Archifau Categori: Cerdd

Côr o Ynys Môn yn ennill cystadleuaeth y plant yn yr Eisteddfod Ryngwladol

Daw pencampwyr Côr Ieuenctid Eisteddfod Ryngwladol Llangollen o Ynys Môn.

Enillodd Côr Ieuenctid Môn y wobr gyntaf yn dilyn cystadleuaeth galed rhwng wyth côr o Gymru a Lloegr.

Wrth wylo gyda llawenydd fe gasglodd cyfarwyddwr cerddorol ac arweinydd y côr, Mari Lloyd Pritchard, y tlws rhyngwladol a siec am £500 gan Enid Evans, 94 oed, o Fryste, a roddodd y tlws a’r wobr ariannol er cof am ei brawd, H Wyn Davies MBE a’i wraig Muriel. (rhagor…)

Gŵyl yn taro’r nodyn iawn ar gyfer llwyddiant ariannol

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi bod yn llwyddiant mawr iawn eleni ac yn ymddangos ei bod am dalu ei ffordd yn ariannol.

Llwyddodd tri o’r cyngherddau gyda’r nos i werthu bron bob un tocyn ar eu cyfer, sydd wedi rhoi hwb sylweddol i bethau dros y flwyddyn ddiwethaf, a daeth mwy o ymwelwyr nag yn 2015, gan ychwanegu at y rhagolygon ariannol iach.

Mae Dr Rhys Davies newydd gwblhau ei flwyddyn lwyddiannus gyntaf fel Cadeirydd yr Eisteddfod. Dyma ddywedodd ef: “Yn wahanol i’r blynyddoedd diwethaf, lle nad oedd pethau’n edrych yn rhy dda yn ariannol, rydym yn gwybod ein bod ni ar y llwybr iawn i dalu ein ffordd y tro yma. (rhagor…)

Y seren opera Bryn Terfel yn ymuno â’r plant mewn gweithdy cerdd Eisteddfod

Mae’r seren opera byd-enwog Bryn Terfel wedi bod yn canu mewn cytgord â phobl ifanc drwy gael hwyl gyda cherddoriaeth yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Gan gymryd seibiant o’r ymarferion ar gyfer Cyngerdd Gala Clasurol yr Eisteddfod, talodd Bryn ymweliad sydyn â’r babell lle’r oedd sefydliad gofal nodedig Parc Pendine yn cynnal bore o weithdai cerddorol fel rhan o weithgareddau Diwrnod y Plant yr ŵyl.

(rhagor…)

Miloedd yn ymddangos i gefnogi gorymdaith fwyaf a gorau’r Eisteddfod ers blynyddoedd

Heidiodd miloedd i strydoedd heulog tref dwristaidd enwog yn Sir Ddinbych i gefnogi gorymdaith fwyaf Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ers blynyddoedd.

Cafodd yr orymdaith ei chynnal ar ddydd Gwener yr ŵyl am y tro cyntaf er mwyn rhoi cyfle i fwy o gystadleuwyr sy’n cyrraedd o bob cwr o’r byd i ymuno â’r orymdaith liwgar a welodd gynrychiolwyr o bedwar ban byd yn gorymdeithio trwy ganol Llangollen i gyfeiliant bloeddio a chymeradwyaeth mawr gan y nifer uchaf erioed o wylwyr. (rhagor…)

Mae Llangollen yn ddigwyddiad diwylliannol eiconig sy’n haeddu cefnogaeth yn ôl Gweinidog

Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ddigwyddiad diwylliannol eiconig yng Nghymru, sy’n haeddu cefnogaeth gan y Llywodraeth a’r sector preifat, yn ôl cyn-wleidydd a Gweinidog yn y Swyddfa Gymreig.

Dywedodd yr Arglwydd Bourne, Nick Bourne, Arweinydd blaenorol y Ceidwadwyr yng Nghynulliad Cymru ac Is-weinidog presennol yn y Swyddfa Gymreig: “Mae’r Eisteddfod yn hollbwysig i Gymru. Mae’n un o’r eiconau diwylliannol sydd gennym, ochr yn ochr â’r Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol. (rhagor…)

Mae Cymru’n dal i feddwl yn rhyngwladol er gwaethaf Brexit, meddai Ysgrifennydd yr Economi yn yr Eisteddfod

Er bod Prydain wedi pleidleisio i adael Ewrop, mae Cymru’n parhau i fod yn wlad groesawus a chydwladol.

Dyna’r neges oddi wrth Ken Skates AC, sydd wedi ei benodi’n ddiweddar gan Lywodraeth Cymru fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. Roedd ar ymweliad ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ddoe (dydd Iau). (rhagor…)

Llawer o hwyl mewn gornest operatig

Llwyfannodd dau o fawrion y byd opera ornest hynod ddiddan ym Mhafiliwn Rhyngwladol Brenhinol Llangollen ac roedd y tŷ bron dan ei sang wrth eu bodd o’r dechrau i’r diwedd.

Cafodd prif seren canu Cymru, Bryn Terfel, ei gyplysu gyda’r tenor o Malta, Joseph Calleja a chreodd y cyfuniad o’r ddau ar y cyd â grym nerthol cerddorfa’r sinffonia Gymreig noson i’w chofio. (rhagor…)

Teitl côr y plant yn mynd i Indonesia

Roedd baner Indonesia’n chwifio’n uchel uwchben Llangollen ar ôl i Gôr Ieuenctid Pangudi Luhur gael eu coroni’n Gôr Plant y Byd yn yr Eisteddfod Ryngwladol.

Roedd llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite CBE, wrth law i gyflwyno’r tlws rhyngwladol i arweinydd y côr, Sonia Nadya Simanjuntak, y cafodd hithau hefyd ei choroni’n arweinydd mwyaf ysbrydoledig y gystadleuaeth.

Dywedodd Eilir Owen Griffiths, cyfarwyddwr cerdd yr Eisteddfod: “Roedd y safon yn eithriadol o uchel ond cafodd Côr Ieuenctid Pangudi Luhur sgôr uchel ar draws pob cystadleuaeth ac maen nhw’n llawn haeddu eu llwyddiant.

“Ac mae Sonia’n arweinydd gyda chymhelliant a brwdfrydedd a fydd yn sicrhau bod y côr yn mynd o nerth i nerth. Rwy’n gobeithio y gallwn eu croesawu nhw’n ôl i Ogledd Cymru yn 2017.”