Codi gwydryn o gwrw newydd i ddathlu pen-blwydd yr Eisteddfod yn 70 oed

Mae bragdy crefft wedi bragu cwrw arbennig i bawb godi gwydryn i gofio pen-blwydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 70 oed y flwyddyn nesaf.

Bydd Ynyr Evans, pennaeth y poblogaidd Fragdy Llangollen yn Llandysilio ychydig i fyny’r ffordd o faes yr Eisteddfod enwog, yn helpu carwyr cwrw i ddweud ‘iechyd da’ wrth yr Eisteddfod wrth lansio’i gwrw yng ngŵyl fwyd Hamper Llangollen eleni.

Mae’n siŵr y bydd pawb wrth eu bodd yn blasu Harmony Ale, sydd wedi’i ysbrydoli gan draddodiad balch yr Eisteddfod o ddefnyddio cerddoriaeth i hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth ymysg cenhedloedd.

Disgwylir i filoedd o folgwn heidio i’r ŵyl fwyd boblogaidd pan ddaw’r dref ymwelwyr yn Sir Ddinbych yn brifddinas goginio Cymru ar benwythnos 15 a 16 Hydref.

Bydd dathlu mawr yn yr Eisteddfod fis Gorffennaf nesaf, 70 mlynedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf ym 1947 i feithrin cymod a chyfeillgarwch yn y blynyddoedd tywyll ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Dyna achosodd Ynyr, 31 mlwydd oed, i gynhyrchu ei gwrw newydd sydd, meddai, wedi’i gyfuno’n arbennig i greu blas cynnil, cymodlon.

“Rwyf wedi bod yn gweithio ar y cwrw newydd ers rhai misoedd, roeddwn i eisiau cael y blas yn hollol iawn” eglurodd.

“Mae’n gwrw chwerw traddodiadol, eithaf brown, gyda digon o hopys i adael blas cynnil i gyfleu awyrgylch gymodlon yr Eisteddfod.

“Rwyf wrth fy modd yn yr Eisteddfod ac mynd iddi ers sawl blwyddyn, fel ymwelydd a chyflenwr cwrw, ar y maes ac yn y bariau o dan do. ”

Wrth gynhyrchu Harmony Ale, pwysodd Ynyr yn drwm ar ei flynyddoedd o brofiad bragu a ddechreuodd pan aeth gyda’i ewythr, Steven Evans, sy’n berchen Gwesty’r Abbey Grange a nifer o dafarndai yn yr ardal, i’r busnes bragu cwrw yn ôl yn 2010.

Mae’r bragdy newydd lle’r oedd siop fferm Abbey Grange ar y ffordd i Fwlch yr Oernant ger Abaty hanesyddol Glyn y Groes.

Mae Ynyr, sydd â gradd mewn daearyddiaeth a gradd feistr mewn rheolaeth cefn gwlad, yn cofio’r dyddiau cynnar pan mai dim ond 250 litr o gwrw golau oedd yn cael ei gynhyrchu ar bob brag ond mae’n cofio hefyd yr ehangu a ddigwyddodd yn fuan ar ôl hynny.

Meddai:  “Rydyn ni wedi ymestyn y bragdy i’r hen stablau y tu ôl i’r gwesty ac wedi cynyddu’r brâg yn raddol nes ein bod, erbyn hyn, yn cynhyrchu 2,200 litr bob tro.  Mae ein staff hefyd wedi tyfu i dri llawn amser a dau rhan amser.

“Rydyn ni’n gwerthu i ugeiniau o dafarnau ledled gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr ond yn canolbwyntio’n bennaf o ddigon ar ein cwsmeriaid lleol.

Hamper Llangollen, Colin Loughlin with Ynyr Evans, Llangollen Brewery.

“Dim ond y cynhwysion gorau a dŵr tanddaearol lleol ydyn ni’n eu defnyddio i gynhyrchu ein cwrw gwledig nodweddiadol, fel cwrw chwerw Llangollen a Welsh Black,  Grange No 1 a chwrw golau Borders a Llangollen Lager.

“Flwyddyn neu ddwy yn ôl, fe benderfynon ni fragu cwrw o’r enw Holy Grail a gafodd ei ysbrydoli gan chwedl yn yr ardal ynghylch abaty Sistersaidd Glyn y Groes a Chastell Dinas Brân, sy’n uchel ar ben y bryn uwchben Llangollen.

”Yn ôl yr hanes, y castell oedd lle gorffwys olaf y Greal Sanctaidd, y cwpan y bu’r Iesu yn yfed ohono yn y Swper Olaf a bod yna dwnnel o’r castell yr holl ffordd i’r abaty islaw.

“Cafodd y cwrw ei lansio yn Hamper Llangollen a chafodd gymaint o groeso nes i ni benderfynu dal i’w gynhyrchu.

“Un brag o Harmony Ale fyddwn i’n ei wneud, sy’n golygu y bydd gennym ni 2,200 litr mewn casgenni naw galwyn yn gwerthu am tua £3 y peint.

“Yn ogystal â’i lansio ar ein stondin yn yr ŵyl fwyd, byddwn yn gwerthu ychydig ohono hefyd i dafarnau’r ardal i gael barn y bobl amdano.  Os bydd yn gwneud yn dda, efallai y byddwn yn ei gadw yntau hefyd.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw iawn at fod yn Hamper Llangollen unwaith eto, mae’n ŵyl mor boblogaidd, fydden ni byth yn ei cholli ac rydyn ni’n methu â byw yn ein croen cyn cael dangos ein Harmony Ale newydd i’r byd.

Roedd swyddog marchnata’r Eisteddfod, Megan McNutt, wrth ei bodd bod Ynyr wedi mynd i’r drafferth i fragu cwrw newydd yn arbennig i ddathlu pen-blwydd mawr yr Eisteddfod.

“Mae’n syniad hyfryd ac rydyn ni’n diolchgar iawn iddo”, meddai.

“Mae’n arbennig o braf fod yr Eisteddfod yn denu cefnogaeth fel hyn gan fenter leol hynod lwyddiannus oherwydd, yn ogystal â’i hagwedd ryngwladol, mae’r Eisteddfod yn hynod ddibynnol ar gefnogaeth y gymdogaeth.

Mae cadeirydd Hamper Llangollen, Colin Louchlin, hefyd yn edrych ymlaen at flasu’r cwrw newydd.

Meddai:  “Rwy’n meddwl ei fod yn syniad gwych creu cwrw newydd i ddathlu’r garreg filltir enfawr hon yn hanes yr Eisteddfod.

“Mae dewis y bragdy o Hamper Llangollen i’w lansio yn ffordd berffaith o ddod â’r ddwy ŵyl eiconig yn y dref at ei gilydd.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at ŵyl fwyd arbennig iawn eleni.  “Diolch i lu o gwmnïau brodorol, mae gogledd-ddwyrain Cymru’n brysur ennill bri fel canolfan o ragoriaeth am fwyd o’r ansawdd gorau.

“Mae’r ŵyl fwyd yn ffenestr siop berffaith i gwmnïau sy’n asgwrn cefn ein heconomi gwledig.

“Mae’r  Pafiliwn mewn lle hynod o hardd – alla i ddim dychmygu fod unrhyw ŵyl fwyd yng ngwledydd Prydain mewn lle harddach.”