Archifo’r Gorffennol

Roeddem yn edrych ymlaen at eich cyfarfod chi i gyd yn Eisteddfod eleni a rhannu ein gweledigaeth ar gyfer y prosiect Archifo’r Gorffennol. Gan nad yw hynny’n bosibl yn anffodus, rydym wedi ysgrifennu nifer o flogiau er mwyn creu Pabell Archif rithwir eleni i sôn mwy wrthych am y prosiect.


Y llynedd derbyniodd yr Eisteddfod gyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer ei phrosiect Archifo’r Gorffennol. Dechreuodd y gwaith ar y prosiect ym mis Tachwedd ac mae’n cael ei wneud gan aelodau o Bwyllgor Archifau’r Eisteddfod ac archifydd y prosiect, Liz Parfitt, a ariennir gan grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Roedd y gwaith yn dod yn ei flaen yn dda cyn i’r cyfnod clo darfu ar bethau. Ar hyn o bryd, rydym yn ceisio cadw pethau i fynd yn y cefndir ac edrychwn ymlaen at ailddechrau arni go iawn cyn gynted ag y bydd y cyfyngiadau presennol yn cael eu codi.

Bwyllgor Archifau’r Eisteddfod ac archifydd y prosiect, Liz Parfitt


Mae gan yr Eisteddfod Ryngwladol hanes hir ac unigryw y mae angen ei gadw a’i rannu â phawb sydd â diddordeb ynddo. Dyna yw union ddiben prosiect Archifo’r Gorffennol – cadw a rhannu gorffennol yr Eisteddfod ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol gyda’i neges o heddwch a gobaith.

Mae gan yr Eisteddfod eisoes gasgliad helaeth o ddeunydd yn ymwneud â’i hanes gan gynnwys casgliad cyflawn o raglenni, llawer o ffotograffau a chasgliadau clywedol/gweledol, ynghyd â deunydd ysgrifenedig yn ymwneud â rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd, fel cofnodion pwyllgor er enghraifft. Mae llawer iawn o’r deunydd hwn yn cael ei ddal ar ran yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol gan Archifau Sir Ddinbych yn Rhuthun (sydd bellach yn rhan o Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru) a gellir ei weld yno. (Gellir adnabod y deunydd hwn trwy ddefnyddio catalog ar-lein Archifau Sir Ddinbych a theipio “DD/LE” yn y blwch chwilio yn <https://www.newa.wales/>.)

Yn ychwanegol at y casgliad sydd eisoes yn cael ei gadw yn Rhuthun, mae gan yr Eisteddfod swm sylweddol o ddeunydd y mae’r Pwyllgor Archifau yn gofalu amdano ar hyn o bryd yn y Pafiliwn. Mae blynyddoedd lawer o waith ymroddedig yn golygu bod y deunydd hwn wedi’i drefnu’n dda ond ar hyn o bryd mae’r mynediad ato yn gyfyngedig. Un o amcanion y prosiect yw catalogio’r deunydd hwn a’i drosglwyddo i Ruthun fel y gall pawb a allai fod â diddordeb gael mynediad ato. Roedd gwirfoddolwyr yr archif wedi rhoi cychwyn gwych ar y broses hon cyn i’r cyfnod clo daro! Un mater o bwys, sydd wedi cael sylw manwl gan y prosiect, yw cadw a diogelu’r deunydd clywedol/gweledol – recordiadau sain, ffilmiau a fideos o berfformiadau yn yr Eisteddfod. Mae’r rhain yn arbennig o bwysig wrth ddal hanfod yr Eisteddfod ond, yn anffodus, ni ellir mwynhau llawer o’r recordiadau hyn ar hyn o bryd, ond mwy o achos pryder yw bod perygl iddynt gael eu colli am byth oherwydd bod y cyfryngau y cawsant eu recordio arnynt yn dirywio. Un agwedd o’r prosiect sy’n datblygu felly, yw creu rhestr fanwl o’r deunydd clywedol/gweledol sy’n cael ei ddal ac ym mha fformatau, diben hynny yw rhoi’r sylfaen i ni baratoi cais am gyllid grant er mwyn i’r deunydd hwn gael ei gadw a’i ddigideiddio.

Agwedd allweddol arall ar y prosiect yw cysylltu â’r gymuned. Mae llyfr, ffilm ac arddangosfa deithiol newydd am hanes yr Eisteddfod i gyd wedi’u cynllunio ochr yn ochr â phrosiectau ar thema’r Eisteddfod gydag ysgolion lleol yn Llangollen. Bwriedir creu gwefan bwrpasol newydd a fydd gobeithio, yn gweithredu fel pwynt canolog lle gall pobl ddod i wybod am y casgliad archifau, cael mynediad at rywfaint o ddeunydd yn ddigidol a, hefyd, rhannu eu hatgofion a’u hangerdd eu hunain am yr Eisteddfod.
Os hoffech wybod mwy am y prosiect Archifo’r Gorffennol, os hoffech wirfoddoli gyda ni neu gael deunydd yr hoffech ei gyfrannu i ni, cysylltwch trwy ein cyfeiriad e-bost: archive@llangollen.net

Liz

Liz Parfitt
Archifydd y Prosiect