Cyhoeddi manylion cynllun Rhythmau a Gwreiddiau Llangollen 2025

Yn dilyn prosiect peilot llwyddiannus iawn yn 2024, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn galw ar gymunedau amrywiol ledled Cymru i gymryd rhan mewn gweithgaredd arbennig ar gyfer gŵyl 2025.  Nôd y prosiect Rhythmau a Gwreiddiau Cymunedol, â gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yw archwilio natur amlddiwylliannol ac amlieithog y Gymru fodern, a datgloi potensial creadigol cymunedau sy’n byw yng Nghymru.

Mae’r prosiect yn adlewyrchu treftadaeth gyfoethog Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac yn cyd-fynd ag uchelgais y sefydliad o ddefnyddio’r celfyddydau a diwylliant i ddod â gwahanol gymunedau ynghyd mewn ysbryd o heddwch a chyfeillgarwch. Mae’r trefnwyr yn chwilio am grwpiau a chymunedau amrywiol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru sy’n dymuno rhannu eu straeon gyda Chymru a’r Byd, gan ddefnyddio cerddoriaeth, dawns a llenyddiaeth. Bydd y 6 ymgeisydd llwyddiannus yn arddangos eu perfformiadau yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 2025. Bydd pob grŵp yn cael eu cefnogi ar hyd eu taith gan artistiaid proffesiynol â fydd yn darparu hyfforddiant dawns, cerddoriaeth a llenyddiaeth pwrpasol i bob grŵp.

Gan weithio gyda phartneriaid allanol fel Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, partneriaid proffesiynol eraill ac artistiaid llawrydd, bydd gan bob un o’r chwe grŵp fynediad at gymorth arbenigol i’w helpu i adrodd eu straeon. Bydd rhywfaint o gymorth ariannol ar gael hefyd i’w helpu i arddangos eu cynyrchiadau yn Llangollen ym mis Gorffennaf 2025.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Prosiect, Garffild Lloyd Lewis, “Yn 2024, rhoddodd ein prosiect peilot gyfle i 3 grŵp o Gymuned Tsieineaidd Casnewydd, Cymuned Swdan Caerdydd a grŵp ieuenctid o Wrecsam i berfformio yn un o wyliau mwyaf godidog Cymru.  Eleni, bydd y gweithgaredd yn cynyddu, a rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda 6 grŵp o bob rhan o Gymru amlddiwylliannol.  Mae gan bob cymuned stori anhygoel i’w hadrodd a rydym yn falch iawn o roi’r cyfle iddyn nhw ar un o lwyfannau mwyaf Cymru.

“Bydd arweinwyr y prosiect yn darparu’r holl gefnogaeth a chymorth sydd eu hangen ar y grwpiau – y cyfan sydd ei angen arnom yw syniad creadigol gan eich grŵp a fydd yn cynrychioli cymuned amlddiwylliannol, amlieithog ac amrywiol yng Nghymru.  Y cyfan rydym ni ei angen, yw ymrwymiad i amserlen a fydd yn cynnwys ymarferion o Ionawr 2025 ymlaen, perfformiad cymunedol yn gynnar yn yr haf a digwyddiad llwyfanu â gynhelir yn Eisteddfod Llangollen ar ddydd Mercher y 9fed o Orffennaf, 2025.”

I grwpiau sydd â diddordeb yn y cyfle gwych hwn i gynrychioli eu cymunedau ar lwyfan byd, sy’n barod i arbrofi gyda gwahanol ffurfiau celfyddydol, sydd eisiau perfformio yn eu hiaith eu hunain ac eisiau adrodd eu stori unigryw – a chael eu cefnogi a’u hysbrydoli gan arbenigwyr ar hyd y ffordd, gallwch ddarganfod mwy yn:

https://international-eisteddfod.co.uk/get-involved/community-rhythm-and-roots/