Millie un o wirfoddolwyr yr Eisteddfod yn ennill gwobr ffotograffiaeth o fri

Mae gwirfoddolwr yn ei harddegau yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi ennill cystadleuaeth ffotograffiaeth genedlaethol o fri sy’n cael ei rhedeg gan y Sunday Times.
Bydd ffotograff buddugol Millie Adams Davies, o Langollen, yn cael ei arddangos yn yr Eisteddfod ble mae hi wedi bod yn wirfoddolwr ers oedd yn 11 oed.
Enillodd y ferch 19 oed gystadleuaeth y Sunday Times ar gyfer ffotograffwyr amatur gyda ffotograff o’r enw Merched sy’n Ciniawa, a dynnwyd yn La Paz yn ystod ei theithiau trwy Dde America y llynedd, ac sydd eisoes wedi ymddangos ar dudalennau’r papur newydd.
Mae’n dipyn o gamp i Millie, a fagwyd yn sŵn a sain yr Eisteddfod – mae ei rhieni yn ddeiliaid tocynnau tymor a’i thad Dr Rhys Davies, sy’n feddyg teulu lleol wedi ymddeol, yw is-gadeirydd presennol yr ŵyl.
Unwaith yr oedd Millie yn ddigon hen i gymryd rhan ei hun, neidiodd at y cyfle i ymuno â’r 800 o wirfoddolwyr sy’n sicrhau bod y wledd gerddorol yn rhedeg yn esmwyth bob blwyddyn.
Dywedodd: “Rwyf wedi mynd i’r Eisteddfod bob blwyddyn o fy mywyd. Mae’r ŵyl ar garreg ein drws ac roedd Mam a Dad bob amser yn mynd â fi i’r ŵyl felly unwaith oeddwn yn 11 oed, roeddwn eisiau ymuno fel gwirfoddolwr.
“Roeddwn yn dywysydd yn fy mlwyddyn gyntaf ac yna ymunais â’r pwyllgor blodau a dw i wedi bod yn helpu byth ers hynny.”
Yn y blynyddoedd ers hynny gadawodd Millie Ysgol Y Gwernant, a chwblhau ei haddysg uwchradd yn Neuadd Moreton, gan gymryd blwyddyn allan i deithio cyn dechrau astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Treuliodd Millie llawer o’r flwyddyn ddiwethaf yn Ne America. Dechreuodd drwy ymweld â’i brawd a oedd yn byw yn Chile ar y pryd ac yna mynd ymlaen i dreulio saith mis yn yr ardal.
Meddai: “Mi wnes i aros gyda fy mrawd dros y Nadolig ac yna mynd ymlaen i Santiago i wneud cwrs Sbaeneg am fis.
“Ar ôl hynny mi wnes i ymuno â phrosiect cadwraeth ym Mheriw a threulio bron i dri mis yno yn mynd ar drywydd ieir bach yr haf a dal madfallod mewn rhannau anghysbell o’r goedwig law, y gallech ond eu cyrraedd mewn cwch.
“Roedd yn brofiad anhygoel a hollol wahanol. Ar ôl hynny mi wnes i ychydig mwy o deithio drwy Bolifia, yr Ariannin ac yn ôl i Chile.”
Yn ystod ei hanturiaethau tynnodd Millie filoedd o ffotograffau ac fe gafodd un ohonynt ei gyhoeddi yn y Sunday Times yr wythnos diwethaf.
Meddai: “Roeddwn yn darllen yr adran teithio yn y papur, fel rwyf bob amser yn gwneud, a gwelais eitem yn sôn am y gystadleuaeth ffotograffig yma. Roeddwn wedi cymryd cymaint o luniau ar fy nheithau, ond fy hoff un oedd grŵp o ferched yn Bolifia yn eistedd ar risiau Eglwys Gadeiriol San Francisco yn La Paz, felly mi wnes anfon y llun i mewn.
“Cefais e-bost ar ddiwedd yr wythnos yn dweud mai fi oedd enillydd yr wythnos honno ac y byddwn i’n derbyn £250 mewn talebau i’w gwario ar offer ffotograffig.”
Mae hyn yn newyddion da i Millie gan fod ei chamera ffyddlon wedi cael sawl ergyd ar ei theithiau, wrth iddi fynd i dywod-fyrddio, mwynhau ymladd mwd, ei ollwng ar lwybr Machu Picchu a’i orchuddio mewn tywod dro ar ôl tro.
Bellach bydd yn gallu prynu un newydd, ac mae Millie eisoes yn cynllunio ei theithiau yr haf hwn ar draws Ewrop, unwaith y bydd wedi gorffen ei nawfed blwyddyn fel un o selogion yr Eisteddfod Ryngwladol.
Unwaith eto, mae hi wedi helpu i drefnu’r gosodiadau blodau ger y llwyfan y mae’r ŵyl yn enwog amdanynt, yn ogystal â gwerthu bwnseidi a basgedi o flodau.
Dywedodd Millie: “Rydw i wir yn mwynhau hyn. Rwy’n neilltuo amser arbennig i wneud hyn bob blwyddyn ac rydych bob amser yn cyfarfod â’r un bobl unwaith eto sydd yn hyfryd.
“Mae’n amser da iawn i ymarfer fy Nghymraeg hefyd gan fy mod yn arfer bod yn rhugl pan oeddwn i’n fach ond rwyf wedi mynd mymryn yn rhydlyd erbyn hyn.”
Dros y blynyddoedd wrth weithio tu ôl y llenni ym mhrif ddigwyddiad cerddorol gogledd Cymru mae Millie wedi taro ar draws pob math o enwogion.
Meddai: “Mae llawer o bobl yn hoffi dod draw i’r babell flodau, felly galwch gael pob math o sgyrsiau ar hap gyda phobl reit enwog fel Terry Waite a phobl o’r teledu.
“Ar un adeg roedd rhaid i mi fynd ar y llwyfan i gyflwyno tusw i Syr Willard White a oedd yn brofiad hynod o cŵl, ac fe ges i brynu ffrog newydd ar gyfer yr achlysur hefyd!”
Er gwaethaf ei hangerdd am gerddoriaeth, mae Millie wedi dilyn yn ôl traed ei rhieni ac mae hi newydd gwblhau ei blwyddyn gyntaf fel myfyriwr meddygol yng Nghaerdydd.
Meddai: “Mae Mam a Dad yn weithwyr meddygol proffesiynol felly dechreuais allan yn dweud fy mod am wneud unrhyw beth ond hynny – roeddwn hyd yn oed yn ystyried mynd yn astronot, unrhyw beth dim ond i fod yn wahanol.
“Ond ar ôl ychydig roedd rhaid i mi roi mewn a chyfaddef mai dyna oedd yr unig beth yr oedd gen i ddiddordeb ynddo. Byddwn i’n eithaf hoffi gweithio mewn llawfeddygaeth a dw i’n bendant yn mynd i dreulio peth amser dramor gyda Medecins Sans Frontieres gan fy mod yn credu ei bod yn elusen wych.”
Dywedodd Gethin Davies, Cadeirydd yr Eisteddfod: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Millie a gweddill ein gwirfoddolwyr – ni fyddai’r digwyddiad yn gweithio hebddynt.
“Mae’n wych hefyd ei bod hi wedi ennill y gystadleuaeth hon ac mae’n amlwg bod ganddi amrywiaeth o ddoniau, yn enwedig yn yr adran flodau lle mae gennym arddangosfa anhygoel bob amser.”
Bydd llun buddugol Millie o’r Sunday Times yn cael ei arddangos yn y Babell Ymwelwyr yn yr Eisteddfod eleni.