Ar ôl cyhoeddi cyngherddau yr haf nesaf gyda Roger Daltrey, KT Tunstall, ILDivo a Bryn Terfel yr wythnos diwethaf, mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi rhoi tocynnau ar werth ar gyfer ei digwyddiadau dyddiol, a gynhelir rhwng 8 a 13 Gorffennaf 2025.
Yn 2025, bydd 4,000 o gystadleuwyr o gorau, grwpiau dawns ac ensembles yn teithio i Langollen o bob rhan o’r byd, ynghyd â 57 o grwpiau o bob rhan o’r DU. Mae hyn yn cynrychioli’r nifer uchaf o gystadleuwyr rhyngwladol ers blynyddoedd, wrth i’r dref groesawu’r byd i Gymru unwaith eto.
Daw grwpiau a gadarnhawyd ar gyfer Llangollen 2025 o gyn belled â Burundi, Canada, Tsieina, Costa Rica, Ghana, India, Indonesia, Cwrdistan, Moroco, Seland Newydd, Philippines, Portiwgal, Gweriniaeth y Congo, Singapore, De Affrica, Trinidad a Tobago, Wcráin, Unol Daleithiau a Zimbabwe. Bydd hefyd 22 o grwpiau nad ydynt yn cystadlu yn dod ag amrywiaeth o gorau, dawns ac ensembles.
Cynhelir cystadlaethau corawl, dawns ac offerynnol yr ŵyl yn ei phafiliwn eiconig 3,500 o seddi o ddydd Mercher 9 tan ddydd Sul 13 Gorffennaf 2025. Yn ogystal â 25 o gystadlaethau o safon fyd-eang, bydd digon i’w weld a’i wneud ar faes yr Eisteddfod hefyd.
Bydd dau lwyfan perfformio allanol, yn cynnwys cerddoriaeth fyw o bob rhan o’r byd, yn ogystal â bandiau lleol o’r Gogledd Ddwyrain Cymru. Bydd perfformiadau gan Rhythmau a Gwreiddiau Cymunedol (lle bydd 6 grŵp o bob rhan o’r Gymru yn perfformio), prynhawn Cymraeg (yn cynnwys perfformwyr Cymraeg newydd), a llawer mwy. Bydd y Neges Heddwch flynyddol yn cael ei chyflwyno nos Fercher 9 a Sadwrn 12 Gorffennaf ac mae’n ganolbwynt i nifer o weithgareddau sy’n hyrwyddo neges heddwch yr Eisteddfod.
Yn ychwanegol at hyn , bydd ardaloedd perfformio dros dro, Ardal Plant pwrpasol (yn cynnwys gweithgareddau hwyliog ac addysgol, gan gynnwys sgiliau syrcas), a “lle dawl” (sy’n darparu lle diogel i’r rhai sydd ei angen). Bydd celf a chrefft hefyd gan wneuthurwyr lleol, ynghyd â digon i’w fwyta a’i yfed.
Dywedodd Cadeirydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, John Gambles, “Bydd ein Eisteddfod 2025 yn llawer mwy na chyfres o gyngherddau ardderchog – bydd ein maes yn fwrlwm o liw, cerddoriaeth a dawnsio. Mae ‘na rywbeth i bawb mewn gwirionedd. Bydd ein rhaglen dyddiol yn Llangollen yn mor fendigedig fel ein cyngherddau nos. Eleni, rydym wedi cael nifer anhygoel o geisiadau o bob rhan o’r byd. Mae’n amlwg bod Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn dal i estyn allan i’r byd, a bydd ein gŵyl yn 2025 yn fwy ac yn well nag erioed.”