Archifau Categori: Newyddion

Côr Caergaint yn rhagori mewn gŵyl nodedig

Fe gafwyd perfformiad rhagorol gan Côr Coleg Caint o Gaergaint wrth gystadlu mewn gŵyl gerddoriaeth ryngwladol nodedig.

Dan arweiniad yr arweinydd Jackie Spencer, cymerodd y côr ran yng nghystadleuaeth y Côr Plant Iau yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Ac er na wnaethon nhw i gipio’r brif wobr mi wnaeth y plant yn ardderchog mewn cystadleuaeth anodd iawn gan gystadlu yn erbyn corau o bob cwr o Gymru a Lloegr. (rhagor…)

Côr o Henffordd yn creu argraff mewn gŵyl gerddorol

Fe gafwyd perfformiad rhagorol gan Gôr Iau Eglwys Gadeiriol Henffordd wrth gystadlu mewn gŵyl gerddoriaeth ryngwladol nodedig.

Dan arweiniad yr arweinydd Rachael Toolan, cymerodd y côr ran yng nghystadleuaeth y Côr Plant Iau yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Ac er na wnaethon nhw i gipio’r brif wobr mi wnaeth y plant yn ardderchog mewn cystadleuaeth anodd iawn gan gystadlu yn erbyn corau o bob cwr o Gymru a Lloegr.

(rhagor…)

Côr Canon yn rhagori mewn gŵyl gerddorol

Fe gafwyd perfformiad rhagorol gan y North London Collegiate School Canon’s Choir o Edgware wrth gystadlu mewn gŵyl gerddoriaeth ryngwladol nodedig.

Dan arweiniad yr arweinydd Cassandra White, cymerodd y côr ran yng nghystadleuaeth y Côr Plant Iau yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

(rhagor…)

Côr o Ynys Môn yn ennill cystadleuaeth y plant yn yr Eisteddfod Ryngwladol

Daw pencampwyr Côr Ieuenctid Eisteddfod Ryngwladol Llangollen o Ynys Môn.

Enillodd Côr Ieuenctid Môn y wobr gyntaf yn dilyn cystadleuaeth galed rhwng wyth côr o Gymru a Lloegr.

Wrth wylo gyda llawenydd fe gasglodd cyfarwyddwr cerddorol ac arweinydd y côr, Mari Lloyd Pritchard, y tlws rhyngwladol a siec am £500 gan Enid Evans, 94 oed, o Fryste, a roddodd y tlws a’r wobr ariannol er cof am ei brawd, H Wyn Davies MBE a’i wraig Muriel. (rhagor…)

Gŵyl yn taro’r nodyn iawn ar gyfer llwyddiant ariannol

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi bod yn llwyddiant mawr iawn eleni ac yn ymddangos ei bod am dalu ei ffordd yn ariannol.

Llwyddodd tri o’r cyngherddau gyda’r nos i werthu bron bob un tocyn ar eu cyfer, sydd wedi rhoi hwb sylweddol i bethau dros y flwyddyn ddiwethaf, a daeth mwy o ymwelwyr nag yn 2015, gan ychwanegu at y rhagolygon ariannol iach.

Mae Dr Rhys Davies newydd gwblhau ei flwyddyn lwyddiannus gyntaf fel Cadeirydd yr Eisteddfod. Dyma ddywedodd ef: “Yn wahanol i’r blynyddoedd diwethaf, lle nad oedd pethau’n edrych yn rhy dda yn ariannol, rydym yn gwybod ein bod ni ar y llwybr iawn i dalu ein ffordd y tro yma. (rhagor…)

Y seren opera Bryn Terfel yn ymuno â’r plant mewn gweithdy cerdd Eisteddfod

Mae’r seren opera byd-enwog Bryn Terfel wedi bod yn canu mewn cytgord â phobl ifanc drwy gael hwyl gyda cherddoriaeth yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Gan gymryd seibiant o’r ymarferion ar gyfer Cyngerdd Gala Clasurol yr Eisteddfod, talodd Bryn ymweliad sydyn â’r babell lle’r oedd sefydliad gofal nodedig Parc Pendine yn cynnal bore o weithdai cerddorol fel rhan o weithgareddau Diwrnod y Plant yr ŵyl.

(rhagor…)