yn 2017.

Yn y cyflwyniad, dywedodd Cadeirydd yr Eisteddfod Dr Rhys Davies: “Mae gennym atgofion melys o’r grŵp o Albania yn 2016. Roedd eu perfformiadau annisgwyl ar y maes yn wych ac fe roedden nhw’n annog y dorf i ymuno yn y dawnsio.

“Roedd hi fel petai nhw wedi dod a chynhesrwydd a heulwen Albania hefo nhw i’n gŵyl ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu perfformwyr o’r wlad yn ôl yn 2017.

“Buasem yn hoffi diolch i Fitim a gweddill ei gyfeillion am y rhoddion hyfryd, roedd yn fraint eu derbyn.

“Buasem hefyd yn hoffi estyn ein diolch cynhesaf i bawb yn Owrtyn a’r ardal gyfagos wnaeth agor eu cartrefi i’n hymwelwyr pwysig. Cefnogaeth barhaol y gymuned yw’r hyn sy’n gwneud yr Eisteddfod yn ddigwyddiad mor arbennig ac yn un o’r prif resymau tros ei llwyddiant a’i threftadaeth nodedig.

Cynhelir Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen – dathliad unigryw o gerddoriaeth, dawns a diwylliant rhyngwladol – o ddydd Llun 3 – 9 Gorffennaf 2017.