Mae cystadleuwyr llwglyd yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cael cyfle i flasu teisennau cri Cymreig a wnaed gan ddwylo brenhinol.
Ar ddydd Mawrth ymwelodd y Tywysog Charles a Duges Cernyw â phencadlys y Village Bakery ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam, ac yn ystod taith o amgylch yr ardal gynhyrchu gwisgodd y pâr brenhinol gotiau a hetiau gwyn er mwyn rhoi help llaw i goginio’r bwyd blasus traddodiadol Cymreig ar radell boeth.
Y diwrnod wedyn dosbarthwyd 200 o bacedi am ddim o’r teisennau bach blasus gan dîm o’r becws arobryn a’u rhoi yn rhodd i adran lletygarwch yr Eisteddfod – gan gynnwys y teisennau cri y bu’r pâr brenhinol yn helpu i’w paratoi.
A chyn hir roedd cystadleuwyr o bedwar ban byd, nad oeddent erioed wedi blasu’r teisennau cri o’r blaen, yn eu sglaffio.
Dywedodd cynorthwyydd Marchnata Village Bakery, Kieran Windsor: “Mynnodd ein cadeirydd, Alan Jones, ein bod yn rhoi rhodd o deisennau cri Cymreig i achos teilwng Eisteddfod Llangollen, gan ein bod wedi cefnogi’r ŵyl ers nifer o flynyddoedd bellach.
“Gan fod Tywysog Cymru a Duges Cernyw hefyd yn ymweld â’r Eisteddfod yn fuan ar ôl iddynt fod gyda ni yn y Village Bakery, roeddem yn meddwl ei fod yn addas iawn fod y swp o deisennau cri yr oeddem yn eu darparu yn cynnwys rhai y bu’r pâr brenhinol yn ein helpu i’w coginio.”
Dywedodd Julie Sanders, cadeirydd Pwyllgor Cyllid yr Eisteddfod: “Rydym yn gwerthfawrogi rhodd y teisennau cri yn fawr, oherwydd yn ystod yr wythnos mae ein tîm o 100 o wirfoddolwyr lletygarwch yn bwydo cannoedd o gystadleuwyr llwglyd o bob rhan o’r byd, ac yn aml iawn nid oes llawer o arian i’w sbario gan amryw ohonynt.”
Un o’r rhai cyntaf i flasu’r teisennau bach wrth iddynt gael eu harddangos yn yr ardal lletygarwch oedd Katalin Fabry, 31 oed, sy’n aelod o Gôr Gesualdo o Hwngari fydd yn cystadlu yn ddiweddarach yn yr wythnos.
Dywedodd Katalin, sy’n dod o Budapest, prifddinas y wlad: “Roedd yn braf iawn blasu’r teisennau cri yn enwedig gan iddynt gael eu gwneud gan y Tywysog Charles a Duges Cernyw.
“Rwy’n gwybod eu bod yn ddanteithion nodweddiadol Gymreig felly roedd yn braf cael rhywbeth sy’n gysylltiedig â Llangollen lle rydym yn cael amser mor braf.”