Cynnig i unawdydd Sioe Gerdd addawol berfformio mewn Eisteddfod eiconig yn Awstralia

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi creu partneriaeth âg Eisteddfod y Gold Coast yn Awstralia unwaith eto ac yn cynnig cyfle i enillydd Llais Sioe Gerdd 2017 deithio 10,000 o filltiroedd i ben draw byd. (Bydd modd cofrestru hyd at ddydd Gwener 3ydd Mawrth 2017).

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi paru âg un o ddigwyddiadau celfyddydol mwyaf y byd am yr ail flwyddyn yn olynol, ac yn cynnig cyfle i gantorion addawol ennill taith i’w chofio.

Fe fydd enillydd cystadleuaeth Llais Sioe Gerdd Ryngwladol 2017 yn cael ei gwobrwyo neu ei wobrwyo â medal ryngwladol, £1,500 a thaith i’r Gold Coast yn Awstralia lle bydd yn perfformio yn Y Musicale – cyngerdd blynyddol yr Eisteddfod yn Awstrlia sy’n rhoi llwyfan i dalent sioe gerdd addawol. Gall y rhai sydd am gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth wneud hynny ar wefan Eisteddfod Llangollen:  <http://eisteddfodcompetitions.co.uk/>.

Fe fydd yr enillydd eleni yn dilyn olion traed y canwr a’r actor o Sir Gâr Gareth Elis, fu’n perfformio fel unawdydd yn Y Musicale  wedi iddo ennill teitl Llais Sioe Gerdd 2016.

Gareth Elis, enillydd teitl Llais Sioe Gerdd 2016.

Cynhelir Y Musicale ar ôl saith wythnos o gystadlu gan dros 70,000 o gantorion a dawnswyr, y rhan fwyaf o dan 20, gan gynnwys 350 o fandiau a cherddorfeydd, 175 côr, bron i 1500 o grwpiau dawns a dros 3,000 o ddawnswyr unigol.

Dywedodd cyfarwyddwr cerddorol yr ŵyl Eilir Owen Griffiths: “Mae medru cynnig y cyfle anhygoel yma i un o’n cantorion addawol am yr ail flwyddyn yn olynol yn hyfryd, yn enwedig am ein bod ni’n dathlu ein pen-blwydd yn 70ain ac Eisteddfod y Gold Coast yn dathlu 36 mlynedd o gynnal yr ŵyl.

“Yn dilyn ymweliad un o gynrychiolwyr Eisteddfod y Gold Coast i Langollen yn 2015 ac ar ôl perfformiad Gareth Elis yn Y Musicale fis Hydref diwethaf, rydym wedi darganfod gwerth mawr yn ein cyd-weithio

“Mae’r ddwy eisteddfod yng ngogledd Cymru ac Awstralia yn teimlo’n angerddol am gerddoriaeth, perfformio a hybu talent ifanc. Mae’r Eisteddfod Ryngwladol wastad yn rhoi pwyslais mawr ar greu cysylltiadau a pherthnasau rhyngwladol ac rydym yn hynod o ddiolchgar i drefnwyr Eisteddfod y Gold Coast am y cynnig bendigedig hwn.

“Bydd ein perthynas yn sicrhau bod poblogrwydd cystadleuaeth Llais Sioe Gerdd, a gafodd ei chyflwyno yn 2015, yn tyfu ac yn denu cantorion o bedwar ban byd, gan ychwanegu at ein rhestr gref o unawdwyr talentog presennol”.

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol Eisteddfod y Gold Coast, Judith Ferber: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld safon y dalent fydd yn datblygu o gystadleuaeth Llais Sioe Gerdd Ryngwladol 2017.

“Mae gweithio hefo digwyddiad sy’n rhannu ein delfrydau o gymdogaeth, angerdd am gerddoriaeth a pherfformio, wrth ganiatáu i ni agor drysau i unawdwyr cyffrous newydd yn bleser ac yn fraint.

“Rydym hefyd yn falch o fedru ffurfio cysylltiadau rhyngwladol a chodi ymwybyddiaeth o Eisteddfod y Gold Coast a’i berfformwyr talentog. Edrychwn ymlaen at groesawu enillydd 2017 atom ni ar ddydd Sul 15ed Gorffennaf”.

Dydd Gwener 3ydd Mawrth yw’r dyddiad olaf i gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth. Mae gofyn i gantorion berfformio dau unawd sioe gerdd gyferbyniol heb fod yn hwy nag wyth munud, gyda phob cân yn cael ei chanu yn yr iaith wreiddiol. Ar gyfer y rownd derfynol, bydd gofyn i gystadleuwyr gyflwyno rhaglen gyferbyniol heb fod yn fwy na 10 munud.