Y tenor Alfie Boe yn addo noson o gerddoroiaeth hudol

Cerddoriaeth o’r llwyfan a’r sgrîn fawr yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
Mae’r tenor nodedig Alfie Boe yn dychwelyd i ogledd Cymru.
Bydd y canwr clasurol, sydd â’r ddawn i doddi calonnau, ac sydd wedi gwerthu miliwn a hanner o ddisgiau, cyrraedd rhif un yn y siartiau clasurol nifer o weithiau a pherfformio ar Broadway, yn camu unwaith eto ar lwyfan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni.
Bydd Alfie, sydd wedi’i alw yn Hoff Tenor Prydain, yn perfformio caneuon o sioeau cerdd a ffilmiau cerddorol mewn cyngerdd disglair ar nos Iau, 9 Gorffennaf.
Yn ymuno ag ef bydd y gantores Gymreig, Sophie Evans, a aeth ymlaen i serennu fel Dorothy yng nghynhyrchiad y West End o The Wizard of Oz ar ôl dod yn ail yn sioe dalent Over the Rainbow ar y teledu. Yn rhannu’r llwyfan hefyd bydd y sacsoffonydd clasurol Amy Dickson, ynghyd â Jonathan Antoine, y tenor clasurol a ddaeth i enwogrwydd ar Britain’s Got Talent.
Mae’r cyngerdd yn cael ei noddi gan y sefydliad gofal arobryn Parc Pendine, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 30 eleni.
Dywedodd y perchennog Mario Kreft MBE: “Rydym wrth ein boddau i gael cyfle i noddi yr hyn sy’n argoeli bod yn noson hudol o adloniant cerddorol mewn blwyddyn mor bwysig iawn i Parc Pendine.”
Dywedodd cyfarwyddwr cerdd yr ŵyl, Eilir Owen Griffiths: “Rwyf wrth fy modd fod Alfie Boe wedi cytuno i arwain cyngerdd nos hollol wych. Cafodd perfformiadau bythgofiadwy Alfie yn y West End fel Jean Valjean yn Les Miserables ganmoliaeth haeddiannol iawn gan y beirniaidol.
“Nid dyma fydd ei ymddangosiad cyntaf yn Llangollen, wrth gwrs, ac mae’r cynulleidfaoedd bob amser wedi ymateb iddo, yn sicr mae’n ffefryn mawr. Ond dyma’r tro cyntaf i ni gynnal cyngerdd fydd yn dathlu sioeau cerdd a ffilmiau cerddorol. Bydd yn noson arbennig ac yn un na ddylid ei cholli.”
Dywedodd Alfie Boe ei hun, ei fod yn falch iawn o gael y cyfle i ddychwelyd i lwyfan Llangollen, gan ddilyn yn ôl troed ei arwr, y chwedlonol Luciano Pavarotti.
Meddai: “Mae’n ŵyl hyfryd, dyna pam rwy’n mwynhau dod yn ôl yma dro ar ôl tro. Dyma fydd fy nhrydydd ymweliad dw i’n meddwl.
“Mae yma gynulleidfa wych yma bob amser ac rwy’n gwybod y bydd pawb yn barod am noson dda. Rwyf bob amser wedi cael derbyniad gwych yn Llangollen.
“Bydd y rhaglen yn cynnwys rhai o’r goreuon o nifer fawr o’r sioeau cerdd a’r sgoriau ffilm gorau. Ac wrth gwrs fe fydd yna ambell syrpreis hefyd.
Bydd cyngerdd Alfie Boe yn un o uchafbwyntiau wythnos lawn arall i’r Eisteddfod Rhyngwladol a fydd yn dechrau gyda Diwrnod y Plant a Gorymdaith y Cenhedloedd ar y dydd Mawrth, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite, ac yna cyngerdd Calon Llangollen i ddilyn gyda’r hwyr fydd yn cynnwys llond pafiliwn o dalent ryngwladol.
Bydd uchafbwyntiau dydd Mercher yn cynnwys perfformiadau cyntaf Cerddor Ifanc Rhyngwladol y Flwyddyn a Chôr Plant y Byd tra bydd cystadlaethau dydd Iau yn gweld carreg filltir arall, sef Tlws Llais Rhyngwladol Theatr Gerddorol.
Bydd Categori Agored dydd Gwener yn arddangos arddulliau cerddorol fel canu gospel, canu barbershop, jazz, pop a glee a bydd hefyd yn gweld pwy yw enillydd Llais Rhyngwladol y Dyfodol, gyda’r wobr yn cynnwys cyfle i ganu yn un o’r cyngherddau nos yn y dyfodol.
