Red Priest

PIERS ADAMS – recorders
ADAM SUMMERHAYES – feiolin
ANGELA EAST – cello
DAVID WRIGHT – harpsicord

Cyrhaeddodd CD Red Priest ‘The Baroque Bohemians’ Rhif 1 yn Siart Clasurol Arbenigol y DU, a nhw yw’r unig grŵp cerddoriaeth gynnar yn y byd i gael eu cymharu yn y wasg gyda’r Rolling Stones, Jackson Pollock, y Brodyr Marx, Spike Jones a Cirque du Soleil. Disgrifiodd y beirniaid cerddorol y pedwarawd acwstig anhygoel fel “arloesol a hereticaidd”, “haerllug ond hanfodol”, “hollol amharchus a hynod oleuedig”, “cwbl wyllt a dychmygus iawn”, gyda “synnwyr digrifwch direidus” ac “arddull sy’n torri’r rheolau, agwedd siambr roc at gyngherddau cerddoriaeth gynnar”.

Sefydlwyd Red Priest yn 1997, ac enwyd y grŵp ar ôl yr offeiriad gwallt cringoch, Antonio Vivaldi, ac ers hynny mae’r grŵp wedi cynnal cannoedd o gyngherddau mewn rhai o wyliau cerdd mwyaf nodedig y byd, gan gynnwys Gŵyl Gelf Hong Kong, Gŵyl Nosweithiau Rhagfyr Moscow, Gŵyl Schwetzingen, Gwyl Gwanwyn Prague, Gwyl Ravinia, Gŵyl Bermuda, ac yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop, Siapan, Awstralia, ac ar draws Gogledd a Chanol America. Mae’r grŵp wedi bod yn destun proffiliau teledu manwl ar gyfer NHK (Japan) ac ITV (y DU) – yr olaf ar gyfer y South Bank Show yn 2005, a gofnododd lansiad y Red Hot Baroque Show, priodas gyffrous hen gerddoriaeth gyda’r dechnoleg golau a fideo ddiweddaraf.

Yn 2008, lansiodd Red Priest ei label recordio ei hun, Red Priest Recordings, sydd bellach yn gartref i holl recordiadau’r ensemble a’i aelodau, ac sydd wedi denu llawer o sylw yn y wasg gerddoriaeth ledled y byd. Disgrifiwyd CD y grŵp ‘Handel in the Wind’ gan Gramophone fel – ‘…hollol wych…. yn cynnwys y chwarae offerynnol mwyaf eithriadol rydych yn debygol o’i glywed’. Mae disgiau eraill wedi cynnwys casgliad herfeiddiol o’r enw “Pirates of the Baroque” a “Johann, I’m Only Dancing”.

Mae Piers Adams wedi cael ei ddisgrifio gan y Washington Post fel ‘y chwaraewr recorder pennaf yn y byd’. Mae wedi perfformio mewn nifer o wyliau cerddorol a phrif neuaddau cyngerdd y byd, gan gynnwys Gŵyl Frenhinol Llundain, Neuadd Wigmore a Neuadd y Frenhines Elizabeth, ac fel unawdydd concerto gyda’r Philharmonia, yr Academy of Ancient Music, Cerddorfa Symffoni Singapore a Cherddorfa Symffoni’r BBC. Mae Piers wedi rhyddhau nifer o CDs unigol sy’n adlewyrchu ei chwaeth eclectig, gan amrywio o’i ddisg arobryn o gerddoriaeth Vivaldi i ddisg Concerto i’r Recorder gan David Bedford – un o lawer o weithiau mawr a ysgrifennwyd yn benodol ar ei gyfer. Mae hefyd wedi ymchwilio, trefnu a recordio nifer o ddarnau clasurol, rhamantus, argraffiadol a gwerin arbennig, sy’n rhan ganolog o raglen ei ddatganiadau cerdd.

