Gall gwir gyfeillgarwch deithio’r byd

Eisteddfod Ryngwladol yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Cyfeillgarwch

Eleni ar Ddiwrnod Rhyngwladol Cyfeillgarwch, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn anrhydeddu perthnasau sydd wedi eu creu dros 70 mlynedd ers sefydlu’r ŵyl – gan bwysleisio pwysigrwydd cyfeillgarwch yr 800 o wirfoddolwyr sy’n cefnogi’r wythnos o weithgareddau. Bob blwyddyn, mae tref wledig Llangollen yn byrlymu gyda cherddoriaeth, chwedloniaeth a dawns, gan groesawu hyd at 50,000 o ymwelwyr a 4,000 o berfformwyr o bedwar ban byd.

Bwriad Diwrnod Rhyngwladol Cyfeillgarwch (30ain Gorffennaf), a sefydlwyd gan y Cenhedloedd Unedig, yw annog mwy o bobl i greu a dathlu cyfeillgarwch. Yn y pen draw, y gobaith yw lleihau’r siawns o anghyfiawnder, rhyfel, tlodi a llawer mwy.

Wrth drafod y digwyddiad, dywedodd Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Dr Rhys Davies: “Dim ond chwe aelod o staff sydd gennym ni. Oni bai am Ffrindiau’r ŵyl, sy’n gwirfoddoli bob blwyddyn, ni fyddai’n bosib i ni weithredu! Mae ein gŵyl yn ffynnu yn sgil cwmnïaeth a chyfeillgarwch; rhwng y gwirfoddolwyr, cystadleuwyr ac aelodau’r gynulleidfa hefyd. Trwy greu y cysylltiadau hyn, rydym yn cyfrannu at fwriad y Cenhedloedd Unedig i ddatblygu rhwymau cryf er mwyn cyrraedd y nod o heddwch a sefydlogrwydd hir dymor.

“Wrth i’n gŵyl barhau i dyfu, mae’r wych cael croesawu wynebau cyfarwydd â newydd. Ond un peth sy’n gyson bob blwyddyn yw awyrgylch hwyliog yr Eisteddfod – sy’n deillio o’r rhwydwaith o wirfoddolwyr a’r egni a’r ymrwymiad maen nhw’n ei gyfrannu.

“Eleni ar Ddiwrnod Rhyngwladol Cyfeillgarwch rydym yn estyn diolch i bawb sy’n rhoi eu hamser i deithio o bell ac agos, wrth i ni ddathlu undod y cenhedloedd”.

Ychwanegodd Ann Ankers, Cydlynydd Clwb Cystadleuwyr Eisteddfod Llangollen: “O weithio fel tywysydd yn Eisteddfod 1956 i stiwardio yn y 1960au, fe gwrddais â merch o’r enw Carol oedd wedi teithio o Glasgow i ganu yn yr ŵyl. Fe ddychwelodd hi’r flwyddyn ganlynol ar gyfer ei wythfed hymweliad, gan ddod a ffrind hefo hi.

“Erbyn hyn, yn fy swydd gyda’r Clwb Cystadleuwyr, gwelais Carol eto dair blynedd yn ôl. Roedd hi’n dychwelyd i gefnogi’r ŵyl unwaith eto! Daeth Carol yn ôl i gyflawni ei uchelgais o ganu corawl. Ac ar ôl disgyn mewn cariad gyda’r teimlad o heddwch, harmoni ac undod yn Eisteddfod Llangollen, mae hi wedi cael ei hysbrydoli i ymuno â Cherddorfa Frenhinol Yr Alban, fydd yn perfformio yn The Proms eleni. Rydw i’n falch iawn o’i chyrhaeddiad anhygoel.

“Mae hyn yn brawf o sut mae diwylliant unigryw’r Eisteddfod yn medru dod ag ymdeimlad o berthyn i bobl ar draws y byd. Mae’r profiad yn un cyfoethog, sy’n llawn caredigrwydd a chyfeillgarwch, ynghyd ag atgofion cofiadwy o sut all rywun gyrraedd fel dieithryn a gadael wedi gwneud perthnasau hir oes”.

Yn wir, mae’r gwirfoddolwyr yn dod o bedwar ban byd. Fe wnaeth y teulu Kong deithio 6,000 milltir o Hong Kong i wirfoddoli gyda’r Clwb Cystadleuwyr, gan helpu i drefnu a chefnogi’r perfformwyr. Eleni, fe ddaeth eu mab Daniel gyda nhw am y tro cyntaf, i brofi naws hudolus yr ŵyl ryngwladol. Yn ogystal â chreu cysylltiadau eu hunain, roedd eu caredigrwydd a’u haelioni yn gymorth mawr i’r cystadleuwyr nerfus.

Mae’r ddwy chwaer Lynette Haber a Jane Rysanski o Connecticut, UDA wedi ymweld â Gogledd Cymru sawl tro, oed erioed wedi llwyddo i gyrraedd Eisteddfod Llangollen. Fe benderfynon nhw, o’r diwedd, wneud y daith eleni, i wirfoddoli fel rhan o’r Pwyllgor Blodau sy’n gyfrifol am greu arddangosfeydd blodau trawiadol ar lwyfannau’r wyl. Roedd y ddwy wedi disgyn mewn cariad â thref brydferth  Llangollen ugain mlynedd yn ôl, ac wedi addo i ddychwelyd ar gyfer yr ŵyl. Gan ymgorffori ysbryd croesawgar yr Eisteddfod, mae’r ddwy chwaer erbyn hyn yn edrych ymlaen at ddychwelyd.

Teulu o Hong Kong, China, a dwy chwaer o Connecticut, UDA, a deithiodd dros 9,000 o filltiroedd i wirfoddoli yn Eisteddfod Llangollen 2018.

[Selina, Daniel a Bill Kong o Hong Kong, China, yn gwirfoddoli gyda’r Clwb Cystadleuwyr yn Eisteddfod Llangollen 2018]

[Lynette Haber a Jane Rysanski, chwiorydd o Conneticut, UDA, yn gwirfoddoli fel rhan o’r Pwyllgor Blodau yn Eisteddfod Llangollen 2018]

Adnabyddir Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen fel un o brif wyliau heddwch y byd ac mae wedi cael ei enwebu am sawl gwobr, gan gynnwys Gwobr Heddwch Nobel.

Roedd dathliadau eleni yn cynnwys perfformiadau gan dalent ryngwladol ac artistiaid recordio amlwg gan gynnwys Van Morrison ag Alfie Boe. Yn ogystal, roedd parti diweddglo’r ŵyl, Llanfest, yn cynnwys enwogion fel Kaiser Chiefs, Hoosiers a Toploader, wnaeth godi tô y Pafiliwn Rhyngwladol.

Mae gan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl o bob oedran a gallu. O waith swyddfa i waith ddyletswyddau blodau ac archifo, mae llu o gyfrifoldebau ar gael trwy gydol y flwyddyn yn ogystal â thros wythnos yr Eisteddfod.