Mared Williams yn ennill teitl Llais Rhyngwladol Theatr Gerddorol 2018

Perfformiwr o Gymru yn cipio teitl mawreddog a gwobr cyfle unwaith mewn oes i ganu yn Eisteddfod y Traeth Aur yn Awstralia

Mae perfformiwr o Gymru wedi ennill teitl Llais Rhyngwladol Theatr Gerddorol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar gyfer 2018.

 Llwyddodd Mared Williams, 21 mlwydd oed, i syfrdanu cynulleidfaoedd a’r beirniad gyda’i pherfformiadau o “So Big / So Small”,  “Pulled” o The Addams Family a “Being Alive” ar lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol yn rownd derfynol y gystadleuaeth ddydd Mercher 4 Gorffennaf.

Fel enillydd y teitl mawreddog bydd yn derbyn Medal ryngwladol, £1,500 o wobr ariannol a’r cyfle i berfformio yn Eisteddfod y Traeth Aur yn Awstralia ym mis Hydref 2018. Mae treuliau’r trip cyfan wedi’u talu, ac fe’i ariennir gan Eisteddfod y Traeth Aur.

Brwydrodd Mared yn erbyn cystadleuaeth galed yn rowndiau rhagbrofol y gystadleuaeth, a gynhaliwyd yn Eglwys Fethodistaidd Llangollen ddydd Mawrth 3 Gorffennaf, gan ennill lle yn y rownd derfynol ynghyd â Kade Bailey o Ganada a Megan-Hollie Robertson o Gymru.

Fe wnaeth y beirniad Kate Edgar a Sarah Wigley osod Kade yn yr ail safle am ei ddatganiad o “She Loves Me”, a daeth Megan-Hollie yn drydydd, gyda’i pherfformiad hyfryd.

Dywedodd Sarah Wigley: “Cafwyd perfformiad swynol a chwbl hudolus gan Mared a wnaeth arddangos ei gallu i gyfathrebu gyda’r gynulleidfa, ei angerdd am fod ar y llwyfan yn ogystal â’i gallu ac ystod lleisiol cenedlaethol.”

Dywedodd yr enillydd, Mared Williams: “Ar ôl dod yn drydydd y llynedd, mae’n gyffrous iawn gweld fy nghynnydd i’r safle cyntaf eleni, ac rwyf yn falch iawn o allu cynrychioli Cymru yn yr Eisteddfod.”

Mae Eisteddfod y Traeth Aur yn cynnwys dros 70,000 o gantorion a dawnswyr, 330 o fandiau a cherddorfeydd, 175 o gorau, bron i 1,5000 o grwpiau dawns a dros 3,000 o ddawnswyr unigol.

Dywedodd Judith Ferber, Rheolwr Cyffredinol Eisteddfod y Traeth Aur: “Hoffem longyfarch Mared ar ei pherfformiad gwych yn yr Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen. Edrychwn ymlaen at ei gweld yn perfformio yn y Musicale a chaniatáu i ni barhau ein dathliad o dalent cerddorol rhyngwladol a’n perthynas hir-sefydlog gyda’r ŵyl.”

Ychwanegol Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Vicky Yannoula: “Rhoddodd Mared berfformiad hudolus i’r gynulleidfa a’r beirniad yn ystod y gystadleuaeth eleni a hoffem ei llongyfarch ar ennill y teitl Llais Rhyngwladol Theatr Gerddorol 2018.

“Mae ein perthynas gydag Eisteddfod y Traeth Aur yn ein helpu i godi proffil rhyngwladol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ymhellach, yn ogystal â rhoi llwyfan neidio ar gyfer gyrfaoedd cerddorol cyffrous. Hoffem ddiolch i Judith a’r tîm am eu cefnogaeth a’u cyfeillgarwch parhaus.”

Am ragor o wybodaeth am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ewch i www.llangollen.net ac am ragor o wybodaeth am Eisteddfod y Traeth Aur ewch i www.goldcoasteisteddfod.com.au/