Fe ddoth Eisteddfod Rynglwadol Llangollen y gorau o lwyfan Lludain i galon Gogledd
Cymru wrth ddod a’u cyngerdd ‘Direct from the West End’ nos Iau.
Ddoth mawrion y Theatre Gerdd Kerry Ellis & John Owen Jones, y ddau efo rhestr eang o gyflawniadau yn glod iddynt, ynghýd a chôr Ieuenctid a cherddorfa gwych, eu doniau lleisiol aruthrol mewn rhaglen llawn ffefrynau’r sioeau mawr o Les Miserables i Funny Girl a Cats i Cabaret.
Yn canu’n unigol, roeddent ar dân, f’yntau efo ‘This is the Moment’ o ‘Jeckyll and Hyde’ a ‘Some Enchanted Evening’ o ‘South Pacific,’ ac hithe yn ngân teitl y sioe Cabaret ac ‘Defying Gravity’ allan o’r Wicked.
Fel deuawd roeddent yn disgleirio efo’u deuawd agoriadol ‘Beauty and the Beast’ o’r sioe ac yn hwyrach ymlaen, ‘The Last Night of the World’ allan o ‘Miss Saigon’ lle cafwyd cynulleidfa’r Pafiliwn ar fîn eu seddau.
Cafodd y ddau lawer o hwyl efo dau o’u ffefrynnau. Mae Kerry’n amlwg yn ymhyfrydu pob cyfle i wregysu allan y gan efo’r un teitl allan o Anything Goes yn yr un modd mae John yn gwneud yn ei berfformiad tyner o ‘Bring Him Home’ allan o Les Miserables. Sioe mae o’n gyfarwydd iawn efo gan iddo chwarae rhan Jean Valjean dwy waith ar Broadway.
Pan nad oeddent yn dal y gynulleidfa mewn swyn, ymlaen ddoth y Côr a oedd yn gymysg o gantorion talentog o Ysgol Hammond a Chôr merched Prima Voce o Seattle a oedd wedi dod ynghyd yn arbennig ar gyfer Eisteddfod 2024 o dan fanner Corws Rynglwadol
Llangollen. Nuthon nhw gychwyn efo ‘You Can’t Stop the Beat’ allan o ‘Hairspray’, wedyn nuthon ddilyn efo digonedd o ganeuon chwaethus.
Nath y Côr ymuno wedyn efo’r ddau seren, ac efo chefnogaeth ‘rymus Cerddorfa Ryngwladol Llangollen, cafwyd perfformiad deimladwy o ‘You’ll Never Walk Alone’ allan o ‘Carousel’ ddoth a chymeradwyaeth a’r cynulleidfa are eu traed. Cyfarwyddwr Cerdd y noson oedd yr hynod brofiadol Iestyn Griffiths.
Yn gynharach yn y cyngerdd, fe wnaeth Shea Ferron, 21 o’r ardal, ennill cystadleuaeth Llais Theatr Gerddorol. Fe wnaeth Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod Dave Danford gyflwyno fo efo gwobr o £2,000 ynhyd a’r tlws. Cafodd y gystadleaeth ei noddi gan Mrs Joan P Astley er cof am Bill ac Evelyn Appleby, cefnogwyr yr Eisteddfod am ambell flwyddyn.