RHEOLAU A RHEOLIADAU

Cliciwch i wneud llun mwy

1. Rhaid i bob cystadleuydd (Corau, Dawnswyr, Grwpiau, ac Unawdwyr) wneud cais i gystadlu ar Ffurflenni Cais swyddogol yr Eisteddfod. Rhaid defnyddio ffurflenni ar wahân ar gyfer pob cystadleuaeth. Rhaid i Gorau a Grwpiau ddefnyddio'r Ffurflen Gais ar gyfer Grwpiau; Rhaid i Unawdwyr Ddefnyddio’r Ffurflen Gais ar gyfer Unawdwyr.

2. Rhaid anfon y Ffurflenni Cais ar gyfer Grwpiau (ar gyfer Corau a Grwpiau) i gyrraedd Swyddfa’r Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol, y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol, Ffordd yr Abaty, Llangollen, LL20 8SW, Gogledd Cymru, y DU, erbyn 1 TACHWEDD 2012, neu i gyrraedd Cynrychiolydd y Cyngor Prydeinig tramor mewn unrhyw wlad erbyn 30 MEDI 2012

3. Rhaid anfon y Ffurflen Gais ar gyfer Unawdwyr (ar gyfer Cystadlaethau Unawd) i gyrraedd Swyddfa'r Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol, y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol, Ffordd yr Abaty, Llangollen, LL20 8SW, Gogledd Cymru, y DU erbyn 28 CHWEFROR 2013, neu i gyrraedd Cynrychiolydd y Cyngor Prydeinig tramor mewn unrhyw wlad erbyn 1 CHWEFROR 2013.

4. Dylid cyflwyno pob Ffurflen Gais cyn gynted â phosibl, ond dylai cystadleuwyr aros i gael hysbysiad o gael eu derbyn cyn gwneud trefniadau personol a/ neu deithio terfynol. Bydd Swyddfa’r Eisteddfod rhoi gwybod i'r holl grwpiau erbyn diwedd mis Tachwedd 2012 ynglŷn ag a yw eu cais ar gyfer y gystadleuaeth wedi bod yn llwyddiannus. Bydd ymgeiswyr ar gyfer cystadlaethau unawdwyr yn cael eu hysbysu yn yr un modd cyn diwedd mis Mawrth 2013, a chystadlaethau dawns ar ddechrau Ebrill 2013.

5. Dylai Corau a Grwpiau roi manylion llawn o’r holl eitemau o’u “dewis eu hunain” ar gefn y ffurflen gais a ddarperir. Pe baent yn cael eu dewis, bydd grwpiau yn cael ffurflen repertoire swyddogol yr Eisteddfod y mae'n rhaid ei dychwelyd, ynghyd â thair sgôr cerddoriaeth o bob darn i'w berfformio, erbyn 5 Ebrill 2013.

Ar ôl 5 Ebrill 2013 nid yw’n bosibl newid eich rhaglen. Os na fyddwn yn cael eich cerddoriaeth cyn y dyddiad hwn,  bydd y beirniaid yn cael gwybod ac efallai bydd pwynt cosb yn cael ei roi ar eich sgoriau a allai ddod â goblygiadau mawr.

6. Rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno recordiad diweddar o’r 6 mis diwethaf i gefnogi eu cais. Rhaid i hwn fod ar CD, DVD, neu mewn fformat MP3. Gweler gofynion y gystadleuaeth am gyfarwyddiadau llawn. Nodwch ni dderbynnir hypergysylltiadau You Tube neu bethau tebyg.

 7. Gall cystadleuwyr ddisgwyl cosb pe baent yn torri’r terfynau amser yn eu perfformiad. Unwaith byddant wedi eu dethol, bydd cystadleuwyr yn cael union fanylion y cosbau hyn.

Amser Drosodd

 

Pwynt Cosb

 

Hyd at 30 eiliad

 

Dim

 

30 eiliad – 1 munud

 

1 Marc

 

1 munud – 1.5 munud

 

2 Marc

 

2.0munud-2.5 munud

4 Marc

2.5 munud – 3 munud

 

6 Marc

 

3 munud – 4 munud

 

8 Marc

 

Dros 4 munud

 

10 Marc

 

 

8. Yn gyffredinol disgwylir i Gorau a Grwpiau ddod â’u cyfeilyddion eu hunain, ond os oes angen cyfeilydd swyddogol yr Eisteddfod, rhowch wybod i'r Swyddfa Gerdd cyn gynted a phosibl. Rhaid gwneud hyn cyn 1 Mai 2013. Codir ffi o £25 y gystadleuaeth am ddefnyddio cyfeilydd swyddogol yr Eisteddfod. Gall cystadleuwyr unawdau ddod â'u cyfeilyddion eu hunain, er bod cyfeilyddion swyddogol ar gael ar gyfer cystadlaethau unawdwyr 4, 5, 6, 7, 8, 13 a 15, fodd bynnag bydd ffi o £25 fesul cystadleuaeth. Rhaid i gystadleuwyr ar gyfer Unawdau sy'n dod â'u cyfeilyddion eu hunain anfon un copi o bob eitem o’u cerddoriaeth o’u 'dewis eu hunain' i'r Cydlynydd Cerdd erbyn 30 Ebrill 2013. Os oes angen cyfeilydd swyddogol, rhaid i gystadleuwyr unawdau anfon dau gopi o bob eitem o gerddoriaeth o’u 'dewis eu hunain' erbyn 30 Ebrill 2013.

