Archifau Categori: Newyddion

Llawer o hwyl mewn gornest operatig

Llwyfannodd dau o fawrion y byd opera ornest hynod ddiddan ym Mhafiliwn Rhyngwladol Brenhinol Llangollen ac roedd y tŷ bron dan ei sang wrth eu bodd o’r dechrau i’r diwedd.

Cafodd prif seren canu Cymru, Bryn Terfel, ei gyplysu gyda’r tenor o Malta, Joseph Calleja a chreodd y cyfuniad o’r ddau ar y cyd â grym nerthol cerddorfa’r sinffonia Gymreig noson i’w chofio. (rhagor…)

Teitl côr y plant yn mynd i Indonesia

Roedd baner Indonesia’n chwifio’n uchel uwchben Llangollen ar ôl i Gôr Ieuenctid Pangudi Luhur gael eu coroni’n Gôr Plant y Byd yn yr Eisteddfod Ryngwladol.

Roedd llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite CBE, wrth law i gyflwyno’r tlws rhyngwladol i arweinydd y côr, Sonia Nadya Simanjuntak, y cafodd hithau hefyd ei choroni’n arweinydd mwyaf ysbrydoledig y gystadleuaeth.

Dywedodd Eilir Owen Griffiths, cyfarwyddwr cerdd yr Eisteddfod: “Roedd y safon yn eithriadol o uchel ond cafodd Côr Ieuenctid Pangudi Luhur sgôr uchel ar draws pob cystadleuaeth ac maen nhw’n llawn haeddu eu llwyddiant.

“Ac mae Sonia’n arweinydd gyda chymhelliant a brwdfrydedd a fydd yn sicrhau bod y côr yn mynd o nerth i nerth. Rwy’n gobeithio y gallwn eu croesawu nhw’n ôl i Ogledd Cymru yn 2017.”

Gohebydd rhyfel profiadol yn dweud bod gŵyl yn cynnig gobaith mewn byd tywyll

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn taflu golau disglair gobeithiol yn erbyn tywyllwch yr oes hon.

Dyma oedd neges allweddol Martin Bell OBE, gohebydd rhyfel profiadol a chyn-wleidydd, yn ei araith o’r prif lwyfan fel un o Arlywyddion y Dydd yn yr ŵyl.

Daeth Mr Bell yn enwog fel y Dyn yn y Siwt Wen am ei fod yn arfer gwisgo felly, a bu’n sôn am ei bryderon am effaith y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn ddiweddar yn y refferendwm ym Mhrydain. (rhagor…)

Yr AS Jo Cox yn ysbrydoli neges heddwch draddodiadol yr Eisteddfod

Roedd geiriau’r AS Jo Fox, a gafodd ei llofruddio, yn ganolbwynt i’r Neges Heddwch a gyflwynwyd gan fyfyrwyr o grŵp theatr y Rhos cyn i’r cystadlu ddechrau yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Bu aelodau Theatr yr Ifanc Rhos, grŵp theatr ieuenctid sydd â mwy na 60 o aelodau, yn perfformio ar y llwyfan yn y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol ddydd Mercher yn cyflwyno’r neges draddodiadol yn gofyn i’r gynulleidfa ifanc werthfawrogi safbwyntiau pobl eraill a dathlu eu gwahaniaethau. (rhagor…)

Yr ymgyrchydd nodedig dros heddwch Terry Waite yn dadorchuddio plac ar safle Eisteddfod gyntaf Llangollen

Ar ddiwrnod cyntaf 70ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen hanesyddol, dadorchuddiodd ei lywydd, sef yr ymgyrchydd heddwch nodedig, Terry Waite blac ar y maes lle cynhaliwyd yr ŵyl am y tro cyntaf.

Llwyfannwyd Eisteddfod 1947 ar beth yw cae chwarae Ysgol Dinas Brân yn Llangollen erbyn hyn. Ei nod oedd helpu lleddfu creithiau’r Ail Ryfel Byd a orffennodd dim ond ddwy flynedd yng nghynt.

(rhagor…)

Julian yr actor o Hollywood yn cymryd rhan mewn noson serennog yng ngogledd Cymru

Mae un o actorion Hollywood sydd wedi gweithio gyda mawrion byd y ffilmiau fel Clint Eastwood a Morgan Freeman yn cymryd rhan mewn perfformiad serennog yng Ngogledd Cymru.

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi llwyddo i sicrhau gwasanaeth Julian Lewis Jones i gymryd rhan yr adroddwr mewn addasiad cyngerdd o opera Carmen gan Georges Bizet, gan gymryd rhan gyda’r sêr opera rhyngwladol o fri Kate Aldrich a Noah Stewart yn y cyngerdd agoriadol nos yfory (dydd Mawrth, mis Gorffennaf 5). (rhagor…)

Mae am fod yn ‘ansbaredigaethus’!

Bydd cast lliwgar “ansbaredigaethus” yn dod yn fyw mewn gŵyl gerddoriaeth a dawns eiconig.

Bydd canmlwyddiant yr athrylith llenyddol Roald Dahl, a aned yng Nghymru, yn cael ei ddathlu yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. (rhagor…)