Astudiodd taid Adam Summerhayes y feiolin gyda disgybl olaf Joachim a chydag Adolf Brodsky, y feiolinydd a oedd y cyntaf i berfformio concerto Tchaikovsky. Dysgodd gyntaf ganddo ef ac yna gan Yfrah Neaman, un o addysgwyr mwyaf yr ugeinfed ganrif. Fe’i cyflwynwyd i’r feiolin Baróc gan Roy Goodman yn y 1980au, a’i gyflwyno wedyn i berfformio offerynnau cynnar gan Paul McCreesh ac yna bu’n astudio gyda Micaela Comberti, a oedd ar y pryd yn flaenllaw iawn yn y maes cerddoriaeth gynnar.

Mae wedi cael canmoliaeth uchel fel cerddor siambr, yn enwedig am nifer o ddisgiau sy’n cynnwys recordiadau cyntaf gweithiau repertoire anadnabyddus, gan gynnwys gweithiau Aaron Copland. Mae hefyd wedi rhoi llawer o berfformiadau concerto yn Ewrop, Rwsia ac UDA. Mae Adam wedi recordio dros 20 CD ar gyfer Harmonia Mundi, Chandos, ASV, Meridian, Sargasso ac eraill. Disgrifiwyd ei ddisg o gerddoriaeth ffidil sipsiwn fel “cerddoriaeth bwerus… chwarae virtuoso rhyfeddol” (Gramophone). Arweiniodd y ddisg honno at gameo bychan yn ffilm boblogaidd Guy Ritchie Sherlock Holmes:Game of Shadows a lle perfformiwyd un o’i draciau ei hun hefyd.

Mae Adam wedi darlledu’n fyw ar BBC Radio 3 – gan gynnwys yr Early Music Show – ac mae ei recordiadau a’i gyfansoddiadau wedi cael eu darlledu ledled y byd.

Mae Angela East yn fawr ei pharch fel un o’r perfformwyr mwyaf gwych a deinamig yn y byd offerynnau, fe’i chanmolwyd yn The Times, Llundain, am “bŵer elfennol” ei chwarae cello. Mae hi wedi perfformio mewn sawl cyngerdd yng Nghanolfan y Frenhines Elizabeth a Neuadd Wigmore yn Llundain, ac fel unawdydd cello gyda llawer o gerddorfeydd baróc blaenllaw Ewrop, yn ogystal â’i hensemble ei hun, y Revolutionary Drawing Room. Ymhlith ei rhestr drawiadol o gyngherddau y mae La Scala, Milan, Tŷ Opera Sydney, Versailles a Glyndebourne. Rhyddhawyd ei disg o Suites Cello Bach ar Recordiadau Red Priest, ynghyd â disg o ddatganiadau sonatau baróc poblogaidd i’r cello.

Roedd David Wright yn gerddor bron yn gyfan gwbl hunan addysgedig cyn ennill ysgoloriaeth i’r Coleg Cerdd Brenhinol, lle’r enillodd sawl gwobr, gan gynnwys Cystadleuaeth Rhyngwladol Broadwood, a graddio gyda rhagoriaeth. Ers hynny, mae wedi gweithio gyda rhai o brif gerddorion y byd, gan gynnwys Emma Kirkby, James Bowman a Steven Varcoe, ac fel unawdydd gyda nifer o grwpiau rhyngwladol enwog. Mae wedi cyfarwyddo nifer o gyngherddau o’r harpsicord, gan gynnwys y perfformiad modern cyntaf o The Blind Beggar of Bethnal Green gan Arne, ac mae’n arweinydd gwadd gyda nifer o gerddorfeydd Ewropeaidd. Mae David wedi treulio llawer o’i amser yn y blynyddoedd diwethaf yn perfformio y Goldberg Variations gan Bach, a recordiwyd ganddo yn 2007 ac mae wedi teithio’n helaeth ers hynny, a pherfformio ar y teledu a’r radio. Ymunodd â Red Priest yn 2011, gan gymryd drosodd oddi wrth ei ragflaenydd mewn digwyddiad gweddnewid tebyg i Dr Who yng Ngŵyl Gerdd Gynnar Brighton yn 2010!