Archifau Tag Eisteddfod

#EichLlangollen: Digwyddiad codi arian

Mae Eisteddfod Llangollen yn gwahodd pobl i ddathlu lansiad ei hymgyrch codi arian #EichLlangollen fel rhan o Wythnos Genedlaethol Codi Arian (20fed – 24ain  o Fai) gyda digwyddiad am ddim yn Sgwâr Canmlwyddiant y dref ar ddydd Sadwrn 25ain o Fai rhwng 11yb-4yp.

Nod #EichLlangollen yw codi ymwybyddiaeth o statws elusennol yr Eisteddfod Ryngwladol a pha mor hanfodol yw rhoddion i gynnal yr ŵyl unigryw hon ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

(rhagor…)

‘Cavern Club’ Lerpwl yn dychwelyd i Langollen

Mae gŵyl haf wythnos o hyd gogledd Cymru, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, wedi cyhoeddi y bydd clwb cerddoriaeth enwocaf y byd, sef ‘Cavern Club’ Lerpwl, yn dychwelyd i’r ŵyl eto eleni.

Ar ôl trefnu ei lwyfan dros dro cyntaf erioed yn  Eisteddfod Ryngwladol y llynedd, mae’r clwb o Lerpwl yn dychwelyd i ddiddanu cynulleidfaoedd ym mharti olaf yr ŵyl, Llanfest, ar ddydd Sul y 7ed o Orffennaf.

(rhagor…)

Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn helpu Eisteddfod Llangollen i greu Archif o’i Gorffennol

Heddiw, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi derbyn grant gwerth  £19,900 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer prosiect treftadaeth cyffrous, Archifo’r Gorffennol. Mae’r prosiect yn bosib diolch i’r arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, a’r gobaith yw mai dyma fydd y cam cyntaf i gasglu a digideiddio’r cyfoeth o ddeunydd archif sy’n ymwneud ag Eisteddfod Llangollen, fel y gall pawb ei fwynhau.

Gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, bydd y prosiect yn galluogi Eisteddfod Llangollen i gyflogi archifydd a fydd yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a phlant o Ysgol Dinas Brân i ddod â hanes Eisteddfod Llangollen yn fyw. Bydd y gwaith yn cynnwys datblygu system archifau ar-lein cynaliadwy ac ymestynnol, adnoddau addysgol ac arddangosfeydd i’w defnyddio yn y gymuned a ffilm fer am hanes Eisteddfod Llangollen.

(rhagor…)

Cantores Gymraeg yn syfrdanu yn Awstralia

Enillydd cystadleuaeth Llais Rhyngwladol Sioe Gerdd 2018 Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Mared Williams, yn teithio i Arfordir Aur Awstralia ar gyfer perfformiad mawreddog. 

Fel rhan o’i gwobr, cafodd Mared Williams, 21, o Lannefydd gyfle i ymuno â channoedd o artistiaid rhagorol eraill yn sioe Musicale, Eisteddfod yr Arfordir Aur. Mae’r sioe yn ddathliad mawreddog o sioeau cerdd ac yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl ddawns a cherddoriaeth saith wythnos o hyd yn Awstralia.

Ar ôl hoelio sylw’r gynulleidfa a’r beirniaid gyda’i pherfformiad ar lwyfan y Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol fis Gorffennaf, fe deithiodd Mared dros 10,000 o filltiroedd i Awstralia ar gyfer y perfformiad unwaith mewn oes.

(rhagor…)

Myfyrwyr artistig lleol yn gweddnewid un o adeiladau’r Eisteddfod

Mae disgyblion ysgol lleol wedi gweddnewid un o brif adeiladau ar safle’r Eisteddfod Ryngwladol ar gyfer dathliadau 70ain yr ŵyl.

Cafodd disgyblion o Ysgol Dinas Brân eu gwahodd gan swyddogion Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i greu darn o gelf i gynrychioli neges yr ŵyl o heddwch, ewyllys da a chyfeillgarwch rhyngwladol. Fe greodd y disgyblion furlun lliwgar sy’n cael ei arddangos yn adeilad croeso’r Eisteddfod.

Dadorchuddiwyd y murlun yn swyddogol ar ddydd Mawrth 4ydd Gorffennaf mewn digwyddiad gyda Llywydd yr Eisteddfod Ryngwladol, Terry Waite CBE a 12 o’r 100 o blant fu wrthi’n creu’r gwaith.

(rhagor…)

Pawb ar eu traed ar gyfer perfformwyr ‘Byd Enwog’ Tosca

Gwelwyd y dorf yn Eisteddfod Llangollen yn cael ei chymell i godi ar ei thraed mewn ymateb i berfformiad syfrdanol o Tosca gan Puccini nos Fawrth 4ydd o Orffennaf.

Bu i’r sêr opera byd enwog, Syr Bryn Terfel, Kristine Opolais a Kristian Benedikt rannu’r llwyfan am y tro cyntaf erioed i gyflwyno datganiad pwerus ac unigryw o’r stori garu ddramatig.

Roedd y perfformiad yn yr Eisteddfod Ryngwladol, a noddwyd gan Pendine Park, yn cynnwys tri o dalentau mwyaf blaenllaw y byd, i gyfeiliant Cerddorfa mawr ei chlod Opera Cenedlaethol Cymru, ac roedd yn ddiwedd llwyddiannus i ail ddiwrnod yr ŵyl 70 mlwydd oed.

(rhagor…)

Cymru’n Croesawu’r Byd mewn Dathliad Rhyngwladol

Fe roddwyd croeso cynnes Cymreig i gystadleuwyr rhyngwladol neithiwr (nos Iau 6ed Gorffennaf) yn ystod Dathliad Rhyngwladol Eisteddfod Llangollen yn 70ain.

Fe gafodd gorymdaith liwgar o gynrychiolwyr o 29 gwlad wahanol eu diddanu gan berfformiad pwerus o un o hoff emynau’r Cymry, Calon Lân, gafodd ei chanu gan Only Boys Aloud.

Ar ôl yr orymdaith, perfformwyd y Neges Heddwch blynyddol gan Ysgol Gwernant a cafwyd datganiad o waith newydd Anthem Heddwch gan Only Boys Aloud Gogledd. Enw’r gwaith oedd Gobaith yn Ein Cân ac fe’i cyfansoddwyd gan Nia Wyn Jones, gyda’r geiriau’n cael eu sgwennu gan ei phartner, Iwan Hughes, yn arbennig ar gyfer Only Boys Aloud Gogledd.

(rhagor…)

Neges Heddwch Ysgol Y Gwernant – Lluniau

Disgyblion o Ysgol Y Gwernant, Llangollen yn ymarfer cyn eu perfformiad o’r Neges Heddwch. Fe fydd y disgyblion lleol yn perfformio’r Neges Heddwch – uchafbwynt blynyddol yn yr ŵyl – ar lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol ar ddydd Iau 6ed Gorffennaf, fel rhan o’r Dathliad Rhyngwladol. Fe fydd perfformiad hefyd yn cael ei gynnal yfory (4ydd Gorffennaf) yn ystod Diwrnod y Plant. Eleni mae’r neges – sydd wedi ei chyd-lynu gan gyn-weithiwr yr Eisteddfod Christine Dukes – yn adlewyrchu hanes yr Eisteddfod a’n benodol ei pherthynas gyda’r tywydd.