9. Bydd Profion Rhagarweiniol neu gystadlaethau 'Cynderfynol' yn cael eu cynnal yn y rhan fwyaf o gystadlaethau Unawd ac mewn unrhyw gystadleuaeth arall y credir bod eu hangen; bydd manylion am unrhyw Brofion Rhagarweiniol cystadlaethau grŵp ar gael yn syth ar ôl i’r grwpiau gael eu derbyn. Mae'r rhain fel arfer yn digwydd ar fore rownd Derfynol y Gystadleuaeth honno, neu ar y diwrnod blaenorol. Rhaid i gystadleuwyr a ddewisir i gael llwyfan yn rownd Derfynol Cystadleuaeth berfformio’r un eitemau a wnaethpwyd yn y Prawf Rhagarweiniol neu Gyn-derfynol.

10. Ni chaniateir i gystadleuwyr gystadlu ddwywaith yn yr un Gystadleuaeth (fel enghraifft; gall unawdwyr ond gystadlu gydag un offeryn mewn unrhyw un gystadleuaeth unawd offerynnol).

11. Caiff yr holl offerynnau swyddogol eu tiwnio i Gywair Normal Diapason (A-440 neu C-522)

12. Rhoddir y caniatâd sy'n ofynnol gan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988, fel y'i diwygiwyd, drwy hyn i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen Cyf ac fe’i neilltuir i wneud recordiadau a/ neu ddarllediadau sain a/ neu weledol o’r holl berfformiadau a roddir ar unrhyw adeg yn ystod yr Eisteddfod at unrhyw ddiben. Hefyd, rhoddir yr holl hawliau eiddo sy'n bodoli yn unrhyw berfformiad o'r fath, ar ddod i fodolaeth, yn cael eu neilltuo trwy hyn yn ei gyfanrwydd i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen Cyf ac mae pob cystadleuydd trwy hyn yn ildio unrhyw hawl moesol sydd ganddynt nawr neu yn y dyfodol yn unol ag Adrannau 77-84 o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988. Wrth wneud cais i gystadlu yn yr Eisteddfod, mae pob cystadleuydd yn tystio na fydd unrhyw aseiniad neu gytundeb i aseinio, mewn perthynas â’r hawliau hyn, wedi’i wneud neu’n bwriadu cael ei wneud gan y cystadleuwr neu gynrychiolwr ar eu rhan.

13. Rhaid i’r holl gystadleuwyr, ac eithrio arweinwyr côr, arweinwyr grwpiau dawns a chyfeilyddion, fod o statws amatur, h.y. pobl nad ydynt yn ennill eu prif fywoliaeth o gerddoriaeth neu berfformio dawns fel y bo'n briodol. Ni chaiff neb gystadlu fel aelod o fwy nag un côr neu grŵp yn yr un gystadleuaeth.

15. At ddiben penderfynu cenedligrwydd ar gyfer preswylwyr y DU, caiff Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban, a Chymru eu hystyried fel pedair gwlad ar wahân.

16. Mae penderfyniad Tîm Rheoli’r Eisteddfod Ryngwladol, neu'r Beirniaid sy'n gweithredu ar ei ran mewn unrhyw fater sy'n ymwneud â’r gystadleuaeth, yn derfynol ac yn rhwymedig i bawb, ac mae hyn yn amod a gytunwyd arno wrth ymgeisio ym mhob Cystadlaethau. Rhaid i unrhyw wrthwynebiad gael ei gyflwyno’n ysgrifenedig i’r Rheolwr Digwyddiadau cyn diwedd y Cystadleuaeth y mae'n berthnasol iddo.

17. Dylai pob cystadleuydd nodi'r wybodaeth am Lety a Thrafnidiaeth, sydd ar gael mewn rhannau eraill o'r maes llafur. Mewn amgylchiadau daearyddol/ pellter teithio eithriadol, efallai bydd rhai grwpiau ac unawdwyr o’r DU yn gofyn am gael eu hystyried fel 'Tramorwyr' at ddibenion lletya; mae penderfyniad yr Eisteddfod ym mhob achos yn derfynol.

Mae’r Rheolau ac Amodau ar gael mewn ieithoedd eraill ar gais.