Amdanom ni

 

Bob blwyddyn ers 1947 mae Llangollen wedi cynnal un o wyliau diwylliannol mwyaf ysbrydoledig y byd.   Bob haf bydd tua 4,000 o berfformwyr yn tyrru i’r dref fechan hon ac i’w Phafiliwn Rhyngwladol i ganu a dawnsio mewn cyfuniad unigryw o gystadlu, perfformio a heddwch a chyfeillgarwch rhyngwladol.

Penllanw’r cystadlu yw cystadleuaeth fawreddog ‘Côr y Byd’, yr enillydd yw côr gorau’r ŵyl.   Yn 2005, ychwanegodd Luciano Pavarotti ei enw at y gystadleuaeth i gydnabod ei werthfawrogiad o’r ŵyl a’i dylanwad ar ei yrfa.