Calan

Ffidlau, gitâr, acordion, pibau a dawnsio stepio’n ffrwydro’n fyw

Gyda’u rhythmau heintus a’u rwtinau egniol, mae’r band a fu’n enillwyr gwobrwyon rhyngwladol yn ôl ar yr hewl hir er mwyn dathlu eu halbwm newydd – Solomon. Deuant gydag acordion, telyn, gitâr, ffidlau a phibau Cymreig gan gynnwys perfformio dihafal gan bencampwraig dawnsio stepio.

Sain groyw a bywiog gyda churiad taranllyd wedi ei osod i gefnlen hen draddodiadau. Yn cynnwys caneuon ynglŷn â stori hudol teyrnas dylwyth teg Cymru gyda’ chwedl yn sôn am ledrith, mytholeg a direidi, a chymysg o alawon hiraethus a phrydferth.

Maent wedi cyflwyno cenhedlaeth newydd i gerddoriaeth Gymreig a pharhânt i wneud hwn wrth iddynt deithio Ewrop, Gogledd America, Awstralia ac Asia.

‘….. taith amrywiol rhwng dawnsiau chwyrliol Cymreig, pop-gwerin acwstig iach gydag agwedd flaengar a hyder ifanc.’  FROOTS

“… cerddoriaeth werin yn cael ei chwarae gyda gras, menter a phleser pur gan y grŵp offerynnol pum aelod yma gyda detholiad o ddawnisau, jigiau a phibelli gwych.” THE MIRROR

“Dyma ganu gwerin mewn gwedd newydd modern… defnydd anhygoel o offerynnau, caneuon hyfryd, alawon tapio traed bywiog, cynnwrf a chyffro crai” BELFAST TELEGRAPH

www.calan-band.com