Tenoriaid yn llenwi dyffryn â chân

Cantorion yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn gosod ‘record byd’ answyddogol

Mae wythdeg naw tenor wedi creu record byd newydd wedi iddyn nhw lenwi Dyffryn Dyfrdwy gyda seiniau’r gan eiconig Nessum Dorma, a wnaed yn enwog gan y seren opera Pavarotti yng Nghwpan y Byd yr Eidal 1990.

Cafodd y perfformiad annisgwyl ei gynnal ar ôl cyhoeddi enillydd cystadleuaeth Côr Meibion yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen brynhawn ddoe [dydd Sadwrn 8fed Gorffennaf], wrth i’r perfformwyr ymlwybro o’r pafiliwn i’r bar.

Roedd y gân yn deyrnged i’r diweddar Pavarotti, am iddo roi clod i ŵyl flynyddol Llangollen, sy’n nodi 70 mlynedd ers sefydlu eleni, am helpu i lansio ei yrfa.

Yn gyfuniad o’r tenoriaid fu’n rhan o’r cystadlu corawl ar ddiwrnod olaf yr Eisteddfod ac aelodau brwdfrydig o’r cyhoedd, cafodd yr ensemble ei harwain gan John Eifion – arweinydd Côr y Brythoniaid.

Daeth Pavarotti i berfformio yn Eisteddfod Llangollen am y tro cyntaf yn 1955 gyda’i dad Fernando. Roedd yn aelod o gôr a deithiodd o Modena yn yr Eidal i gystadlu yn y categori Côr Meibion, gan fynd ymlaen i ennill teitl mawreddog Côr y Byd.

Fe ddychwelodd i’r ŵyl yn 1995 i berfformio unwaith eto ar lwyfan y Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol, gan roi ei enw i’r darian a enillodd unwaith gyda Chôr Modena yn 1955 – Tarian Pavarotti.

Wrth siarad â’r wasg nôl yn 1995, dywedodd: “Pan mae newyddiadurwr yn fy holi am ddiwrnod mwyaf cofiadwy fy mywyd, dwi’n cofio nôl i’r diwrnod hwnnw yn Llangollen ar ôl ennill y gystadleuaeth hon, gan fod fy ffrindiau o fy nghwmpas”.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd yr ŵyl, Eilir Owen Griffiths: “Mae’r Eisteddfod Ryngwladol yn ŵyl o gerddoriaeth a pherfformiadau ac mae ganddi gysylltiadau cryf gyda Pavarotti. Roedd y perfformiad annisgwyl hwn, felly, yn ddathliad perffaith wrth i ni nodi 70 mlynedd ers sefydlu’r Eisteddfod.

“Yn ôl ein ffigyrau ni, roedd 89 tenor yn rhan o’r perfformiad ac rydym yn credu mai dyma’r casgliad mwyaf o denoriaid i ganu Nessum Dorma fel grŵp erioed.

“Roedd nifer o leisiau tenor cryf yn y pafiliwn ar y pryd, gan fod cystadleuaeth Côr y Byd yn cael ei chynnal ac fe wnaethon nhw gymryd y cyfle i dalu teyrnged, nid yn unig i’r ŵyl, ond i’r diweddar Pavarotti – wrth i ni agosáu at nodi 10 mlynedd ers ei farwolaeth”.

Mae tref Llangollen wedi croesawu’r ŵyl ddiwylliannol yn flynyddol ers 1947, pan lansiwyd yr Eisteddfod i geisio lleddfu effeithiau’r Ail Ryfel Byd ac uno pobl trwy gerddoriaeth.

Ar y dechrau, roedd pryderon na fyddai unrhyw un yn dod i’r ŵyl ond erbyn heddiw mae tua 4,000 o berfformwyr a 50,000 o ymwelwyr o bedwar ban byd yn heidio i Langollen a’r Pafiliwn Rhyngwladol. Mewn cyfuniad unigryw o gystadlu, perfformio, heddwch a chyfeillgarwch rhyngwladol, mae’r ymwelwyr yn dod i ganu a dawnsio yn un o wyliau mwyaf amlddiwylliannol y byd.

Eleni, roedd y prif berfformwyr yn cynnwys Gregory Porter, The Overtones, Only Boys Aloud, Syr Bryn Terfel, Kristine Opolais a Kristian Benedikt yn Tosca, gyda’r Manic Street Preachers, Reverend and The Makers a’r DJ BBC Radio 1 Huw Stephens yn perfformio ‘fory [dydd Sul 9fed Gorffennaf].

Am docynnau a mwy o wybodaeth am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, cliciwch yma.