Bydd miloedd o berfformwyr o 28 gwlad a chwe chyfandir yn llenwi Dyffryn Dyfrdwy gyda dawns a chan yr haf hwn, wrth iddyn nhw ddiddanu yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ym mis Gorffennaf.
Yn dilyn proses ddethol gynnil, lle’r oedd cannoedd o ymgeiswyr dan ystyriaeth, mae tîm yr Eisteddfod Ryngwladol wedi llunio rhaglen o 84 grŵp rhyngwladol, egnïol ac amrywiol – gan estyn gwahoddiad iddyn nhw berfformio mewn cystadlaethau neu ddigwyddiadau yn yr ŵyl eleni.
Gyda thocynnau ar gyfer gŵyl 2018 (3ydd – 8fed Gorffennaf) yn gwerthu’n gyflym, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi datgelu 16 o grwpiau cyffrous fydd yn perfformio ar lwyfan eiconig y Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol yr haf yma.