Lletygarwch Corfforaethol


Lletygarwch Corfforaethol yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
Byddwch yn barod i brofi lletygarwch corfforaethol anghyffredin

Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad bythgofiadwy hwn a fydd yn creu argraff ddofn ar eich gwahoddedigion pwysig.

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi creu tri phecyn corfforaethol arloesol a chofiadwy, wedi eu cynllunio i gyffroi’r cwsmeriaid mwyaf deallus.

Mae pob un yn unigryw a chanddo thema a fydd yn cyd-fynd â’r perfformiad mawreddog o safon ryngwladol ar lwyfan y Pafiliwn Brenhinol, ac mae mynediad yn gynwysedig ym mhris eich tocyn.

Pob pecyn yn cynnwys:
•    Mannau parcio wedi eu cadw ac ardaloedd lle ceir bar, ystafelloedd bwyta a gorffwys dethol
•    Diod ar ôl cyrraedd, person i’ch croesawu ac i’ch tywys i’ch sedd yn y cyngerdd
•    Adloniant ychwanegol yn y swît lletygarwch
•    Bathodyn mynediad a rhaglen swfenîr

Mae lleoedd yn gyfyngedig ac rydym yn disgwyl llawer o ddiddordeb. Ffoniwch 01978 862001.

Dewiswch un neu fwy o’r pecynnau min nos anhygoel hyn:


Dydd Iau 11 Gorffennaf Strictly Ciwba!

Cerddoriaeth a dawnsio Lladin tanbaid

Yn cynnwys y dawnswyr proffesiynol byd-enwog, James ac Ola Jordan o Strictly Come Dancing, a’r chwedlonol Orquesta Buena Vista Social Club® o Giwba.

  • Bwydlen bwffe – bowlenni o flasusfwyd Lladinaidd a baratowyd gan Max Gnoyke, y cogydd Seren Michelin
  • Tocynnau £85 y person

Lawrlwythwch y rhaglen lawn yma


Dydd Gwener 12 Gorffennaf Verdi 200

Profwch Requiem gydag ensemble drawiadol o berfformwyr rhyngwladol

Yn perfformio bydd Claire Rutter, y soprano o Loegr; Mirouslava Yordanova, y mezzo-soprano o Fwlgaria; Gwyn Hughes Jones – y seren opera o Gymru a Jonathan Lemalu, baswr o Seland Newydd. Andrew Greenwood fydd yn arwain Cerddorfa Ryngwladol Llangollen a’r Mass International Choir

  • Bwydlen Eidalaidd dri chwrs a gynlluniwyd gan Max Gnoyke, cogydd Seren Michelin
  • Siampên a canapés i’ch croesawu
  • Tocynnau £120 y person

Lawrlwythwch y rhaglen lawn yma


Dydd Sul 14 Gorffennaf Jools Holland a’i Gerddorfa Rhythm & Blues

Hefyd yn perfformio bydd Gilson Lavis , cyn ddrymiwr Squeeze a’r cantorion gwadd Ruby Turner a Louise Marshall. Enwau rhagor o wahoddedigion arbennig i’w cyhoeddi!

  • Bwydlen bwffe a gynlluniwyd gan Max Gnoyke, cogydd Seren Michelin
  • Tocynnau £85 y person

Lawrlwythwch y rhaglen lawn yma


Uwchraddio Tocynnau VIP

Cynnig Uwchraddio Tocynnau VIP Cyfyngedig Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Sicrhewch fod eich Eisteddfod yn un fythgofiadwy – ymunwch â ni fel VIP

Mwynhewch wledd o noson – digon o fwyd blasus, cwmni bendigedig, a pherfformiadau o safon ryngwladol.

Am dair noson yn unig mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi llunio pecyn VIP arbennig i gyffroi ac i ddiddanu’r cwsmeriaid mwyaf deallus.

Fel un o gefnogwyr gwerthfawr yr ŵyl, rydym yn rhoi gwahoddiad i chi uwchraddio eich tocyn cyfredol yn docyn VIP.  Dyma’r hyn sydd gan eich tocyn VIP i’w gynnig:

Gweld rhagor