Côr Ysgol Pen Barras

Côr Ysgol Pen Barras Rydym yn gôr ysgol o dref ganoloesol hardd Rhuthun yn Nyffryn Clwyd yng Ngogledd Cymru, sy’n dafliad carreg o safle’r eisteddfod ryngwladol yn Llangollen. Rydym yn gôr sy’n cynnig cyfleoedd amrywiol i ganu drwy gydol y flwyddyn ysgol ac rydym yn croesawu unrhyw un sy’n awyddus i ymuno â ni a pherfformio. Rydym yn ymarfer yn wythnosol ac ar hyn o bryd mae gennym tua 50 o aelodau o flynyddoedd 5 a 6. Rydym yn ysgol Gymraeg ac yn falch iawn o’n traddodiadau cerddorol a’n hiaith ac felly yn hyrwyddo canu yn ein hiaith frodorol werthfawr. Mae gennym nifer o aelodau sydd wedi dysgu’r Gymraeg fel ail iaith yn ein hysgol ac sydd bellach yn hyderus ac yn falch o allu sgwrsio a pherfformio yn Gymraeg. Cyfarwyddir y Côr gan Mrs Elin Owen a Mrs Sioned Roberts, aelodau o staff yr ysgol, sydd wedi gweithio gyda’r côr ers dros 10 mlynedd ac wedi rhoi cyfleoedd gwych i gymaint o blant. Rydym wedi bod yn llwyddiannus mewn amrywiaeth o gystadlaethau fel Côr Cymru, Eisteddfod yr Urdd a chystadlaethau Carol yr Ŵyl ac wedi perfformio mewn sawl cyngerdd dros y blynyddoedd. Ond ein prif nod a’n amcan yw rhoi cyfle i bob plentyn fwynhau canu a theimlo’n hyderus trwy gerddoriaeth. Rydym wedi cystadlu yn Llangollen o’r blaen ac yn ei chael yn brofiad amhrisiadwy i’r plant, y staff a’r rhieni.