Bydd y digwyddiad Rhuban Glas, sef cystadleuaeth Côr y Byd ar gyfer Tlws Pavarotti, yn cael ei gynal ar nos Sadwrn, yn ogystal â rown dderfynol Dawns Lucile Armstrong Terfynol ac ar y dydd Sul bydd naws ymlaciol ac anffurfiol i ddigwyddiad Llanfest cyn cyrraedd uchafbwynt cyngerdd olaf yr Eisteddfod.
Yn y cyfamser, mae gan Alfie Boe ychydig o fisoedd prysur o’i flaen cyn iddo gyrraedd Llangollen, gan gynnwys perfformiad cyntaf erioed o fersiwn “symffoni” Quadrophenia, clasur roc The Who yn Neuadd Albert yn Llundain.
Cafodd ei eni ym mhorthladd pysgota Fleetwood yn Sir Gaerhirfryn i fam o’r Iwerddon a thad o Norwy, ac ef oedd yr ieuengaf o naw o blant.
Daeth ei gyfle mawr pan gafodd ei weld gan ddyn busnes yn canu arias operatig wrth iddo lanhau ceir yn ei swydd fel mecanig dan hyfforddiant.
Awgrymodd y dyn busnes, oedd â chysylltiadau yn y diwydiant cerddoriaeth, y dylai Alfie fynd am glyweliad gyda chwmni opera yn Llundain a dyna a wnaeth, a bu hynny’n drobwynt gan iddo gael ei dderbyn yn gyflym.
Felly symudodd i Lundain ac astudio canu yn y Coleg Cerdd Brenhinol, y Stiwdio Opera cenedlaethol ac ymuno â Rhaglen Artistiaid Vilar Ifanc y Tŷ Opera Brenhinol.
Aeth ymlaen i goncro llwyfannau opera mwyaf mawreddog y byd, gan arwain cast Les Miserables am bron i flwyddyn, ac yna cafwyd perfformiad cofiadwy ganddo adeg Jiwbilî Diemwnt y Frenhines.
Y llynedd, ymddangosodd ar ein sgriniau teledu, gan serennu yn un o raglenni mwyaf poblogaidd ITV, Mr Selfridge, fel y canwr theatrau cerdd Richard Chapman, a’r llynedd hefyd cyhoeddodd ei hunangofiant, My Story.
Mae Alfie, belach yn 41 oed, ac yn briod â Sarah, a gyfarfu yn San Francisco tra’n ymarfer ar gyfer La Boheme, ac mae ganddynt ddau o blant.
Ychwanegodd: “Yn sicr mi fûm i’n ffodus iawn pan awgrymodd y dyn wrthyf y dylwn fynd am glyweliad gyda chwmni opera. Rydw i wedi bod mor lwcus, ond mae hefyd wedi bod yn waith caled.
“Mae cymaint o uchafbwyntiau – o’r West End i Efrog Newydd, ond mae’n debyg mai un o’r adegau gorau oedd canu ar y balconi ym Mhalas Buckingham fel rhan o Gyngerdd Jiwbilî Diemwnt y Frenhines.
“Nid bob dydd mae rhywun yn cael canu ym Mhalas Buckingham. Roedd yn achlysur bendigedig. Mi wnes i ganu ‘Somewhere’ o West Side Story ochr yn ochr â’r soprano Americanaidd Renee Fleming. Mae honno’n sicr yn gân y byddwn wrth fy modd yn ei chanu yn Llangollen.”
Mae awyrgylch braf a chyfeillgar maes yr Eisteddfod yn parhau trwy’r wythnos wrth i gannoedd o gystadleuwyr a miloedd o ymwelwyr gymysgu gyda’i gilydd gyda pherfformiadau byrfyfyr ymhob twll a chornel.
Gall ymwelwyr fwynhau cerddoriaeth fyw ar Lwyfan S4C, sydd â lle eistedd i 200 o bobl, ymuno mewn gweithdai dawns neu fwynhau’r awyrgylch llawn asbri trwy gydol yr wythnos wrth i gystadleuwyr o’r radd flaenaf berfformio mewn dathliad ysblennydd o ddiwylliannau gyda cherddoriaeth gorawl anhygoel a dawns traddodiadol bywiog, yn enwedig ar Ddydd Gwener Gwerin pryd bydd y llwyfannau awyr agored yn cynnwys cerddoriaeth a dawns rhyngwladol o’r safon uchaf.