Dechrau trydanol i ddathliadau 70ain Eisteddfod Ryngwladol

Côr Meibion Dyffryn Colne, cystadleuwyr gwreiddiol o Eisteddfod Ryngwladol 1947, yn ymuno â chorau meibion Froncysyllte (Fron) a Rhosllanerchrugog (Rhos) ar gyfer cyngerdd agoriadol yr ŵyl.

Fe wnaeth band pres gorau’r byd rannu llwyfan â phedwar o gorau meibion enwocaf Cymru nos Lun 3ydd Gorffennaf, mewn cyngerdd agoriadol gwefreiddiol i ddathlu 70 mlynedd ers sefydlu Eisteddfod Llangollen.

O dan arweiniad Owain Arwel Hughes CBE, fe ddaeth y Cory Brass Bass ynghyd â chorau meibion Dyffryn Colne, Canoldir, Froncysyllte (Fron) a Rhosllanerchrugog (Rhos) a’r unawdydd ewffoniwm David Childs.

Hefyd yn rhan o’r rhaglen safonol oedd enillydd Llais y Dyfodol 2015, Meinir Wyn Roberts, wnaeth drawsnewid o fod yn gystadleuwyr i berfformiwr o fewn dim ond dwy flynedd.

Fe wnaeth y soprano o Gaernarfon ganu fersiwn hyfryd o O mio babbino caro cyn i’r corau meibion pwerus uno i berfformio The Rhythm of Life, a ddilynwyd gan berfformiad penigamp David Childs o Carnival of Venice.

Yn ystod y gyngerdd agoriadol, fe gafodd Gwobr Heddwch Rhyngwladol y Rotery ei gyflwyno i British Ironworks a chymdeithas MSF.

Gyda chymysgedd o ffefrynnau clasurol, rhai o hoff emynau Cymru a sawl corws operatig, roedd y gyngerdd yn ddathliad egnïol o offerynnau pres a lleisiau. Mewn diweddglo trydanol, cafwyd perfformiad o Finale, Symphony 4 gan Tchaikovsky a fersiynau pwerus o Gwm Rhondda a Tydi a Roddaist gan y pedwar côr.

Ar ddechrau wythnos o gerddoriaeth, dawns, dathliadau a gweithgareddau teuluol mae disgwyl i artistiaid fel Syr Bryn Terfel, Kristine Opolais a Kristian Benedikt yn Tosca, Gregory Porter, The Overtones, Christopher Tin a Chorws Dathlu Llangollen, Manic Street Preachers, Reverend and The Makers a’r DJ BBC Radio 1, Huw Stephens ymddangos yn ddiweddarach yn yr wythnos.

Yn ogystal, fe fydd gweithgareddau teuluol ar y maes – o storiâu chwedlonol i sgiliau syrcas ac offerynnau mewn pebyll tipi yn yr ‘Adran Blant’.

Am fwy o wybodaeth neu i archebu tocynnau ar gyfer dathliadau 70ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, gan gynnwys Llanfest, cliciwch yma.